Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y llynedd, ni oedd y Senedd genedlaethol gyntaf yn y byd a bleidleisiodd dros ddatgan argyfwng hinsawdd, gan sbarduno ton o weithredu. Rydym wedi arwain y trawsnewid o’n gorffennol a oedd yn seiliedig ar ddefnyddio tanwydd ffosil drwy fuddsoddi mewn technolegau a rhaglenni gwyrdd i ysgogi gweithredu ar draws amrywiaeth o sectorau.

Y flwyddyn nesaf, byddwn yn deddfu ar gyfer gostyngiad o 95% o leiaf mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050 yn erbyn llinell sylfaen 1990, ac yn disgwyl cyngor annibynnol, sydd i fod i gael ei dderbyn yn ddiweddarach y mis hwn, i weld a allwn fynd ymhellach fyth. 

Felly yn y cyd-destun hwn, yn gyffredinol, croesawn gyhoeddiad hir-ddisgwyliedig Llwyodraeth y DU ddoe o’r Papur Gwyn ar Ynni, sy’n cychwyn dod i’r afael ag heriau enfawr y DU i sicrhau sero net erbyn 2050.  Croesawn y gydnabyddiaeth o’r angen am system ynni gysylltiedig, ddoethach a mwy hyblyg, yr hyn a sefydlwyd gennym yn Ffyniant i bawb: Cymru carbon isel Cymru yn 2019.  Fodd bynnag, os ydym am gyflawni dyfodol tecach a mwy cyfartal, mae rhaid i ni fod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r meddylfryd ar y meysydd newydd ac arloesol hyn – mae gennym lawer i gyfrannu o’r gwaith yr ydym yn ei wneud yn barod yng Nghymru. Gall ein cyfraniad ddod â’n ddealltwriaeth o arloesedd a sicrhau bod diddordebau Cymru a barn rhanddeiliaid yn cael y sylw priodol, felly’n sicrhau bod ein polisïau'n atgyfnerthu ei gilydd ac felly’n cael yr effaith fwyaf posibl.

Ar hyn o bryd rydym yn ymateb i bandemig y coronafeirws ond rydym wedi amlinellu ein cynlluniau ar gyfer ailadeiladu ein heconomi yn rhagweithiol. Wrth inni ddatblygu’r cynlluniau hyn dros yr haf, roedd cefnogaeth gref oddi wrth y cyhoedd ar gyfer adferiad gwyrdd, sy’n cyflawni ein huchelgeisiau sero net.

Mae ein system ynni yn hanfodol i bron pob rhan o fywyd Cymru. Bydd trawsnewid y system hon i system garbon isel fwy lleol, hyblyg a chlyfrach yn rhan hanfodol o sicrhau dyfodol cynaliadwy i Gymru.

Yr ydym yn gwneud cynnydd da tuag at gyrraedd ein targedau ynni adnewyddadwy. Yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru cyhoeddais adroddiad Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2019, a oedd yn dangos bod dros hanner anghenion trydan Cymru bellach yn cael eu diwallu drwy ynni adnewyddadwy. Rydym yn adeiladu ar y momentwm hwn yng Nghymru i sbarduno rhagor o newid. Er enghraifft:

