Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Cyn bo hir, byddaf yn gwahodd awdurdodau lleol yng Nghymru i gyflwyno ceisiadau am arian o'r Gronfa Teithio Llesol ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22. Sefydlwyd yn wreiddiol ar gyfer tair blynedd 2018/19, 2019/20 a 2020/21, rydym yn dangos ein hymrwymiad cryf i deithio llesol drwy barhau â'r cyllid hwn i gyflawni'r cynlluniau a ddatblygwyd gan awdurdodau lleol.
Ers dod yn Ddirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, yr wyf wedi egluro fy mod am herio a chefnogi awdurdodau lleol i wella ansawdd ac uchelgais a gwella'r modd y cyflawnir cynlluniau teithio llesol yn gyffredinol. Mae hyn yn golygu rhoi adnoddau ar waith i weithio gydag awdurdodau lleol ym mhob rhanbarth ar flaenoriaethu a datblygu eu cynllun yn ystod y cam ymgeisio cyn ariannu a thrwy gydol y broses o weithredu'r cynllun.
Rwyf wedi cytuno y bydd y cymorth ychwanegol hwn a rheoli grantiau'r Gronfa Teithio Llesol, gan gynnwys gweinyddu a phrosesu hawliadau o ddydd i ddydd, yn cael eu darparu drwy Trafnidiaeth Cymru, a fydd yn gweithio gyda'm swyddogion i sicrhau bod ein prosesau'n gweithio mor ddi-dor â phosibl.
Rhan bwysig o'r gwaith hwn oedd datblygu porth ymgeisio am grant ar-lein gan Trafnidiaeth Cymru, a oedd yn dysgu o gynllun peilot bach a gynhaliwyd ar gyfer grant y llynedd. Ar gyfer 2021/22 bydd pob cais yn cael ei gyflwyno drwy'r system sydd newydd ei datblygu, sydd â'r bwriad o wneud y broses ymgeisio ac arfarnu yn fwy effeithlon i awdurdodau lleol ac a fydd yn gwneud tracio a monitro parhaus dros oes pob cynllun yn symlach. Bydd Trafnidiaeth Cymru hefyd yn datblygu fframweithiau monitro a gwerthuso cyson i olrhain effaith y cyllid.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwmni cyfyngedig drwy warrant ac yn eiddo i Weinidogion Cymru. Nid oes gan Trafnidiaeth Cymru unrhyw swyddogaethau gweithredol; Gweinidogion Cymru sydd â’r swyddogaethau gweithredol ac maent wedi cadw’r cyfrifoldeb cyfreithiol am eu cyflawni. Mae llythyr cylch gwaith a hefyd fframwaith llywodraethu a sicrwydd Trafnidiaeth Cymru yn pennu ei weithgareddau o fewn y cyd-destun hwn.
Byddaf yn cyflwyno’r newyddion diweddaraf pan fyddaf yn cyhoeddi manylion y ceisiadau llwyddiannus ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn sicrhau bod yr Aelodau’n ymwybodol o’r newyddion diweddaraf. Os hoffai’r Aelodau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd byddwn yn barod i wneud hynny.