Neidio i'r prif gynnwy

Byrfoddau a ddefnyddiwyd yn y canllawiau hyn

BHD    Y Cyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd
CIS    Strategaeth Weithredu Gyffredin
CNC    Cyfoeth Naturiol Cymru
EQS    Safonau Ansawdd Amgylcheddol
EU    Yr Undeb Ewropeaidd
FCS    Statws Cadwraethol Ffafriol 
GCS    Statws Cemegol Da
GEP    Potensial Ecolegol Da
GES    Statws Ecolegol Da
N2K    Natura 2000
NRP    Polisi Adnoddau Naturiol
NWEBS    Arolwg Manteision Amgylchedd Dŵr Cenedlaethol
PoM    Rhaglen o Fesurau
RBD    Ardal Basn Afon
RBMP    Cynllun Rheoli Basn Afon
SMNR    Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy
SoNaRR    Yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol
SWD    Y Gyfarwyddeb Dyfroedd Pysgod Cregyn
WFD    Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr
WWMF    Fforwm Rheoli Dŵr Cymru

1. Cyflwyniad

1.1    Mae Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd (RBMPs) yn rhoi dull cyfannol ar waith ar gyfer rheoli ein dyfroedd, gan edrych ar ddŵr yng nghyd-destun yr ecosystem ehangach ac ystyried ei symudiad trwy’r cylch hydrolegol, o’r tarddiad i’r môr. Rhaid i bob Cynllun Rheoli Basn Afon fod yn berthnasol i ardal basn afon (RBD), sef ardal o dir sy’n cynnwys un neu fwy o fasnau afonydd cyfagos a dyfroedd arfordirol cysylltiedig – gweler y map yn Atodiad 1.

1.2    Caiff Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd eu paratoi bob chwe blynedd fel rhan o’r dasg o weithredu’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD) a deddfwriaeth ddomestig gyfatebol, sef Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017 (“Rheoliadau 2017”).

1.3    Mae’r broses ar gyfer cynllunio basnau afonydd yn golygu pennu amcanion amgylcheddol ar gyfer dyfroedd daear a dyfroedd wyneb (yn cynnwys aberoedd a dyfroedd arfordirol) yn yr ardal basn afon, a llunio rhaglen o fesurau (PoM) i gwrdd â’r amcanion hynny.

1.4    Yn ogystal ag integreiddio materion yn ymwneud â rheoli dŵr, mae’r dasg o roi’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a rheoliadau domestig ar waith yn mynnu bod yn rhaid ystyried blaenoriaethau amgylcheddol eraill, ynghyd ag ystyriaethau economaidd a materion cymdeithasol, wrth bennu amcanion rheoli dŵr. Mae hyn yn cyd-fynd ag amcanion y Gweinidogion o ran sicrhau bod dyletswyddau statudol Gweinidogion Cymru yn cael eu rhoi ar waith mewn modd cost-effeithiol, a’u bod yn ystyried anghenion a buddiannau gwahanol randdeiliaid, ynghyd â’r angen am ddatblygu cynaliadwy.

1.5    Fersiwn ddiwygiedig o’r canllawiau a gyhoeddwyd yn 2014 yw’r canllawiau hyn ar gynllunio basnau afonydd. Cawsant eu llunio gan Weinidogion Cymru ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

1.6    Mae’r canllawiau’n cynnwys dolenni’n arwain at ganllawiau Ewropeaidd ar weithredu’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Dylai CNC gyfeirio at ganllawiau’r Strategaeth Weithredu Gyffredin (CIS) [1] , pan fo hynny’n berthnasol, oherwydd maent yn cynnig cymorth gwerthfawr o ran dehongli’r gofynion sy’n perthyn i waith cynllunio rheoli basnau afonydd.

1.7    Cafodd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 gydsyniad brenhinol ar 21 Mawrth 2016, ac mae’n rhoi dull deddfwriaethol modern ar waith sy’n cydnabod bod ein dŵr, ein tir, ein haer a’n môr yn gysylltiedig a bod ein heconomi, ein cymdeithas a’n hamgylchedd yn gyd-ddibynnol. Mae’n pennu’r gofynion i reoli, defnyddio a chyfoethogi adnoddau naturiol Cymru er mwyn esgor ar fuddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd cynaliadwy a pharhaol. Mae’r Ddeddf yn adeiladu ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a Deddf Cynllunio (Cymru) 2015. Un o themâu allweddol Deddf yr Amgylchedd (Cymru) yw rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy (SMNR), lle gwneir defnydd o Ddull Ecosystem Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol. Mae hyn yn rhoi dull seiliedig ar ardal ar waith ar gyfer cynllunio a rheoli ein hadnoddau naturiol mewn ffordd fwy cydgysylltiedig er mwyn gwella cadernid ecosystemau ynghyd â gallu ein hecosystemau i addasu i newid hinsawdd. Bydd hyn yn golygu cydweddu amcanion Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd gyda Datganiadau Ardal, sef y dogfennau sy’n nodi’r blaenoriaethau, yr heriau a’r cyfleoedd mewn perthynas â rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ar lefel ranbarthol yng Nghymru.

