Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol enwau’r Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol sydd wedi eu penodi ar gyfer etholiadau Senedd Cymru 2021.
Mae Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol yn gyfrifol am y gwaith cyffredinol o reoli’r etholiad ac am gydgysylltu trefniadau’r bleidlais ranbarthol ar gyfer y Senedd.
Dyma’r Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol ar gyfer Cymru:
- Canolbarth a Gorllewin Cymru: Eifion Evans, y swyddog canlyniadau ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion
- Gogledd Cymru: Colin Everett, y swyddog canlyniadau ar gyfer Cyngor Sir y Fflint
- Gorllewin De Cymru: Phil Roberts, y swyddog canlyniadau ar gyfer Dinas a Sir Abertawe
- Canol De Cymru: Debbie Marles, y swyddog canlyniadau ar gyfer Bro Morgannwg
- Dwyrain De Cymru: Michelle Morris, y swyddog canlyniadau ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James:
Hoffwn ddiolch i’r rheini sydd wedi cytuno i gyflawni rôl y Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol ar gyfer etholiadau Senedd Cymru eleni. Bydd yr etholiadau hyn yn rhai heriol iawn gan eu bod yn cael eu cyfuno ag etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, ac yn bwysicaf na hynny, dyma fydd y tro cyntaf i’r gwladolion tramor cymwys a’r bobl ifanc sydd newydd gael yr hawl i bleidleisio gymryd rhan ynddynt. Hefyd, bydd her ychwanegol o ran sicrhau bod yr etholiadau’n cael eu cynnal mewn modd diogel yn wyneb y pandemig. Mae hyn yn gofyn am ymrwymiad personol sylweddol gan y rheini sydd wedi cytuno i gyflawni’r rôl hon, a dw i’n ddiolchgar y byddwn ni’n cael elwa ar eu gwybodaeth a’u profiad.
Eu gwaith pennaf fydd derbyn yr enwebiadau ar gyfer y rhanbarth etholiadol; cyhoeddi canlyniadau’r bleidlais ranbarthol; a gweithio gyda swyddogion canlyniadau etholaethau’r Senedd yn eu rhanbarth, er mwyn sicrhau bod yr etholiad ar gyfer y Senedd yn cael ei weinyddu mewn modd cyson ar draws eu rhanbarth.