Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
Heddiw, cyhoeddais gynigion Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22, sy'n nodi ein cynlluniau i ddiogelu, adeiladu a newid i greu Cymru fwy llewyrchus, mwy cyfartal a gwyrddach. Mae'r Gyllideb ddrafft yn nodi cynlluniau gwariant strategol ar gyfer refeniw a chyfalaf, a threthiant a benthyca; yn ogystal â chynigion manwl ar gyfer y portffolios yng nghyllideb 2021-22.
Byddaf yn gwneud Datganiad Llafar am y Gyllideb ddrafft yn Senedd Cymru ar 12 Ionawr 2021.
Mae'r dogfennau a gyhoeddir heddiw ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
- Cynigion y Gyllideb Ddrafft
- Dogfen Naratif y Gyllideb ddrafft, gan gynnwys yr Asesiad Effaith Integredig Strategol
- Llinellau Gwariant yn y Gyllideb
- Cyllideb Ddrafft 2021-22 - taflen
- Cynllun Gwella'r Gyllideb
- Ailddatgan Cyllideb Derfynol 2020-21
Mae'r dogfennau canlynol, sy'n rhan o'r gyfres o ddogfennau a gyhoeddir heddiw, ar gael hefyd:
- Adroddiad y Prif Economegydd
- Dadansoddiad Dosbarthiadol o Wariant Cyhoeddus yng Nghymru
- Golwg ar Drethi Cymru - asesiad annibynnol y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o'm cynigion trethiant