Tips defnyddiol ar gyfer cadw’n bositif yn ystod y gaeaf
![Tips defnyddiol ar gyfer cadw’n bositif yn ystod y gaeaf](/sites/default/files/2020-12/PGIT044497%20Top%20tips%20for%20staying%20positive%20in%20winter%20WELSH%20-%20960%20x%20400.jpg)
Cymorth a chyngor i rieni ar sut i aros yn bositif dros fisoedd y gaeaf.
Fy enw i yw Deborah Winks ac rwy’n Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chyn Rheolwr Cymorth i Deuluoedd a Magu Plant i Dechrau’n Deg, Wrecsam. Rwyf i bob amser wedi ei chael yn anodd addasu i fsoedd y gaeaf. I mi, fel llawer o bobl, mae’r diffyg golau dydd yn rhywbeth sy’n anodd. Gall gyrru yn ôl ac ymlaen i’r gwaith yn y tywyllwch, neu weithio gartref ar eich pen eich hun,ac yn fwy diweddar gorfod treulio penwythnosau gartref heb gefnogaeth uniongyrchol y teulu, gael effaith wirioneddol ar iechyd meddwl a lles.
Rwy’n cymryd camau cadarnhaol i ymrwymo i ofalu am fy lles fy hun y gaeaf hwn ac rwy’n gobeithio y bydd y tips hyn yn eich grymuso ac yn eich annog i wneud yr un peth.
A chofiwch eich bod yn gwneud y gorau y gallwch chi!