1.8    Caiff y canllawiau hyn eu hanelu at CNC, ond eu bwriad hefyd yw darparu pwynt cyfeirio ar gyfer unigolion, cyrff a rheoleiddwyr eraill y bydd y broses cynllunio basnau afonydd yn effeithio arnynt, neu a fydd yn cyfrannu at y broses.

Effaith ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd

1.9    Fe wnaeth y DU ymadael â’r UE ar 31 Ionawr 2020. Yn ôl y cytundeb ymadael rhwng y DU a’r UE, daw cyfnod pontio i ben ar 31 Rhagfyr 2020 (diwedd y cyfnod pontio). Yn ystod y cyfnod pontio caiff y DU ei hystyried fel pe bai’n dal i fod yn aelod-wladwriaeth o’r UE i bob pwrpas, a bydd y rhan fwyaf o gyfraith yr UE (yn cynnwys cyfreithiau a ddiwygiwyd neu yr ychwanegwyd atynt) yn parhau i fod yn berthnasol i’r DU.

1.10    Pan ddaw’r cyfnod pontio i ben, bydd Gweinidogion Cymru yn dal i fod yn rhwym wrth ddeddfwriaeth ddomestig, yn cynnwys cyfraith yr UE a ddargedwir. Er mwyn sicrhau y bydd modd gweithredu cyfundrefnau rheoleiddio sy’n effeithio ar yr amgylchedd dŵr, mae deddfwriaeth gywirol benodol wedi’i drafftio i ymdrin â diffygion sy’n deillio o ymadawiad y DU â’r UE. Bwriedir i Reoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019 a Rheoliadau’r Amgylchedd (Swyddogaethau Deddfwriaethol o Gyfarwyddebau) (Ymadael â’r UE) 2019 ddod i rym ar ddiwedd y cyfnod pontio.

[1] Gellir dod o hyd i holl ddogfennau’r Strategaeth Weithredu Gyffredin (CIS) ar dudalennau gwe’r Comisiwn Ewropeaidd:

2. Rôl a statws y canllawiau hyn

2.1    Canllawiau statudol yw’r rhain yn ymwneud â gweithredu Rheoliadau 2017 ar gyfer CNC, i’r graddau eu bod yn berthnasol i ardaloedd basnau afonydd sydd wedi’u lleoli’n gyfan gwbl yng Nghymru a rhan Cymru o ardaloedd basnau afonydd trawsffiniol. [2]  Cyflwynir y canllawiau hyn dan reoliad 36(5) Rheoliadau 2017.

2.2    Lluniwyd y canllawiau hyn gan Weinidogion Cymru.

2.3    Ym mharagraff 11.3, mae’r ddogfen hon hefyd yn cynnwys Cyfarwyddyd i CNC yn ymwneud â chyflwyno’i Gynlluniau Rheoli Basnau Afonydd ar gyfer pob ardal basn afon i’r awdurdod priodol i’w cymeradwyo. Gwneir y Cyfarwyddyd hwn dan reoliad 28 Rheoliadau 2017.

2.4    Trwy gyflwyno’r canllawiau hyn, bwriad Llywodraeth Cymru yw cynorthwyo CNC i fynd i’r afael â’i swyddogaethau cynllunio basnau afonydd ar gyfer y trydydd cyfnod cynllunio (2021-2027) ac, yn arbennig, helpu CNC i ddatblygu a diweddaru Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd y bydd yn eu cyflwyno i Weinidogion Cymru i’w cymeradwyo. Mae’r canllawiau’n pennu disgwyliadau’r gweinidogion ar gyfer prif gamau ac egwyddorion y broses cynllunio basnau afonydd yn ogystal â chynnwys y dogfennau mae’n ofynnol i CNC eu llunio, sef:

  • datganiadau o gamau a mesurau ymgynghori
  • crynodebau o faterion pwysig yn ymwneud â rheoli dŵr
  • ymgynghoriad ar ddiweddaru’r Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd
  • Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd, yn cynnwys amcanion a chrynodeb o’r Rhaglen o Fesurau, a gyflwynir i’r awdurdod priodol i’w cymeradwyo (ynghyd â gwybodaeth ategol am y canlyniadau mewn perthynas â chyfranogiad y cyhoedd).

