Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Mae adran 45C o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (“Deddf 1984”) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu yn erbyn, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Fel y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a chan ddefnyddio’r pwerau o dan adran 45C o Ddeddf 1984, gwnes Reoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 er mwyn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i fynychder a lledaeniad Covid-19. Daeth y rheoliadau i rym ar 11 Ionawr a byddant yn dod i ben ar ddiwedd y dydd ar 31 Mawrth 2021.
Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn, a phu’n a yw’r cyfyngiadau hynny yn gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt:
- o leiaf unwaith yn y cyfnod o 11 Ionawr 2021 i 28 Ionawr 2021; ac
- o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 21 diwrnod.
Yn unol â’r gofyniad hwnnw, rwyf wedi cwblhau’r adolygiad cyntaf o’r Rheoliadau. Rwyf wedi dod i’r casgliad na ddylid addasu na dirymu’r Rheoliadau oherwydd y nifer parhaus o achosion o Covid-19 yn y gymuned a’r penderfyniad i gadw Cymru ar lefel rhybudd 4.
Mae copi o’r Rheoliadau a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig i’w gweld yma ac yma.