Mae ail frechlyn COVID-19 yn cael ei gyflwyno yng Nghymru heddiw [ddydd Llun 4 Ionawr], a bydd 40,000 o ddosau o leiaf ar gael yn ystod y pythefnos cyntaf.
Yr wythnos diwethaf [ddydd Mercher 30 Rhagfyr], cafodd brechlyn AstraZeneca ei awdurdodi'n ddiogel ac yn effeithiol gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynnyrch Gofal Iechyd (MHRA) yn dilyn treialon clinigol llym – dair wythnos yn unig ar ôl i'r brechlyn cyntaf rhag y coronafeirws, Pfizer BioNTech, gael ei gymeradwyo i'w ddefnyddio yn y DU.
Mae Llywodraeth Cymru a GIG Cymru wedi bod wrthi ers mis Mehefin yn paratoi at yr adeg pan fyddai'r brechlynnau'n cael eu cymeradwyo a'u cyflwyno.
Mae Llywodraeth y DU wedi caffael brechlynnau ar ran y pedair cenedl. Brechlyn AstraZeneca – Oxford AstraZeneca gynt – yw tua 100 miliwn o'r rhain, a bydd Cymru yn cael ei dyraniad yn seiliedig ar ei phoblogaeth dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
Bydd angen dau ddos o'r brechlyn, gyda chyfnod o bedair i 12 wythnos rhwng y ddau. Mae hyn yn wahanol i'r cyngor blaenorol ar gyfer y ddau frechlyn, sef cyfnod o bedair wythnos rhwng y ddau ddos, gan fod y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio (JCVI) wedi argymell y dylid sicrhau mai'r flaenoriaeth gyntaf yw cynnig dos cyntaf y brechlyn i gynifer o bobl â phosibl yn y grwpiau blaenoriaeth uchaf.
Bydd yr argymhelliad i flaenoriaethu'r dos cyntaf yn ein galluogi i ddiogelu mwy o bobl yn y grwpiau â blaenoriaeth ar adeg pan fo COVID yn dal i ledaenu yng Nghymru.
Yn seiliedig ar system flaenoriaethu ar gyfer y DU gyfan, mae brechlyn Pfizer BioNTech eisoes wedi dechrau cael ei roi i staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, yn ogystal â phreswylwyr a staff cartrefi gofal a phobl dros 80 oed, a bydd brechlyn AstraZeneca yn ein galluogi i gynnig brechlyn i ragor eto.
Dengys y ffigurau diweddaraf hyd at ddydd Sadwrn 27 Rhagfyr fod mwy na 35,000 o bobl wedi cael dos cyntaf y brechlyn mewn cyfnod o dair wythnos yn unig ers dechrau'r rhaglen frechu.
Bydd pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn cael ei ddyraniad yn unol â maint ei boblogaeth â blaenoriaeth a'i allu i'w roi, fel yr amlinellir yn rhestr blaenoriaeth y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio.
Yn wahanol i frechlyn Pfizer BioNTech, caiff brechlyn AstraZeneca ei storio ar dymheredd oergell brechlynnau arferol. Mae hyn yn golygu mai prin fydd y materion o ran ei storio a'i gludo, gan olygu ei fod yn llawer haws ei ddefnyddio mewn lleoliadau cymunedol, megis cartrefi gofal, a lleoliadau gofal sylfaenol fel meddygfeydd.
Gofynnir i bobl beidio â ffonio eu meddyg teulu, eu fferyllfa na'u hysbyty yn gofyn pryd y byddant yn cael brechlyn. Pan fydd rhywun yn perthyn i un o'r grwpiau sy'n gymwys i gael y brechlyn, bydd yn cael ei wahodd i glinig dynodedig a fydd wedi'i sefydlu i sicrhau diogelwch cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Daw gohebiaeth gan fyrddau iechyd lleol ac mae'r brechlyn am ddim drwy'r GIG. Gofynnir i bobl fod yn effro i sgamiau yn gofyn am arian neu wybodaeth bersonol.
Efallai na welir effeithiau'r brechlynnau yn genedlaethol am nifer o fisoedd, ac erys y cyngor ar gadw Cymru yn ddiogel yr un fath i bawb; lleihau ein cysylltiadau â phobl eraill cymaint â phosibl, cadw pellter o 2 fetr oddi wrth bobl eraill, golchi dwylo yn rheolaidd, gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen ac osgoi cyffwrdd ag arwynebau y mae eraill wedi cyffwrdd â nhw, lle bynnag y bo'n bosibl.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething:
“Mae heddiw'n nodi carreg filltir allweddol yn ein brwydr yn erbyn pandemig COVID-19. Dywedwyd bod cyflwyno brechlyn AstraZeneca yn newid pethau yn llwyr, ac mae hyn yn wir – ni ddylid tanbrisio ei botensial.
“Mewn llai na mis, mae GIG Cymru wedi cyflwyno'r rhaglen frechu fwyaf a welwyd erioed yng Nghymru, ac mae mwy na 35,000 o bobl wedi cael y dos cyntaf hyd yma.
“Nawr, bum diwrnod yn unig ers i reoleiddwyr gymeradwyo'r brechlyn newydd i'w ddefnyddio yn y DU, mae ail frechlyn yma ac yn barod i'w ddefnyddio, gan ychwanegu'n sylweddol at allu Cymru i frwydro yn erbyn y coronafeirws a diogelu ein poblogaeth fwyaf agored i niwed.”
Dywedodd Dr Gillian Richardson, Uwch-swyddog Cyfrifol Rhaglen Brechu rhag COVID-19 Cymru:
“Mae'n newyddion gwych bod gennym nawr ail frechlyn i helpu i ddiogelu pobl fwyaf agored i niwed ein cymunedau rhag niwed COVID-19.
“Bydd pa mor gyflym y caiff ei gyflwyno yn dibynnu ar gyflenwad, gan ddechrau'n araf yr wythnos hon a chynyddu'n sylweddol dros yr wythnos a'r misoedd nesaf. Fodd bynnag, bydd brechiadau'n cael eu rhoi mewn meddygfeydd o heddiw ymlaen a byddwn hefyd yn gweld cynnydd yn nifer ein canolfannau brechu yn ystod y mis.
"Mae'n hollbwysig bod pobl yn parhau i aros eu tro am y brechlyn – byddwn yn cysylltu â chi pan ddaw eich tro. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu na'ch fferyllfa leol, gan roi pwysau diangen ychwanegol ar eu baich gwaith.”