2.5    Mae’r canllawiau hyn yn cynrychioli barn Gweinidogion Cymru ar yr adeg y cawsant eu cyhoeddi. Efallai y bydd angen cyhoeddi dogfennau canllaw pellach yn y dyfodol i adlewyrchu datblygiadau cyffredinol, datblygiadau yn dilyn ein hymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd, newidiadau pellach mewn polisïau neu newidiadau yn ein dealltwriaeth.

[2] Bydd canllawiau ychwanegol ar gynllunio basnau afonydd ar y cyd yn ardaloedd basnau Afonydd Hafren a Dyfrdwy yn cael eu cyflwyno gan Weinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol i CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd.

3. Egwyddorion cynllunio rheoli basnau afonydd yng nghyd-destun rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy


3.1    Nid yw’r canllawiau hyn yn pennu manylion y broses cynllunio basnau afonydd. CNC a ddylai benderfynu ar fanylion y broses. Fodd bynnag, mae yna rai egwyddorion pwysig, a nodir isod, y cred Gweinidogion Cymru y dylai CNC eu hystyried wrth fynd i’r afael â’i gyfrifoldebau cynllunio basnau afonydd yng nghyd-destun rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

3.2    Mae Polisi Adnoddau Naturiol [3]  (NRP) Llywodraeth Cymru yn pennu y dylid rhoi blaenoriaeth i ddull seiliedig ar le wrth reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae Datganiadau Ardal yn hollbwysig o ran cyflawni’r Polisi Adnoddau Naturiol trwy bennu ymhle y gall cymryd camau ar y raddfa iawn - yn uniongyrchol gan CNC a thrwy gefnogi camau gan eraill - gynyddu buddion a chanfod synergeddau ar draws meysydd polisi.

3.3    Bydd mentrau lleol sy’n deillio o’r blaenoriaethau a bennwyd gan Ddatganiadau Ardal yn penderfynu ar y raddfa ofodol briodol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth. Mewn rhai achosion, bydd hyn yn esgor ar brosiectau a phartneriaethau a fydd yn adeiladu ar gyfleoedd ar raddfa’r dalgylch, fel y nodir mewn rhestr o Ddalgylchoedd Cyfle, ond gall y pwyslais ar ddull seiliedig ar le esgor hefyd ar fentrau sy’n cyd-fynd â ffiniau eraill sy’n berthnasol yn lleol.

3.4    Y nod yw y bydd CNC a’i bartneriaid yn canolbwyntio ar gymryd camau mewn ardaloedd o’r budd mwyaf, ac y bydd yr ardaloedd hyn yn cael eu pennu’n glir, ynghyd â’r sail resymegol dros roi blaenoriaeth iddynt. Bydd Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd yn hollbwysig o ran cyflawni’r Polisi Adnoddau Naturiol, gan gysylltu materion rheoli dŵr â chyfleoedd rheoli tir a chyfleoedd economaidd-gymdeithasol ehangach er mwyn rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

3.5    Bydd yr arfer o weithio mewn partneriaeth ar lefel genedlaethol yn cael cefnogaeth gan Fforwm Rheoli Dŵr Cymru (WWMF), sy’n cynrychioli amrywiaeth eang o sefydliadau a chanddynt gyfrifoldeb dros reoli tir a dŵr. Caiff y Fforwm ei gadeirio gan CNC. Bydd y Fforwm hwn yn disodli’r Paneli Cyswllt Basnau Afonydd blaenorol yng Nghymru.

Bydd Fforwm Rheoli Dŵr Cymru yn gwneud y canlynol:

  • cefnogi a hyrwyddo gwaith cynllunio integredig, gyda gwell cysylltiadau rhwng cynlluniau sy’n effeithio ar yr amgylchedd dŵr
  • pennu cyfleoedd a chefnogi’r gwaith o ddatblygu prosiectau ac atebion seiliedig ar natur i fynd i’r afael â phwysau ar yr amgylchedd dŵr
  • rhannu arbenigedd a gwybodaeth a chasglu tystiolaeth berthnasol yn ymwneud â rheoli dŵr, yn cynnwys gweithio ar y cyd ar y sylfaen dystiolaeth yn yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR) er mwyn deall y pwysau sydd ar adnoddau dŵr Cymru.

Bydd Fforwm Rheoli Dŵr Cymru yn gweithio ar y cyd â fforymau rheoli adnoddau naturiol eraill ledled Cymru, yn cynnwys Fforwm Rheoli Tir Cymru a Fforwm Pysgodfeydd Cymru.

