Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Heddiw Mae Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi ei bod yn rhewi'r lluosydd ardrethi annomestig ar gyfer 2021-22. Mae'r lluosydd yn rhan annatod o benderfynu ar filiau talwyr ardrethi. Bydd y penderfyniad hwn yn sicrhau, cyn cymhwyso unrhyw ryddhad, nad oes unrhyw gynnydd yn swm yr ardrethi y bydd busnesau'n eu talu y flwyddyn nesaf.
Roedd y lluosydd yn cael ei gynyddu am lawer o flynyddoedd yn unol â mesur chwyddiant y Mynegai Prisiau Manwerthu. Ers 2018-19, Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r lluosydd yn unol â mesur is y Mynegai Prisiau Defnyddwyr. Bydd capio lluosydd ardrethi annomestig i’r CPI, yn hytrach na’r RPI, rhwng 2018-19 a 2020-21, ochr yn ochr â rhewi’r lluosydd yn 2021-22 yn arwain at drethdalwyr yng Nghymru yn arbed dros £90 miliwn ar eu biliau ardrethi ers 2018-19.
Mae'r cymorth hwn yn ychwanegol at y pecyn o ryddhad ardrethi gwerth £580 miliwn a roddwyd i fusnesau eleni.
Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i archwilio mesurau cymorth pellach y gall eu sefydlu i fusnesau yn dilyn diwedd y cyfnod pontio ar gyfer ymadael â’r UE ac effaith economaidd pandemig y coronafeirws.
O ganlyniad i'r cyhoeddiad hwn, mae’r cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Ardrethi Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2020, a amserlennwyd i'w drafod ddydd Mawrth 8 Rhagfyr, bellach wedi'i dynnu'n ôl. Caiff dadl ar y Gorchymyn newydd yn rhewi'r lluosydd ei hamserlennu yn y Flwyddyn Newydd.