Neidio i'r prif gynnwy

Bydd llinell gymorth genedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru yn cau rhwng 25 Rhagfyr a 1 Ionawr. Gallwch gysylltu â'r llinell gymorth am gefnogaeth tan 4:30yp ar 24 Rhagfyr neu o 9yb ar 2 Ionawr. Byddwch yn dal i allu cael mynediad i'ch cyfrif ar-lein trwy gydol y cyfnod hwn.

Gall rhieni sydd eisoes wedi cofrestru ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru fewngofnodi yma. I gael mynediad at y gwasanaeth hwn am y tro cyntaf, cael 30 awr o ofal plant ar gyfer plant 3 a 4 oed.

Os ydych eisoes wedi cofrestru gallwch fewngofnodi i:

  • ddiweddaru manylion eich cais
  • gadarnhau eich cymhwysedd parhaus
  • drefnu dyddiadau ac amseroedd gofal plant gyda’r darparwyr gofal plant o’ch dewis
  • ymgeisio ar gyfer plentyn arall

Rhaid i chi gadarnhau os yw’ch manylion neu’ch amgylchiadau chi neu’ch partner wedi newid. Er enghraifft, newid swydd neu statws budd-daliadau.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i reoli ceisiadau ar gyfer gofal plant a ariennir sy’n dechrau ar 1 Ionawr 2023 neu ar ôl hynny. Cysylltwch â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd i drafod gofal plant cyn 1 Ionawr 2023.

Dylai fod gennych chi enw defnyddiwr a chyfrinair Porth y Llywodraeth eisoes.

Defnyddiwch gyfrif Porth y Llywodraeth sy gennych chi eisoes. Peidiwch â chreu cyfrif arall.

Cyn ichi ddechrau

Ni all darparwyr gofal plant fewngofnodi yma. Rhaid iddynt fewngofnodi i’w cyfrif darparwr ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru.