Data ar gyfer pobl ifanc yn ôl oedran, rhyw, rhanbarth a statws anabledd ar gyfer 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET)
Mae'r data yn y cyhoeddiad hwn yn ymwneud â blwyddyn galendr 2020, y rhan fwyaf ohono yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Efallai bod y pandemig wedi effeithio ar gyfleoedd addysg, cyflogaeth a hyfforddiant yn ystod 2020.
Pobl ifanc 16 i 18 oed
- Ar y cyfan, roedd cyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed sy’n NEET wedi bod yn gostwng yn raddol rhwng 2011 a 2017, ond wedi cynyddu rhywfaint yn 2018 a 2019. Mae maint y cynnydd hwn yn amrywio yn dibynnu ar y ffynhonnell a ddefnyddir.
- Ar sail y datganiad ystadegol cyntaf (SFR), ar ddiwedd 2019 roedd 11.1% o bobl ifanc 16 i 18 oed yn NEET (11,200) o gymharu â 10.6% (10,800) ar ddiwedd 2018.
- Ar sail yr arolwg poblogaeth blynyddol, am y flwyddyn yn gorffen Ch4 2020, amcangyfrifwyd bod 7.4% o bobl ifanc 16 i 18 oed yn NEET, o gymharu â 10.2% ar ddiwedd y flwyddyn a ddaeth i ben yn Ch4 2019.
Pobl ifanc 19 i 24 oed
- Ar sail y SFR, ar ddiwedd 2019 roedd 15.7% o bobl ifanc 19 i 24 oed yn NEET (37,400) gostyngiad o gymharu ag 16.0% (38,500) yn 2018.
- Ar ddechrau dirwasgiad 2008 gwelodd cyfran y bobl ifanc 19 i 24 oed a oedd yn NEET gynnydd mawr o 17.4% yn 2008 i tua 22% i 23% rhwng 2009 â 2012. Yna gostyngoddym mhob blwyddyn ddilynol hyd at 2017. Roedd y gostyngiad hwn yn deillio o gynnydd yng ngweithgarwch y farchnad lafur, gyda chyfranogiad mewn addysg a hyfforddiant yn aros yn gymharol sefydlog.
- Ar sail yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol, am y flwyddyn a ddaeth i ben yn Ch4 2020, amcangyfrifwyd bod 14.9% o bobl ifanc 19 i 24 oed yn NEET, o gymharu ag 15.6% ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben yn Ch4 2019.
Ffynonellau ystadegol
- Datganiad Ystadegol Cyntaf ‘Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur’ yn defnyddio ffynonellau data addysg a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.
- Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol).
Dylid nodi mai amcangyfrifon yw pob ffynhonnell. Mae ein canllaw ar ddeall y ffynonellau gwahanol o ystadegau ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru’n darparu rhagor o wyboda
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET): 2020 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 31 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.