Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog
Bydd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn cael eu diwygio ddechrau'r wythnos nesaf i helpu i sicrhau bod pobl yn fwy diogel pan fyddant yn mynd i siopa ac i gryfhau’r mesurau diogelu yn y gweithle.
Cyfarfu Gweinidogion yr wythnos hon â manwerthwyr allweddol i drafod eu rôl hanfodol yn ystod y pandemig. Fe wnaethant hwythau sôn am y camau y maent yn eu cymryd, sy’n cynnwys darparu hylif diheintio i lanhau dwylo a throlïau wrth fynd i mewn, cyfyngu'r nifer sydd yn y siop ar unrhyw adeg, a gwneud cyhoeddiadau rheolaidd yn atgoffa pobl i gadw eu pellter oddi wrth eraill.
Byddwn yn cryfhau’r rheoliadau i sicrhau bod manwerthwyr yn cymryd y camau hyn fel bod eu safleoedd mor ddiogel â phosibl i siopwyr a'u gweithwyr fel ei gilydd. Mae llawer eisoes yn gweithredu’n unol â’r safonau uchel hyn ac mae angen inni godi'r safon ar gyfer y rhai a allai ac a ddylai wella.
Er mwyn gwneud rhagor i sicrhau bod pob busnes a safle yn cymryd camau effeithiol i leihau lledaeniad y coronafeirws, rydym yn cadarnhau yn ein rheoliadau bod rhaid cynnal asesiadau risg coronafeirws. Yr asesiadau risg hyn fydd y man cychwyn ar gyfer gweithredu'r mesurau rhesymol y mae'n ofynnol eu cymryd i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn safleoedd sy'n agored i'r cyhoedd ac mewn gweithleoedd. Mae cymryd mesurau rhesymol yn ofynnol eisoes yn ôl ein rheoliadau.
Wrth gynnal asesiad risg coronafeirws bydd gofyn ystyried a yw’r awyru'n ddigonol, hylendid, sicrhau bod pellter corfforol yn cael ei gadw; a’r defnydd o gyfarpar diogelu personol a gorchuddion wyneb. Dylid ymgynghori â staff a'u cynrychiolwyr wrth gynnal yr asesiad. Bydd gofyn ystyried hefyd sut y gall cyflogwyr sicrhau bod cymaint o bobl ag sy’n bosibl yn gallu gweithio gartref.
Bydd hyn yn ategu'r cyfreithiau iechyd a diogelwch galwedigaethol sy’n bodoli’n barod ac yn gwneud elfennau o’r asesiadau risg cyfredol yn orfodol er mwyn ymateb i’r coronafeirws.
Rhaid i asesiadau risg gael eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd, pryd bynnag y bydd amgylchiadau'n newid ac rwyf am egluro yn y gyfraith bod hyn yn cynnwys pryd bynnag y bydd Lefelau Rhybudd COVID-19 yn newid yng Nghymru.
Dim ond y rhai sy'n cyflogi pump neu fwy o bobl fydd yn gorfod cofnodi'r asesiad risg. Rydym yn gweithio'n agos gyda chyflogwyr, undebau llafur, awdurdodau lleol a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i ystyried manylion y broses o gadw lleoliadau gwaith yn ddiogel.
Rydym am i bawb ddilyn y rheolau a helpu i achub bywydau.