Darparu eitemau cyfarpar diogelu personol: hyd at 10 Ionawr 2021
Diweddariad gwybodaeth rheoli ar eitemau cyfarpar diogelu personol (PPE) sydd wedi’u darparu yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19) hyd at 10 Ionawr 2021.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Prif ganlyniadau
Mae’r ystadegau hyn yn dangos y nifer diweddaraf o eitemau PPE sydd wedi’u darparu i’r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
- Ers 9 Mawrth 2020, mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) wedi darparu 563.5 miliwn o eitemau PPE i’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Darparwyd tua 276 miliwn o'r rhain i'r sector gofal cymdeithasol.
- Yn y saith diwrnod hyd at ddydd Sul 10 Ionawr 2021 darparwyd 14.6 miliwn o eitemau.
- Mae’r nifer wythnosol o eitemau PPE a ddarparwyd wedi cynyddu’n gyffredinol ers mis Mawrth 2020 gan gyrraedd uchafbwynt o 20.2 miliwn ym mis Mai 2020. Ers hynny, mae nifer yr eitemau a ddarparwyd bob wythnos wedi amrywio ond at ei gilydd mae wedi aros o gwmpas 14 miliwn.
Eitem | Ers 9 Mawrth 2020 | Yn y saith diwrnod hyd at 10 Ionawr 2021 |
---|---|---|
Ffedogau | 104,486,925 | 2,374,350 |
Bagiau cyrff | 11,101 | 305 |
Cyfarpar amddiffyn llygaid | 1,621,890 | 710 |
Masgiau Math I a Masgiau Math II | 1,114,900 | 7,750 |
Masgiau Math IIR | 132,106,556 | 2,351,750 |
Masgiau FFP2 | 120,420 | 880 |
Masgiau FFP3 | 2,575,068 | 77,110 |
Feisorau wyneb | 4,586,716 | 126,654 |
Gosod citiau profi a darnau sbâr | 5,803 | 107 |
Menyg | 303,330,830 | 6,719,150 |
Menyg â chyffiau | 1,263,650 | 2,250 |
Gynau (gwrth-hylif) | 1,800,132 | 41,530 |
Gynau (arall) | 602,739 | 5,825 |
Hylif diheintio dwylo | 358,495 | 4,811 |
Clytiau diheintio dwylo | 9,509,275 | 2,889,200 |
Hidlyddion anadlyddion | 22,176 | 0 |
Cyflau anadlyddion | 102 | 0 |
Cyfanswm | 563,516,778 | 14,602,382 |
Ffynhonnell: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Mae’r ffigurau a nodir ar gyfer eitemau PPE wedi’u seilio ar unedau unigol, ac eithrio:
- menyg: caiff uned ei nodi ar sail maint uned pecyn
- hylif diheintio dwylo: potel yw’r uned ni waeth beth fo’r maint
Noder: Mae'r data hwn yn ddarostyngedig i ddiwygiadau ac nid yw cyhoeddiadau blaenorol yn cael eu diwygio. Y ffigurau diweddaraf yw'r ffigurau mwyaf cyfoes a bydd ffigurau cronnol yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau hanesyddol.
Nifer wythnosol yr eitemau PPE a ddarparwyd yn ôl dyddiad ar StatsCymru
Gwelwyd gostyngiad yn y nifer wythnosol o eitemau PPE a ddarparwyd yn yr wythnos a ddaeth i ben 3 Ionawr 2021 oherwydd y cyfnod sy’n cynnwys gwyliau banc yn ogystal â storfeydd lleol yn defnyddio stociau ychwanegol a gaffaelwyd cyn y Nadolig.
Mae’r data sy’n cyd-fynd â’r siart ar gael ar StatsCymru.
2. Gwybodaeth ansawdd a methodoleg
Gwybodaeth rheoli yw’r data hyn a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP). Mae NWSSP yn caffael ac yn dosbarthu PPE ar gyfer y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Rydym yn cyhoeddi hyn er mwyn rhoi crynodeb wythnosol o eitemau PPE a ddarparwyd tra mae’n dal i fod yn berthnasol i’r ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid yw’r data hyn wedi mynd drwy’r un lefel o sicrhau ansawdd ag ystadegau swyddogol a gellid diwygio’r data yn y dyfodol.
Mae’r byrddau iechyd lleol yn archebu eitemau o gyfarpar diogelu personol (PPE) gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) drwy system ar-lein. Yna caiff yr eitemau eu dosbarthu o warysau NWSSP drwy slotiau dosbarthu a drefnwyd. Mae prosesau ar waith hefyd i fyrddau iechyd lleol ofyn am gael cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol ar frys os oes angen, ac mae'r danfoniadau brys hyn wedi'u cynnwys yn y data hyn. Mae'n bosibl i rai eitemau gael eu dogni o bryd i'w gilydd os yw'r stociau'n isel. Mae’r byrddau iechyd lleol yn cadw eu stociau PPE eu hunain ac mae’n bosibl hefyd eu bod yn cael gafael ar gyflenwadau ar wahân i'r broses hon. Dim ond stoc o NWSSP y mae’r data yn ei gynnwys ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw stoc y mae’r GIG neu awdurdodau lleol wedi’i gaffael yn uniongyrchol. Bydd y data yn cynnwys PPE wedi’i gaffael yn uniongyrchol gan NWSSP yn ogystal â PPE a ddosbarthwyd i NWSSP gan Lywodraeth y DU. Mae’n cynnig ciplun o’r sefyllfa ar adeg benodol wrth i’r sefyllfa honno newid.
Mae’r datganiad hwn yn cynnwys eitemau PPE a ddarparwyd ers 9 Mawrth 2020 gan mai dyma pryd y sefydlwyd y trefniadau adrodd presennol.
Mae’r data yn y datganiad hwn yn gywir am 8yp ar 10 Ionawr 2021.
Statws Ystadegau Gwladol
Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.
Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Diben y nodau yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, lewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus, a diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ('dangosyddion cenedlaethol') y mae’n rhaid eu defnyddio at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.
Diweddariad nesaf
Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau 21 Ionawr 2021.
Rydym eisiau eich adborth
Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd o’r ystadegau hyn. Gallwch anfon adborth dros e-bost i kas.covid19@llyw.cymru.
3. Manylion cyswllt
Ystadegydd: Abi Woodham
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 12/2021