Ddoe, galwodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog, ynghyd y drydedd uwch-gynhadledd ar ddiogelwch tomenni glo yng Nghymru.
Cafodd y cyfarfod ei alw gan y Prif Weinidog ar ôl y tirlithriad yn Wattstown ar 19 Rhagfyr, wedi i law trwm syrthio yn yr ardal.
Daeth Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, David Davies, Is-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, arweinwyr awdurdodau lleol cymunedau’r pyllau glo gynt, a oedd yn cynnwys Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Rhondda Taf, yn ogystal â chynrychiolwyr o’r Awdurdod Glo a Chyfoeth Naturiol Cymru i’r uwch-gynhadledd.
Cafodd y rheini a oedd yn bresennol yn yr uwch-gynhadledd wybod am yr ymateb uniongyrchol i’r tirlithriad yn Wattstown. Ymatebodd peirianwyr Cyngor Rhondda Cynon Taf ac arolygwyr yr Awdurdod Glo yn gyflym i’r digwyddiad ac maen nhw’n monitro’r safle yn ofalus.
Mae perygl y gallai’r tir symud ychydig eto yn y safle ond nid oes perygl i’r cyhoedd. Mae pobl yn cael eu rhybuddio i gadw draw o’r ardal gyfagos.
Mae gwaith wedi cael ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu opsiynau ar gyfer y safle a bydd y Llywodraeth yn parhau i gefnogi’r Cyngor a’r Awdurdod Glo.
Cafodd y rhaglen dreigl ehangach o brofion a gynhaliwyd ar y tir gan yr Awdurdod Glo a’r awdurdodau lleol a gwaith ehangach y Tasglu Diogelwch Tomenni Glo, a gafodd ei sefydlu gan y Prif Weinidog yn gynharach eleni, ei drafod yn yr uwch-gynhadledd hefyd.
Diolch i waith y Tasglu, cafwyd mwy o eglurder ynghylch statws y 2,000 a rhagor o domenni rwbel a adawyd ar ôl gan y diwydiant glo yng Nghymru, a chafodd rhaglen strategol ei rhoi ar waith i fynd i’r afael â’r bylchau yn y fframwaith deddfwriaethol presennol. Mae hyn yn cynnwys adolygiad sy’n cael ei gynnal gan Gomisiwn y Gyfraith.
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol a’r Awdurdod Glo ar raglen gynnal a chadw er mwyn adfer safleoedd tomenni glo ar gyfer y tymor hwy.
Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, wedi cael cyllid i wneud gwaith atgyweirio ar dirlithriad Tylorstown ac mewn safleoedd eraill eleni. Fodd bynnag, hyd yma, nid yw Trysorlys y DU wedi cadarnhau’r cyllid ar gyfer gwneud yr holl waith angenrheidiol i unioni’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r tomenni glo a adawyd ar ôl gan y diwydiant glo.
Bydd cyfarfod briffio technegol yn cael ei drefnu ar gyfer Aelodau’r Senedd ac Aelodau Seneddol ddechrau’r flwyddyn nesaf.
Dywedodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog:
“Mae’r tirlithriad yn Wattstown dros y penwythnos yn pwysleisio pwysigrwydd archwilio, cynnal ac adfer ynghyd â gwaith y Tasglu a sefydlais i ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dilyn y tirlithriad yn Tylorstown ym mis Chwefror.
“Ein blaenoriaeth yw diogelu ein cymunedau. Mae’r Tasglu wedi gwneud cynnydd da eleni ond mae’n rhaid inni barhau i ganolbwyntio ar y gwaith allweddol hwn.
“Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag awdurdodau lleol, yr Awdurdod Glo a phartneriaid eraill fel y gall pobl sy’n byw yn agos at domenni glo deimlo’n ddiogel. Byddwn hefyd yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod cyllid hirdymor ar gael i gynnal a gwneud gwaith adfer ar y safleoedd hyn.”
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:
“Yn sgil y sensitifrwydd ynghylch tomenni glo, mae’n gwbl allweddol eu bod yn cael eu monitro’n ofalus a’u harchwilio’n rheolaidd. Mae awdurdodau lleol yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, yr Awdurdod Glo a Chyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod gennym ddarlun cynhwysfawr o gyflwr y tomenni a’r gwaith sydd ei angen i’w cadw’n ddiogel.
“Wrth iddi fwrw mwy o law, ac oherwydd y tywydd eithafol rydym yn ei brofi, mae’n gwbl allweddol ein bod yn parhau i werthuso a lleihau lefel y risg yn y safleoedd hyn. Mae awdurdodau lleol sydd â thomenni wedi’u lleoli ynddynt yn gweithio’n rhagweithiol â phartneriaid i ddatblygu cynlluniau i drin y tomenni sy’n achosi’r risg mwyaf fel rhan o raglen waith barhaus.
“Byddwn yn rhoi diweddariad rheolaidd i breswylwyr a gofynnwn iddynt gymryd o ddifri y rhybuddion i gadw draw o’r safleoedd hyn pan fydd gwaith yn cael ei gynnal yno.”
Gallwch roi gwybod am unrhyw bryderon am domenni rwbel a adawyd ar ôl gan y diwydiant glo neu gael cyngor am ddiogelwch drwy linell gymorth yr Awdurdod Glo, sydd ar gael 24 awr 7 diwrnod yr wythnos, ar 0800 021 9230 neu tips@coal.gov.uk