Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Drwy gydol pandemig COVID-19 , rwyf wedi datgan yn gyhoeddus fy niolch am y rhan sylweddol y mae fferyllfeydd cymunedol wedi'i chwarae ac yn parhau i'w chwarae, ar draws pob rhan o Gymru. Roeddem i gyd yn ymwybodol iawn o sefyllfaoedd a adroddwyd yn y cyfryngau, lle bu galw cynyddol ar fferyllfeydd, yn enwedig yn ystod wythnosau a misoedd cyntaf y pandemig. Mae fferyllfeydd yn parhau i fod yn ffynhonnell hanfodol o gymorth a chyngor yn ein cymunedau wrth inni ddechrau ar y cyfnod presennol o gyfyngiadau symud, nid yn unig wrth roi meddyginiaethau ar bresgripsiwn ond hefyd wrth ddarparu gwasanaethau clinigol o safon uchel i'w cleifion.
I gydnabod cyfraniad y sector a chymorth parhaus y llywodraeth hon ar gyfer fferyllfeydd cymunedol, bu fy swyddogion yn trafod ers tro â'r corff sy'n cynrychioli holl fferyllfeydd cymunedol Cymru - Fferylliaeth Gymunedol Cymru - y pwysau penodol iawn sydd ar fferyllfeydd yn ystod y pandemig a'r gwariant ychwanegol yr eir iddo o ganlyniad. Dywedais hefyd wrth Fwrdd Fferylliaeth Gymunedol Cymru ei bod yn fwriad gennyf ddarparu adnoddau ychwanegol, yn ddarostyngedig i setliad wedi'i negodi.
Cafodd cynnig cychwynnol ei chyflwyno ym mis Ebrill ac mae negodiadau rhwng fy swyddogion innau a chynrychiolwyr Fferylliaeth Gymunedol Cymru wedi bod yn mynd rhagddynt ers hynny. Gwnaeth Llywodraeth Cymru sawl cynnig gyda chynnydd yn y swm bob tro ers mis Ebrill, gan gynnwys y cynnig olaf a'r cynnig gorau, a wnaed ar 17 Tachwedd. Bryd hynny, nid oedd Bwrdd CPW yn teimlo ei fod yn gallu rhoi sêl ei fendith i gytundeb. Rwyf yn ymwybodol nad yw oedi pellach er budd perchnogion fferyllfeydd ac yn enwedig y rhai sy'n unig berchnogion ar fferyllfeydd cymunedol annibynnol. Cyfarfûm, felly, â chynrychiolwyr Fferylliaeth Gymunedol Cymru ar 17 Rhagfyr i geisio datrys y mater.
Yn dilyn y cyfarfod hwnnw, gallaf gyhoeddi heddiw cytunwyd â Fferylliaeth Gymunedol Cymru i ddarparu cyllid ychwanegol o hyd at £5.6m yn uniongyrchol i gontractwyr fferyllfeydd.
Yn gryno mae'r setliad/cytundeb yn cynnwys:
- taliad un tro, anghylchol o £5m i dalu costau ychwanegol a chostau staff eraill yr aed iddynt yn ystod y pandemig;
- hyd at £0.6m i dalu'r costau gwasanaeth sy'n gysylltiedig â brechlynnau ffliw tymhorol oddi wrth y Llywodraeth a weinyddir gan fferyllfeydd;
- gwarant, os bydd fferyllfeydd yn rhan o'r Cynllun Imiwneiddio rhag COVID-19 mewn gofal sylfaenol, gwarant y câi ffioedd gwasanaeth eu talu o gyllid ychwanegol; a
- gohirio ad-daliadau pellach yn erbyn y rhagdaliad o £55m a wnaed yn gynharach eleni, tan y flwyddyn ariannol 2021-22, i gefnogi sefyllfa llif arian parod fferyllfeydd cymunedol am weddill y flwyddyn ariannol hon.
Rwyf wedi cytuno hefyd y cynhelir trafodaethau pellach â CPW, os bydd adnoddau ar gael cyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Mae'r setliad yn adeiladu ar y newidiadau sydd eisoes wedi'u gwneud i gefnogi fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru yn ystod y pandemig. Mae hyn yn cynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer cyflwyno llwyfan ymgynghori fideo i bob fferyllfa gymunedol; darparu mynediad at 3,000 o fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol at yr ystod o offer gan gynnwys e-byst y GIG a negeseua gwib, sydd ar gael trwy Office 365, a buddsoddiad cyfalaf i osod ac arbrofi'r defnydd o systemau wedi'u hawtomeiddio i gasglu presgripsiynau. .
Byddaf yn parhau i wneud dewisiadau cadarnhaol i fuddsoddi mewn Fferyllfeydd Cymunedol gan chwarae rôl well wrth gyflawni gwasanaethau'r GIG. Mae'r buddsoddiad sylweddol yr wyf yn ei wneud heddiw'n ychwanegol at y cytundeb tair blynedd a gyhoeddais ym mis Mehefin a fydd yn darparu cyllid o £18.3m ar gyfer fferyllfeydd o fis Ebrill 2021, ac yn cynyddu £8.6m y flwyddyn ar gyllid cyffredinol i'r sector erbyn 2022-23.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.