  • Yr ydym wedi sefydlu amgylchedd galluogi i gyflawni yn erbyn ein huchelgeisiau carbon isel, er mwyn hwyluso datblygiadau ynni ar y tir ac ar y môr yn rhagweithiol. Mae Cymru’r Dyfodol yn nodi ein strategaeth ofodol genedlaethol, a bydd yn sbarduno ffocws datblygiadau adnewyddadwy ar y tir dros yr 20 mlynedd nesaf. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynyddu ei allu i ystyried trwyddedu morol ar gyfer technolegau adnewyddadwy morol yn nyfroedd Cymru.
  • Mae dros 70% o gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru wedi elwa o Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a’r rhaglen gyllid Cymru gysylltiedig. Er gwaethaf heriau COVID-19, mae’r gwasanaeth ar y trywydd iawn i ymrwymo dros £15m i gyflawni prosiectau yn 2020-21. Rydym yn datblygu cynlluniau ar gyfer gwasanaeth yn y dyfodol o 2022 i 2026.
  • Yr ydym wedi galluogi buddsoddiad o £27m i ysgogi’r sector cyhoeddus a chymunedau i fwrw ymlaen â phrosiectau ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni. Mae hyn wedi galluogi 26MW o gapasiti ynni adnewyddadwy, digon i bweru 8,163 o gartrefi. Mae hyn yn dangos yn glir ein hymrwymiad i gyflawni yn erbyn ein polisi ar berchnogaeth leol.
  • Yr ydym wedi gwneud cynnydd rhagorol drwy weithio gyda rhanbarthau i gynllunio ar gyfer eu hanghenion ynni yn y dyfodol, gan ddeall y newidiadau a ddaw yn sgil cerbydau allyriadau isel a gwres adnewyddadwy mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru. Mae’r rhanddeiliaid allweddol yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat sy’n gallu gyrru atebion lleol arloesol ymlaen wedi helpu i nodi maint y newid sydd ei angen ym mhob un o bedwar rhanbarth Cymru. Mae’r strategaethau ynni rhanbarthol newydd, a’r partneriaethau sy’n sail iddynt, yn cynnig y potensial i gyflawni newid bwriadol a chydgysylltiedig, er mwyn gwireddu Cymru carbon isel fwy ffyniannus ein nodau llesiant. 
  • Yn sail i hyn i gyd mae’r angen i fabwysiadu dull bwriadol o ddylunio ac adeiladu grid ar y cyflymder sy’n ofynnol gan yr argyfwng hinsawdd. Bydd cost grid newydd yn cael ei dalu drwy filiau cwsmeriaid ynni. Rhaid i ni sicrhau bod penderfyniadau ynghylch buddsoddi yn cael eu gwneud mewn modd sy’n sicrhau trosglwyddiad cyfiawn. Yr ydym yn gweithio gydag Ofgem, y Grid Cenedlaethol, a’r tri gweithredwr dosbarthu rhwydweithiau yng Nghymru, sydd i gyd yn mynd ati’n rhagweithiol i ddatblygu cynlluniau i ddiwallu’r galw ar eu rhwydweithiau yn y dyfodol. Mae prosiect Sero-Net De Cymru y National Grid yn enghraifft o’r ffordd y mae perchnogion y rhwydwaith yn bwrw ymlaen â’r mater hwn.

Yr ydym yn falch o’n hagwedd ragweithiol at ganfod y cyfleoedd gorau ar gyfer prosiectau ynni carbon isel, gan gyflymu a galluogi eu datblygiad, ond mae angen mwy. Rwy’n falch heddiw o nodi sut yr ydym yn ymateb i’r her o ddarparu sector pŵer carbon isel i Gymru, darparu swyddi gwyrdd a sicrhau bod gennym economi gynaliadwy.

Byddaf yn ariannu dau gynllun peilot cynllunio ynni ardal leol, gan weithio gyda Chyngor Conwy a Chyngor Casnewydd i ddatblygu cynlluniau ynni ardal leol.  Mae hyn yn adeiladu ar y gwaith rhagorol i ddatblygu’r strategaethau ynni rhanbarthol. Bydd yn rhoi cynlluniau i’r awdurdodau hyn gyda chamau ymarferol y gellir eu cyflawni, yn ogystal â rhoi gwersi inni eu defnyddio ledled gweddill ein gwlad. Bydd hefyd yn rhoi sylfaen gadarn inni ar gyfer cynllunio a darparu’r seilwaith grid y mae ei angen ar gyfer y tymor hir, yn hytrach nag uwchraddio mewn ffordd dameidiog, a fydd yn ychwanegu costau diangen. Mae trosglwyddiad cyfiawn yn ei gwneud yn ofynnol i’r grid gael ei ddylunio i ddiwallu anghenion lleoedd yn hytrach na datblygiadau unigol.

Yr ydym yn nodi ymhle y gallwn harneisio adnoddau naturiol Cymru i sicrhau’r trosglwyddiad carbon isel.

Mae’n moroedd yn cynnig potensial mawr ar gyfer technolegau ynni adnewyddadwy, gyda’r arbedion carbon cysylltiedig, y cyfleoedd cyflogaeth a’r gadwyn gyflenwi. Yr ydym wedi sefydlu parthau arddangos morol yn Ynys Môn ac yn Sir Benfro. O dan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, byddwn yn creu safle penodol yn Noc Penfro i ddatblygu dyfeisiau ynni’r llanw a’r tonnau a chanolfan ragoriaeth peirianneg ynni morol. Mae Teyrnas Ynni Aberdaugleddau wedi ennill cyllid ychwanegol gan Innovate UK, a fydd yn helpu i ddatblygu ateb ynni integredig ar gyfer gwres, pŵer a thrafnidiaeth.

