Cofnodion Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru: 30 Ebrill 2020
Cofnodion cyfarfod Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) a gynhaliwyd ar 30 Ebrill 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Aelodau
- Kathryn Bishop, Cadeirydd
- Dyfed Edwards, Is-gadeirydd
- David Jones, Aelod Anweithredol
- Jocelyn Davies, Aelod Anweithredol
- Lakshmi Narain, Aelod Anweithredol
- Dyfed Alsop, Prif Weithredwr
- Sam Cairns, Prif Swyddog Gweithrediadau
- Lucy Robinson, Mewnwelediad a Strategaeth Cwsmeriaid
- Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Strategaeth
Ymgynghorwyr
- Joanna Ryder, Pennaeth Staff
- Melissa Quignon-Finch, Pennaeth AD
- Kate Innes, Prif Swyddog Cyllid Dros Dro
- Jim Scopes, Prif Swyddog Strategaeth Dros Dro
- Catrin Durie, Pennaeth Cyfathrebu
- Amy Bowden, Pennaeth Cyfreithiol Dros Dro
- Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr Stragetaeth Trethi, Polisi ac Ymgysylltu – Trysorlys Cymru
Ysgrifenyddiaeth
- Ceri Sullivan, Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd
1. Croeso a chyflwyniadau
- Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Andrew Jeffreys, a byddai Anna Adams yn dirprwyo.
- Roedd Aelodau’r Bwrdd yn falch o groesawu Rebecca Godfrey yn ôl, a oedd yn bresennol ar ‘ddiwrnod cadw mewn cysylltiad’ o gyfnod mamolaeth. Bydd Rebecca yn dychwelyd amser llawn yr wythnos nesaf.
2. Parhad busnes a llesiant staff
- I raddau helaeth, roedd y sefyllfa i’n pobl yn parhau’r un fath â’r diweddariad diwethaf ar yr amgylchiadau cyfredol.
- Mae ACC bellach yn symud at feddwl tymor canolig am y 6 mis nesaf; sef gweithgareddau a gweithrediadau wedi’r cyfnod clo. Mae angen i’r sefydliad ystyried beth y mae am ei ddysgu o’r profiad hwn ar gyfer y dyfodol. Tynnodd y Prif Weithredwr sylw’r holl staff i’r drafodaeth hon yn gynharach yn yr wythnos.
- Nodwyd hefyd y dylai ACC gyfrannu at feddwl ehangach Llywodraeth Cymru ar adfer wedi COVID-19.
3. Effaith COVID-19 ar gyllideb 20/21
Gwybodaeth wedi’i Hepgor (Troednodyn 1).
4. Adroddiadau gan y pwyllgorau
- Rhoddwyd adroddiad byr gan Gadeirydd ARAC, a nodwyd y byddai’r pwyllgor yn adolygu risgiau seiber-ddiogelwch yn sgil staff yn gweithio o gartref.
- Yn dilyn ei adolygiad o effeithiolrwydd, bydd y Gofrestr Risg yn cael ei hadolygu hefyd er mwyn ei gwneud yn haws craffu’n well.
- Cytunodd ARAC hefyd ar ei Adroddiad Blynyddol a fydd yn cyfrannu at Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ACC.
- Cyfarfu’r Pwyllgor Pobl yn gynharach yn yr wythnos, oherwydd cytunwyd bod cyfarfod ychwanegol yn ofynnol er mwyn ceisio sicrhad bod camau priodol wedi’u cymryd yn ystod yr amser anodd yma, o ran salwch staff a chyfrifoldebau gofalu, llesiant, recriwtio a lleoliad.
- Dywedodd y Pwyllgor ei fod wedi cael sicrwydd ym mhob mater a bod ACC, a’r Tîm Arwain yn benodol, yn parhau i fod â throsolwg da ar y sefyllfa, a bod rheolwyr llinell mewn cysylltiad da â’u staff.
- O ystyried yr oedi disgwyliedig cyn bod modd defnyddio QED eto, ystyriwyd bod lleoliad yn fater newidiol, oherwydd gall ffordd ACC o weithio ar ôl COVID-19 effeithio ar hyn; bydd y Prif Weithredwr yn adrodd ar hyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
- Diolchodd y Bwrdd i’r ddau bwyllgor am eu hadroddiad a’u sicrwydd.
5. Cynllun gweithredu
Gwybodaeth wedi’i Hepgor (Troednodyn 1).
[1] Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth ac ati neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.