Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae ein seilwaith profi yn parhau i ddatblygu i gefnogi profion torfol ar gyfer pobl symptomatig ar draws poblogaeth Cymru.
Yn ein strategaeth brofi a gyhoeddwyd yn yr haf gwnaethom nodi’r angen i sicrhau bod digon o allu profi i alluogi i bawb sydd â symptomau gael prawf ar y diwrnod hwnnw, yn ddelfrydol.
Mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, rydym wedi cynllunio i ehangu ystod a chyrhaeddiad ein seilwaith profi cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys sefydlu 27 o Safleoedd Profi Lleol yn ogystal â’r:
- Safleoedd Profi Rhanbarthol – 8 ar draws Cymru yng Nghasnewydd, Glynebwy, Caerdydd, Abercynon, Abertawe, Caerfyrddin, Llandudno a Glannau Dyfrdwy.
- Unedau Profi Cymunedol – 19 ar draws Cymru mewn amryw o leoliadau.
- Unedau Profi Symudol – 18 uned ar draws Cymru gyda rhai’n cael eu defnyddio ar draws y Byrddau Iechyd Lleol ac eraill yn cael eu defnyddio ar gyfer ymateb cyflym.
- Pecynnau Profi Gartref – gan gynnwys mynediad at borth penodol ar gyfer cartrefi gofal.
Mae’r Safleoedd Profi Lleol yn safleoedd profi cerdded i mewn ar gyfer ein cymunedau ac yn cynyddu’r mynediad at brofion ar gyfer ein cymunedau mwyaf agored i niwed ac wedi’u tangynrychioli. Bydd y gwaith o ehangu’r Safleoedd Profi Lleol yn cynnwys agor 15 o safleoedd profi lleol cerdded i mewn cyn y Nadolig mewn ardaloedd allweddol ar draws Cymru, a lansio 12 arall dros y misoedd nesaf wedi inni gwblhau’r cynlluniau gyda byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol. Rydym hefyd yn cyflwyno 9 Uned Brofi Symudol, ar ben yr 19 uned sydd eisoes yn weithredol, i sicrhau bod gan bob bwrdd iechyd lleol un uned symudol y gellir ei defnyddio ym mhob ardal awdurdod lleol.
Mae’r Safleoedd Profi Lleol a fydd ar agor cyn diwedd 2020 yn cynnwys:
Ardal Bwrdd Iechyd |
Safle Profi Lleol |
Amserlen |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro |
Rhodfa’r Amgueddfa |
Ar agor |
Maes Parcio Neuadd y Sir (Bae Caerdydd) |
Yn agor ym mis Rhagfyr 2020 |
|
Canolfan Chwaraeon Colcot, y Barri |
Ar agor |
|
Trelái |
Ar agor |
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe |
Theatr y Grand, Abertawe |
Ar agor |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda |
Adeilad Meithrinfa Padarn, (y tu ôl i, ond heb fod yn gysylltiedig â, Meddydfa Padarn), Ffordd Penglais, Aberystwyth
|
Ar agor |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf |
Pontypridd - Trefforest |
Ar agor |
Maes Parcio Pentref Hamdden Merthyr |
Ar agor |
|
Maes Parcio Canolfan Fowlio Pen-y-bont ar Ogwr |
Ar agor |
|
Powys |
Y Drenewydd – Maes Parcio Shortbridge Street |
Ar agor |
Aberhonddu – Maes Parcio Watton |
Ar agor |
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Canol Dinas Bangor |
Ar agor |
Neuadd Goffa Wrecsam |
Ar agor |
|
Y Rhyl – Maes Parcio Stryd y Cei |
Ar agor |
|
Cei Connah, Shotton – Y Neuadd Ddinesig |
Ar agor |
Rydym hefyd yn trafod gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ganfod a fydd yn bosibl i osod Safle Profi Rhanbarthol ychwanegol yn yr ardal yn ogystal â’r 8 yr ydym eisoes wedi’u lleoli ar draws Cymru.
Bydd y buddsoddiad hwn yn rhoi’r gallu a’r cadernid angenrheidiol inni yn ystod misoedd y gaeaf ac ar gyfer ein hanghenion i’r dyfodol. Rydym eisiau sicrhau bod profion ar gael yn rheolaidd ac yn aml ac rydym yn parhau i weithio gyda’r Byrddau Iechyd Lleol, awdurdodau lleol a’n partneriaid yn y trydydd sector i ddatblygu’r gallu i estyn allan yn effeithiol at gymunedau ar draws Cymru. Mae hyn yn cynnwys canolbwyntio ar ardaloedd mwy difreintiedig, cymunedau mwy gwledig neu anghysbell a grwpiau â nodweddion gwarchodedig.
Yn ogystal â gwella ein gallu i brofi pobl gyda symptomau rydym hefyd yn datblygu ein dull gweithredu a’n cymorth i bobl heb symptomau gael mynediad at brofion llif unffordd sy’n canfod presenoldeb antigen feirysol COVID-19 o sampl swab ac sy’n rhoi canlyniad o fewn 20 i 30 munud. Mae hyn yn cynnwys sefydlu Safleoedd Profi Asymptomatig mewn sefydliadau addysg uwch ac ysgolion, a chynnig profion cymunedol ym Merthyr Tudful a Chwm Cynon Isaf.
Fe fyddwn yn parhau i gryfhau a datblygu ein dull gweithredu o ran profion i sicrhau bod gennym safleoedd profi cynaliadwy sy’n hyblyg ac yn ymateb i anghenion yn lleol, ac yn gallu addasu i dystiolaeth a ddaw i’r amlwg a datblygiad technolegau newydd.