Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg a Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Fis Ionawr diwethaf roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bwriad i gynnal prosiect peilot mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, i brofi effaith cyfradd cyllido gyson ar addysg yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant, fel rhan o Gynnig Gofal Plant Cymru.
Yn dilyn gwerthusiad annibynnol o'r peilot, rydym yn falch i gyhoeddi o Ebrill 2020 ymlaen byddwn yn sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol yng Nghymru. Gwneir hynny er mwyn i'r awdurdodau lleol gynyddu'r maint o gyllid y maent yn ei roi i'r sector nas cynhelir, fel bod hynny'n gyson â chyfradd cyllido bresennol Llywodraeth Cymru (£4.50). I sicrhau tegwch ledled Cymru, byddwn yn defnyddio fformiwla safonol ar gyfer y cyllid.
Bydd y cyllid hwnnw’n helpu i sicrhau bod y sector yn fwy cynaliadwy. Mae hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau gofal ac addysg o ansawdd uchel. Golyga hynny bod angen parhau i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant a rhoi'r cymorth sydd ei angen ar rieni i wneud y penderfyniadau y mae'n rhaid iddynt eu gwneud.
Mae cysoni'r cyfraddau cyllido ar gyfer plant meithrin y Cyfnod Sylfaen a gofal plant o dan y Cynnig Gofal Plant yn dangos yn glir bod Llywodraeth Cymru yn rhoi gwerth cyfartal ar addysg yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant o ansawdd da.
Wrth edrych tuag at y dyfodol, bydd y cyllid hwn hefyd yn sicrhau bod gennym sylfaen gadarn i ddatblygu ein gweledigaeth o gael system addysg a gofal plant yn y blynyddoedd cynnar, er mwyn inni greu un ffordd o weithio o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y plentyn.