Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg
Rwy’n falch i hysbysu Aelodau fy mod wedi cyhoeddi Adroddiad Cynnydd 2020 ar Gynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg Llywodraeth Cymru.
Wrth i mi gyhoeddi ein Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg ym mis Hydref 2018, fe ddwedais i fod angen bachu ar gyfleoedd a thaclo heriau technolegol, a hynny drwy geisio rhagweld datblygiadau technolegol ehangach a gosod cyfeiriad ar gyfer gwaith ym maes technoleg a'r Gymraeg.
Fe gyhoeddais i 27 pecyn gwaith, gyda'r pwyslais ar leferydd, cyfieithu a deallusrwydd artiffisial. Am fod y gwaith yn cael ei ariannu gydag arian cyhoeddus, roeddwn i'n benderfynol y byddai'r cynnyrch a grëwyd ym mhob pecyn ar gael yn rhad ac am ddim i bawb allu ei ddefnyddio a'i haddasu. A dyna pam mae cynifer ohonynt ar gael i’w lawrlwytho dan drwydded agored heddiw.
Bu 2020 yn flwyddyn anodd. Yn ystod argyfyngau fel COVID-19, gall technoleg ein helpu ni i anfon negeseuon pwysig yn gyflym. Dyma pam yr ydw i wedi bod yn hyblyg wrth ail-flaenoriaethu agweddau ar y Cynllun Gweithredu, er mwyn ymateb i'r angen yn ystod y pandemig.
Rydw i hefyd wedi sicrhau bod ambell beth yn cael ei ryddhau'n gynnar. Er enghraifft, Cysgliad, yr adnodd Cymraeg sy'n gwirio sillafu a gramadeg. Mae hwn bellach ar gael gan Brifysgol Bangor yn rhad ac am ddim i unigolion, holl ysgolion a busnesau bychain ei ddefnyddio. Roeddwn i'n teimlo fod hyn yn bwysig yn ystod y cyfnod cloi cyntaf i ddisgyblion ysgol a'u rhieni, gyda chynifer o blant a oedd yn dysgu'n annibynnol gartref tra bo'r ysgolion ar gau. Weithiau, doedd dim oedolyn yn y tŷ a oedd yn siarad Cymraeg i'w helpu i ysgrifennu yn Gymraeg. Gall Cysgliad wneud gwahaniaeth gwirioneddol iddyn nhw a llawer o bobl eraill.
Rydw i hefyd newydd ofyn i Brifysgol Bangor flaenoriaethu isdeitlo fideos Cymraeg yn awtomatig. Mae ceisiadau gan brifysgolion sydd am isdeitlo darlithoedd Cymraeg ar fideo ar gynnydd. Roedd y gwaith yma eisoes ar y gweill, ond gyda chymaint o ddysgu bellach ar-lein, rydw i wedi gofyn i'w flaenoriaethu.
Mae technoleg wedi caniatáu i ddigwyddiadau a fyddai wedi gallu cael eu canslo yn 2020 i gael eu cynnal yn rhithiol. Symudodd agweddau ar Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol ar-lein, ac mae cyfarfodydd fideo ar-lein wedi dod yn beth cyffredin yn ystod y pandemig. Mae hyn wedi cyflwyno nifer o heriau ar gyfer y Gymraeg, gan nad yw cyfieithu ar y pryd ar gael mewn pob pecyn. Pe bai ar gael, bydden ni'n gallu defnyddio mwy o Gymraeg. Mae mwy am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i fynd i'r afael â hyn i'w weld yn yr adroddiad.
Mae Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd wrthi'n datblygu gwaith ar fewnosodiadau geiriau (word embeddings). Bydd hyn yn gwella'r ffordd mae cyfrifiaduron yn gallu deall ystyr testun Cymraeg a deall bwriad defnyddwyr. Mae hyn wedi arwain at y posibilrwydd o greu gemau newydd i helpu'r rhai sy'n dysgu Cymraeg.
Dim ond drwy gydweithio, yr ydyn ni wedi gallu dechrau gwireddu amcanion y Cynllun, a chyfrannu at ddyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg erbyn 2050. Rwy'n gwybod bod technoleg yn datblygu'n gyflym. Rwy’n awyddus i'r Gymraeg symud gyda'r datblygiadau hynny. Dyna fydd yr achos wrth i weddill y Cynllun hwn cael ei weithredu, wrth i ni symud nesaf at ddatblygiadau cyffrous ym maes cyfieithu â chymorth cyfrifiaduron.
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar ôl i’r Senedd ailymgynnull, byddwn yn hapus i wneud hynny.