Cofnodion Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru: 23 Ebrill 2020
Cofnodion cyfarfod Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) a gynhaliwyd ar 23 Ebrill 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Aelodau
- Kathryn Bishop, Cadeirydd
- Dyfed Edwards, Is-gadeirydd
- David Jones, Aelod Anweithredol
- Jocelyn Davies, Aelod Anweithredol
- Lakshmi Narain, Aelod Anweithredol
- Dyfed Alsop, Prif Weithredwr
- Sam Cairns, Prif Swyddog Gweithrediadau
- Lucy Robinson, Mewnwelediad a Strategaeth Cwsmeriaid
Ymgynghorwyr
- Joanna Ryder, Pennaeth Staff
- Melissa Quignon-Finch, Pennaeth AD
- Kate Innes, Prif Swyddog Cyllid Dros Dro
- Jim Scopes, Prif Swyddog Strategaeth Dros Dro
- Catrin Durie, Pennaeth Cyfathrebu
- Amy Bowden, Pennaeth Cyfreithiol Dros Dro
- Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr Stragetaeth Trethi, Polisi ac Ymgysylltu – Trysorlys Cymru
Ysgrifenyddiaeth
- Ceri Sullivan, Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd
1. Croeso a chyflwyniadau
- Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Andrew Jeffreys, byddai Anna Adams yn dirprwyo.
2. Parhad busnes a llesiant staff
Gwybodaeth wedi’i Hepgor (Troednodyn 1).
3. Cofnodion y cyfarfod diwethaf, cofnodion wedi’u golygu, gwrthdaro buddiannau
- Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn ddisgrifiad cywir o’r hyn a drafodwyd, ac roedd yr aelodau’n fodlon ar y cofnod wedi’i olygu at ddiben cyhoeddi. Byddai diweddariad ar gamau gweithredu a oedd heb eu cymryd yn cael ei anfon i’r Bwrdd ar-lein.
- Ni chodwyd unrhyw wrthdaro buddiannau newydd.
- Yng ngoleuni trafodaeth ddiwethaf y Bwrdd ar Strategaeth y Gymraeg a’i benderfyniad i gadarnhau’r datganiad gweledigaeth drafft, nodwyd y byddai erthygl newyddion yn cael ei chynhyrchu a’i rhannu gyda staff i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am ei datblygiad.
4. Llywodraethiant COVID-19
- Roedd papur wedi’i ddrafftio yn amlinellu’r newidiadau llywodraethiant oedd ar waith ar gyfer cyfnod COVID-19. Fe’i trafodwyd gyda’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg (ARAC) yn gynharach yr wythnos honno ar gyfer sylwadau ac roedd bellach yn cael ei drafod gyda’r Bwrdd er mwyn sicrwydd a chytuno.
- Nodwyd nad diben y ddogfen hon mo amlinellu ein fframwaith llywodraethiant yn ei gyfanrwydd, ond yn hytrach egluro ein sefyllfa a’r newidiadau proses a wnaed er mwyn sicrhau llywodraethu da yn ystod COVID-19. Bydd cynnwys y ddogfen hon, yn enwedig ei bwriad, yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am ymgynghoriad. Nodwyd hefyd y byddai’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd yn cael gwybod yn eu cyfarfod chwarterol nesaf a gynhelir yr wythnos ganlynol.
- Cytunodd y Bwrdd ar y cynigion llywodraethiant COVID-19 ond awgrymwyd mynd ymlaen â darn o waith ar wahân er mwyn ystyried y proffil risg gwahanol y mae’r sefydliad bellach yn ei wynebu.
5. Adroddiad gan y Cadeirydd
Gwybodaeth wedi’i Hepgor (Troednodyn 1).
6. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol a diweddariad am Berfformiad Gweithredol
Gwybodaeth wedi’i Hepgor (Troednodyn 1).
7. Unrhyw fater arall
- Cafodd yr Aelodau wybod bod cydweithio’n digwydd â Thrysorlys Cymru er mwyn sicrhau bod cyfathrebu’n cyd-fynd yn ystod y cyfnod hwn, yn enwedig ynghylch datganiadau ystadegol.
[1] Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth ac ati neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.