Ein cynllun ar gyfer lleihau effeithiau rhywogaethau estron goresgynnol.
Dogfennau
Strategaeth rhywogaethau estron goresgynnol Prydain Fawr 2023 i 2030 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Manylion
Mae rhywogaethau estron goresgynnol yn byw yn rhannau o’r byd nad ydynt y frodorol iddynt. Maent yn cynnwys:
- planhigion
- anifeiliaid
- ffwng
- micro-organebau
Maent yn gallu lledaenu ac achosi niwed i’r amgylchedd, yr economi, ein hiechyd a’n ffordd o fyw. Amcangyfrifwyd eu bod yn costio o leiaf £1.9 biliwn y flwyddyn i economi’r DU.
Prif amcan y Strategaeth yw lleihau’r risg o gyflwyno a sefydlu rhywogaethau estron goresgynnol ym Mhrydain Fawr, a lleihau eu heffeithiau negyddol, hynny trwy bartneriaethau cryf. Mae’r Strategaeth hon yn dilyn hierarchaeth y CBD (Y Confensiwn ar Fioamrywiaeth).
Mae hwnnw’n rhoi’r pwyslais ar:
- atal
- yna ar ddarganfod ac ymateb yn gyflym
- ac yn olaf ar reolaeth tymor hir.
Prif ganlyniadau’r strategaeth erbyn 2030 fydd:
Atal
Sicrhau gostyngiad fan leiaf o 50% yn nifer y rhywogaethau estron goresgynnol sy’n sefydlu o’u cymharu â lefelau 2000;
Cadw golwg, darganfod yn gyflym a monitro
Gwella’n sylweddol ein gallu i ddarganfod a monitro, gan gynnwys mwy o archwiliadau ac ymchwiliadau.
Rheoli
Dileu, rheoli neu ffrwyno rhywogaethau estron goresgynnol – gan flaenoriaethu yn ôl yr effaith fwyaf a’r tebygolrwydd o lwyddo
Blaenoriaethu a dadansoddi’r risgiau
Cytuno ar ddull o flaenoriaethu sy’n seiliedig ar lefel y risg a’r tebygolrwydd o lwyddo. Hynny i dargedu’n hymdrechion ar yr hyn a ddaw â’r manteision mwyaf.
Tystiolaeth
Comisiynu’r ymchwil sy’n cael blaenoriaeth yn y Cynllun Strategol Tystiolaeth. Drwy hynny, sicrheir bod y strategaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau. Bydd yn fodd hefyd i nodi bylchau a blaenoriaethu’r meysydd sydd angen eu datblygu.
Codi ymwybyddiaeth
Codi ymwybyddiaeth am rywogaethau estron goresgynnol ac annog yr holl sectorau perthnasol a’r cyhoedd i newid ymddygiad neu agweddau yn ôl y gofyn.
Cydgysylltu
Cydgysylltu gwaith llywodraethau, cyrff cysylltiedig a phrif gyfranwyr anllywodraethol yn well.
Mae'n gorchuddio 2023 i 2030.