Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Oherwydd natur gwaith heddlu rheng flaen mae rhyngweithio helaeth ag aelodau'r cyhoedd sydd yn aml yn fwy agored i niwed. O ganlyniad, mae risg uwch o drosglwyddiad a haint a'r gofyniad i hunanynysu. Mae hyn yn cael effaith andwyol ar allu gweithlu'r heddlu i mynd i'r afael ag ymrwymiadau arferol o ddydd i ddydd ym maes gorfodi'r gyfraith.
O ganlyniad i'r pwysau penodol sy'n wynebu ardal Heddlu De Cymru, rwyf wedi cytuno heddiw i gynnig i gychwyn peilot profi asymptomatig rheolaidd gyda Heddlu De Cymru, cyn cyflwyno profi rheolaidd ehangach o bosibl i ardaloedd heddlu eraill yng Nghymru. Bydd hyn yn ddarostyngedig i werthusiad ac adolygiad yn dangos effaith ac effeithiolrwydd y peilot cychwynnol hwn. Mae gan y cynnig hwn gytundeb ardaloedd heddlu eraill yng Nghymru.
Mae profi rheolaidd yn golygu y gofynnid i staff yr heddlu naill ai hunanynysu fel rhan o'r drefn NEU gymryd prawf llif unffordd (LFT) ar ddechrau eu shifft am hyd y cyfnod hunanynysu. Gall y rhai sy'n cael canlyniad negatif barhau â'u gweithgareddau arferol; rhaid i'r rhai sy'n profi'n bositif hunanynysu ac archebu prawf cadarnhau.
Prif nod y peilot yw cyflwyno cyfundrefn profi rheolaidd yn gyflym gan ddefnyddio LFTs. Effaith hyn fydd lleihau'r nifer o heddlu na allant fynd i'r gwaith oherwydd hunanynysu yn dilyn cyswllt â pherson sydd wedi profi'n bositif am y coronafeirws, gan gryfhau cadernid sefydliadol a'r gallu i ddarparu gwasanaethau hanfodol.
Bydd yr Aelodau am nodi hefyd bod Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 wedi'u diwygio i roi effaith i brofion LFT rheolaidd ar gyfer cysylltiadau agos fel dewis yn hytrach na hunanynysu.
Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ganlyniad y peilot hwn ac unrhyw gynlluniau ar gyfer cyflwyno profi rheolaidd yn ehangach.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.