Data ynglŷn â nifer y bobl a gadwyd o dan Adran 135 ac 136 yng Nghymru yn ôl oedran, rhyw, ethnigrwydd, man diogel a chanlyniad yr asesiad ar gyfer Ebrill i Fehefin 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Nifer y bobl a gadwyd o dan Adran 135 ac 136 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl
Y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yw'r gyfraith yng Nghymru a Lloegr sy'n caniatáu i bobl gael eu derbyn i'r ysbyty, gyda neu heb eu cydsyniad, ar gyfer asesu a thrin anhwylder meddyliol.
Mae'r ystadegau hyn yn cyfrannu at ddealltwriaeth o'r defnydd o Adrannau 135 a 136 o'r Ddeddf iechyd meddwl ledled Cymru a gwaith amlasiantaeth i ymateb i ofal mewn argyfwng iechyd meddwl.
Prif bwyntiau
- Cafwyd 23 achos o gadw pobl o dan Adran 135 ac 574 achos o gadw pobl o dan Adran 136 yng Nghymru.
- Roedd y gyfran uchaf o'r holl gadw ar ôl yn wrywaidd.
- Roedd 91.0% o bob achos yn 18 oed neu'n hŷn.
- Roedd 95.0% o'r bobl a gadwyd yn perthyn i’r grŵp ethnig Gwyn.
- Lleoliad iechyd diogel oedd y man diogel cyntaf yr aethpwyd â 73.5% o'r bobl a gadwyd iddo, a cherbyd heddlu oedd y dull cludo mwyaf tebygol.
- Ar ôl cael eu hasesu, cafodd 46.9% o'r bobl a gadwyd eu rhyddhau gyda chynllun gofal iechyd meddwl yn y gymuned.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: hss.performance@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.