Gwaith Cyfuno yn cefnogi sefydliadau diwylliannol i wella lles a sgiliau cyflogaeth pobl.
Yn y casgliad hwn
Cyfuno yw ein rhaglen a ddatblygwyd fel ymateb i'r adroddiad Diwylliant a Thlodi a ysgrifennwyd gan y Farwnes Andrews ac a gyhoeddwyd yn 2014.
Mae'n annog cydweithio rhwng sefydliadau diwylliant a threftadaeth a chyrff fel awdurdodau lleol, i gynyddu cyfleoedd i'r rheini mewn ardaloedd o anfantais economaidd. Mae'r cyfleoedd hyn yn cynnwys:
- mynediad i wirfoddoli
- cydweithio â chymunedau
- profiad gwaith
- gwella sgiliau digidol
- blynyddoedd cynnar
- dysgu teuluol
- gwella dulliau dysgu a lles.
Mae'r cynlluniau cyflawni Cyfuno a'r Ffeithluniau yn dangos trosolwg o'r rhaglen gyfredol a chyflawniadau diweddar.
Mae'r Cynllun Grant Her yn cael ei ddarparu gan y cydgysylltwyr Cyfuno yn y meysydd canlynol:
- Caerdydd
- Sir Gaerfyrddin
- Conwy
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Abertawe
- Torfaen
- Caerffili
- mewn partneriaeth ag amrywiaeth o bartneriaid diwylliannol a threftadaeth lleol a chenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys:
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Amgueddfa Genedlaethol Cymru
- Cyngor Celfyddydau Cymru
- Cadw
Mae'r rhaglen Cyfuno wedi darparu cyllid ar gyfer mentrau eraill megis:
- Hyrwyddwyr Ifanc yn cael eu darparu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru
- Plant mewn Amgueddfeydd
- Rhaglen Uchelgais Ddiwylliannol sy'n cael ei hariannu'n rhannol gennym ni a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a
- Hyfforddiant gwirfoddoli ar-lein
- Hyfforddwyr Gwobr y Celfyddydau
Roedd y prosiectau hyn i gyd yn rhan o amcanion ehangach y rhaglen Cyfuno.
I gael rhagor o wybodaeth am Fusion, cysylltwch â DiwylliantAChwaraeon@llyw.cymru
Adroddiadau
Ein hadroddiadau yn amlinellu sut rydym yn cael sefydliadau diwylliant a threftadaeth i weithio'n agosach â chyrff fel awdurdodau lleol drwy ein rhaglen Cyfuno.
Astudiaeth achos
Astudiaethau achos yn dangos Cyfuno ar waith.
Ffeithlun
Ffeithluniau sy'n dangos sut mae Cyfuno yn helpu i wella bywydau pobl ledled Cymru.