Wrth edrych ymlaen, rydym yn mynd ati’n rhagweithiol i edrych ar gyfleoedd newydd a chyffrous ar gyfer technolegau gwynt ar y môr sy’n arnofio, a all weithredu mewn dyfroedd dyfnach. Byddwn yn rhannu canlyniad yr archwiliad hwn yn nes ymlaen y flwyddyn nesaf. Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, hefyd yn ystyried Her Ynni Morol. Bydd yn gwneud Datganiad i’r Senedd.

Mae’r sector cyhoeddus yn cymryd camau newydd i ddangos arweiniad wrth ddatgarboneiddio’r sector ynni.

Wedi’i gefnogi gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ac £8.6m o gyllid Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Caerdydd yn bwrw ymlaen â rhwydwaith gwres mwyaf Cymru. Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous ar gyfer y tymor hir a fydd yn lleihau allyriadau yng nghanol Caerdydd drwy ddefnyddio gwres carbon isel o’r gwaith ynni o wastraff ym Mae Caerdydd.

Mae gennym hefyd uchelgais i wneud mwy gydag ystâd Llywodraeth Cymru. Gallaf gadarnhau heddiw ein bod yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i archwilio ffyrdd o gyflawni ein huchelgais ehangach i gael mwy o berchnogaeth gyhoeddus dros gynhyrchu ynni a gwneud y defnydd gorau posibl o dir cyhoeddus. Disgwyliaf allu dweud mwy am y datblygiad hwn yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Yr ydym yn cefnogi nifer sylweddol o fentrau carbon isel arloesol ledled Cymru. Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ei fwriad i greu cwmni datblygu safle i helpu i ddatgloi potensial safle’r hen orsaf bŵer niwclear yn Nhrawsfynydd. Bydd Cwmni Egino yn anelu at gyflwyno prosiectau newydd i’r safle – dim ond dau o’r prosiectau sy’n cael eu cynnig yw adweithyddion modiwlaidd bach ac adweithydd ymchwil meddygol.

Yn olaf, rydym yn parhau i wthio ffiniau technoleg, gan gefnogi’r sylfaen ymchwil yng Nghymru i feithrin gallu a dangos syniadau newydd sy’n hanfodol i’r trawsnewid sydd ei angen arnom.

 

Mae Hydrogen yn debygol o chwarae rhan bwysig o ran cyflawni ein huchelgeisiau sero net, yn enwedig oherwydd ei hyblygrwydd ar draws gwres, pŵer, trafnidiaeth a storio. Rydym wrthi’n edrych ar gyfleoedd presennol a phosibl ar gyfer hydrogen yng Nghymru ac rydym yn datblygu llwybr hydrogen fel rhan o’n hail Gynllun Cyflenwi Carbon Isel. Bydd cydweithio â Llywodraeth y DU, Grŵp Cyfeirio Hydrogen allanol Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill yn allweddol i gyflawni uchelgeisiau yn y maes hwn ac yn helpu i ddenu cyllid preifat a llywodraeth ganolog.

 

Yr ydym hefyd wedi sicrhau dros £47m o gymorth gan y sector cyhoeddus a’r sector preifat tuag at atebion system gyfan dan ein rhaglen Byw yn Glyfar. Mae hyn yn profi ffyrdd newydd o reoli pŵer, gwres, trafnidiaeth a thechnolegau clyfar ar raddfa fach, i weld a allant weithio ledled Cymru. Rydym hefyd yn cyflwyno syniadau addawol drwy Smart Cymru gan fusnesau, er enghraifft, cyllid i ddatblygu cwch trydan heb griw ar gyfer gwell gweithredu a chynnal a chadw ar gyfer ffermydd gwynt ar y môr.

 

Rydym wedi cyflawni llawer yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, er gwaethaf heriau pandemig ac ymadael â’r UE heb gytundeb.

 

Yn ddiweddar, fe wnaethom gynnal 38 o ddigwyddiadau ar-lein gyda 1,600 o gyfranogwyr o Gymru a thu hwnt, i drafod y ffordd ymlaen yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru. Byddwn yn ymgysylltu ymhellach cyn COP 26 y flwyddyn nesaf, gan weithio gyda’r amrywiaeth eang o bobl sy’n ymwneud â gweithredu ar yr hinsawdd a gofyn iddynt ddod ymlaen gyda’u hymrwymiadau eu hunain. Bydd y camau gweithredu hyn yn rhan o Gynllun Cyflawni Carbon Isel nesaf Cymru Gyfan. Mae’r cyflawniadau a’r uchelgeisiau yr wyf yn eu gosod heddiw yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer dyfodol cynaliadwy yng Nghymru.