Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Heddiw, rwyf wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar ein Cynllun Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon drafft i Gymru. Mae taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon yn annerbyniol ac nid oes esgusodion dros y math hwn o ymddygiad. Gall y troseddau hyn beryglu iechyd a chreu amgylchedd peryglus i'n cymunedau, ein hanifeiliaid anwes a’n bywyd gwyllt. Gall ansawdd amgylcheddol lleol gwael ddifetha mwynhad o'n trefi a'n cefn gwlad a gall arwain at effaith negyddol ar iechyd meddwl a lles pobl.
Gall y costau sydd ynghlwm wrth glirio ac ymchwilio i'r troseddau amgylcheddol hyn fod yn faich sylweddol ar bawb sy'n gysylltiedig â’r broblem. Yn achos Awdurdodau Lleol, arian trethdalwyr yw hwn yn y pen draw. Gellid dyrannu'r arian hwn ar gyfer meysydd eraill, er enghraifft, gofal cymdeithasol neu addysg. Ymddygiadau gwrthgymdeithasol yw taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon sy'n aml yn golygu bod ardal yn ymddangos mewn cyflwr gwael ac wedi'i hesgeuluso. Mae hyn yn aml yn annog ymddygiad gwrthgymdeithasol pellach neu droseddau mwy difrifol.
Yr wyf wedi ymrwymo i droi'r llanw ar bla taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon yng Nghymru. Rhaid i bawb gymryd cyfrifoldeb am waredu eu gwastraff yn iawn. Er nad yw hon yn broblem sy'n unigryw i Gymru, rwy'n benderfynol y dylem ddod yn genedl lanach a fydd yn esiampl i’w hefelychu gan wledydd eraill. Credaf fod y sylfaen ar gyfer cyflawni hyn eisoes wedi'i gosod gyda'n lefelau parhaus uchel o fuddsoddiad yn ein seilwaith ailgylchu a'r cymorth parhaus a ddarparwn i'r nifer fawr o grwpiau cymunedol sy'n gweithio'n galed ledled Cymru.
Mae ein dull presennol wedi cyflawni llawer iawn, ond mae sbwriel a thipio anghyfreithlon yn parhau’n broblem. Mae hyn wedi bod yn arbennig o amlwg yn ystod pandemig COVID-19. Er bod llawer o bobl wedi ailddarganfod, wedi ailgysylltu ac wedi meithrin mwy o werthfawrogiad o'u hardaloedd lleol, adroddwyd yn y cyfryngau am fwy o daflu sbwriel mewn mannau prydferth lleol a sbwriel yn cael ei adael pan gaewyd cyfleusterau amrywiol. Yn anffodus, dangosodd hyn y gall ymddygiad ambell un gael effaith sylweddol ar fwynhad llawer.
Er mwyn mynd i'r afael â hyn, credwn fod angen dull gweithredu cenedlaethol integredig i ddylanwadu ar newid ymddygiad cadarnhaol ar raddfa fawr. Datblygwyd ein Cynllun mewn cydweithrediad ag ystod eang o bartneriaid, gan ddefnyddio eu profiad ar lefel leol a chenedlaethol. Ein huchelgais yw cael Cymru ddi-sbwriel a heb dipio anghyfreithlon. Rydym wedi nodi pum thema allweddol, sydd, yn ein barn ni, yn hanfodol i gyflawni hyn. Y rhain yw:
- Lleihau Gwastraff
- Tystiolaeth, Monitro a Gwerthuso
- Addysg a Newid Ymddygiad
- Gorfodi
- Cyflawni Gweithredol
Cefnogir y themâu gan nifer o gamau gweithredu a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i bawb yng Nghymru chwarae eu rhan, o gynhyrchwyr i fusnesau i'r rhai sy'n gwaredu'r eitemau. Rwy'n cydnabod na all unrhyw un sefydliad fynd i'r afael â'r materion hyn ar wahân. Dim ond drwy gydweithio y gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Cymru. Yn aml, nid yw'r rhai sy'n taflu sbwriel neu'n tipio'n anghyfreithlon yn poeni am bwy sy'n berchen ar y tir neu a fydd yn gorfod talu i'w glirio. Felly, bydd dod o hyd i atebion i'r broblem yn gofyn am gyfranogiad gan ystod eang o sectorau, nid cyrff cyhoeddus yn unig.
Bydd gan ein Cynllun rôl bwysig o ran sicrhau Cymru ddiwastraff a gwireddu economi fwy cylchol lle caiff adnoddau eu gwerthfawrogi a lle y caiff gwastraff ei osgoi. Mae gwerth i lawer o'r deunyddiau sy'n cael eu taflu fel sbwriel a gellid eu hailgylchu, eu hailbrosesu neu eu hail-wneud. Cyhoeddwyd ymchwil gennym yn 2019 a amcangyfrifodd fod tua 16,000 tunnell o ddeunyddiau ailgylchadwy a allai fod yn werthfawr yn cael eu colli o'r system wastraff bob blwyddyn, naill ai drwy fynd i mewn i'r amgylchedd fel sbwriel neu gael eu hanfon i safleoedd tirlenwi drwy finiau sbwriel. Mae'r rhain yn ddeunyddiau sydd eu hangen ar ein busnesau i wneud y cynhyrchion a ddefnyddiwn. Drwy fynd i'r afael â sbwriel a thipio anghyfreithlon, byddwn yn helpu Cymru i arwain ar lefel fyd-eang ym maes ailgylchu.
Credaf y bydd integreiddio ein gweithgareddau ar draws pob sector, gan gynnwys pawb yn llawn ar bob lefel a sicrhau ein bod i gyd yn cymryd cyfrifoldeb, yn sicrhau bod Cymru'n trechu problem sbwriel a thipio anghyfreithlon. Byddwn yn croesawu unrhyw farn ar gynnwys arfaethedig y Cynllun Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 22 Ebrill.
https://llyw.cymru/cynllun-atal-sbwriel-thipio-anghyfreithlon-i-gymru