Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wneud popeth y gallwn i ddiogelu’r Senedd yn wyneb yr ymosodiad cwbl gywilyddus gan Lywodraeth y DU ar ei chymhwysedd deddfwriaethol – ymosodiad a wnaed drwy gyfrwng Bil y Farchnad Fewnol. Nid oes amheuaeth bod gwrthodiad y Senedd i roi cydsyniad i’r Bil hwnnw yn gwbl gyfiawn.
Mae’r Bil heddiw ar fi ffordd at gwblhau’r broses Ystyriaethau’r Tŷ’r Cyffredin o Ddiwygiadau’r Arglwyddi. Os caiff y Bil ei ddeddfu ar ei ffurf bresennol, byddai hyn yn golygu tanseilio cwmpas y setliad datganoli yng Nghymru a byddai’n creu ansicrwydd.
Byddai pwerau gwneud rheoliadau yn y Bil yn golygu bod Deddf Llywodraeth Cymru (2006) yn agored i ddiwygiadau o sylwedd eang iawn yn y dyfodol, a gallai pwerau’r Senedd a Llywodraeth Cymru gael eu lleihau yn ddifrifol, a hynny oherwydd gweithredoedd Llywodraeth y DU.
Mae’r darpariaethau yn y Bil hefyd yn gweithredu mewn modd mor eang a dwfn fel eu bod yn bygwth cyfyngu ar allu’r Senedd i ddeddfu mewn meysydd sydd wedi’u datganoli ar hyn o bryd.
O ganlyniad rydym wedi rhoi gwybod yn ffurfiol i Lywodraeth y DU heddiw os bydd Senedd y DU yn ceisio deddfu’r Bil ar ei ffurf bresennol, fy mod yn bwriadu cymryd camau ar unwaith i geisio declarasiwn gan y Llys Gweinyddol na ellir yn gyfreithlon dorri ar gwmpas deddfwriaeth gyfansoddiadol fel hyn ac na ellir dehongli’r Ddeddf a ddaw o ganlyniad fel ei bod yn cael yr effaith honno.
Rwyf wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth y DU ymhen 14 o ddiwrnodau.
Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau i’r Aelodau.