[3] Gweler Y polisi adnoddau naturiol cenedlaethol 

4. Y Cynllun Rheoli Basn Afon (RBMP)

Dibenion y Cynllun Rheoli Basn Afon

4.1    Dylai’r Cynllun Rheoli Basn Afon fod yn gynllun strategol a fydd yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i bawb sy’n gysylltiedig â’r ardal basn afon ynglŷn â dyfodol rheoli dŵr yn yr ardal honno. Bydd yn cynnwys amcanion ar gyfer pob corff dŵr ynghyd â chrynodeb o’r Rhaglen o Fesurau sy’n angenrheidiol i gwrdd â’r amcanion hynny. Ymhellach, dylai’r Cynllun Rheoli Basn Afon fod yn borth, gan gynnig mynediad rhwydd at wybodaeth ategol berthnasol.

4.2    Dylai’r broses cynllunio basnau afonydd fod yn fecanwaith ar gyfer:

  • cydlynu ac integreiddio polisïau a chynlluniau rheoli dŵr
  • cydlynu ac integreiddio polisïau a chynlluniau rheoli dŵr gyda strategaethau a chynlluniau perthnasol eraill
  • galluogi cyrff cyhoeddus eraill a rhanddeiliaid â budd (yn cynnwys y rhai sy’n debygol o fod yn gysylltiedig â rhoi’r Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd ar waith) i ddylanwadu ar y dull o reoli dŵr yn y dyfodol o fewn yr ardal basn afon trwy gyfrannu at Gynlluniau Rheoli Basnau Afonydd a chydlynu eu cynlluniau gyda Chynlluniau Rheoli Basnau Afonydd.

4.3    Tri phrif ddiben Cynllun Rheoli Basn Afon yw:

  • cofnodi canlyniadau’r broses gynllunio gyfranogol, integredig hon
  • pennu’r fframwaith polisi a ddefnyddir yn y dyfodol i wneud penderfyniadau rheoleiddio a fydd yn effeithio ar yr amgylchedd dŵr yn yr ardal basn afon honno
  • adrodd i’r cyhoedd ynglŷn â gweithredu’r amcanion dŵr.

4.4    Yn ychwanegol at y pethau mae’n rhaid eu cynnwys mewn Cynllun Rheoli Basn Afon, a rhestrir dan reoliad 27 Rheoliadau 2017, rhaid i bob Cynllun Rheoli Basn Afon fynd ati’n fras i bennu polisïau a strategaethau a fydd yn sail i reoli’r amgylchedd dŵr ac a fydd yn rhyngweithio â’r gwaith o reoli’r amgylchedd dŵr. Dylai’r polisïau a’r strategaethau hyn gael eu datblygu ar sail gwybodaeth o ystod o ffynonellau, ynghyd â chael eu hategu gan wybodaeth o’r fath, yn cynnwys y canlynol pan fyddant ar gael:

  • SoNaRR
  • Datganiadau Ardal
  • Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd
  • Cynlluniau Adfer Natur
  • cynlluniau busnes cwmnïau dŵr
  • cynlluniau datblygu a chynlluniau rheoli adnoddau dŵr
  • gwybodaeth a gesglir trwy gyfrwng cyfranogiad y cyhoedd a gwaith ymgynghori, yn cynnwys ymgynghoriadau ynglŷn â’r crynodeb o faterion rheoli dŵr pwysig a Chynlluniau Rheoli Basnau Afonydd drafft
  • gwybodaeth am asesu effeithiau - Asesiadau o Effeithiau perthnasol, dadansoddiad o gost-effeithiolrwydd ac asesiadau o gostau anghymesur ar gyfer yr ardal basn afon honno
  • yr Adroddiad Amgylcheddol sy’n ofynnol yn ôl Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004, oni bai y bydd CNC, fel Awdurdod Cyfrifol, yn ei ystyried fel mân newid nad yw’n esgor ar effeithiau amgylcheddol sylweddol, dan Erthygl 3.2. Mewn achosion o’r fath, bydd CNC yn cyhoeddi ei benderfyniad sgrinio yn erbyn cynnal Asesiad Amgylcheddol Strategol ac yn hysbysu’r ymgyngoreion statudol
  • yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd mewn perthynas â’r effeithiau posibl ar safleoedd Natura 2000 (N2K) (Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig) yn unol â rheoliadau 24 a 63 Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017. Yn ôl polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, er nad yw safleoedd Ramsar yn atebol yn ôl y gyfraith i’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd a’r Rheoliadau Cynefinoedd, dylid eu trin yn yr un ffordd ag Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig.
  • Cynlluniau Gwella â Blaenoriaeth ar gyfer safleoedd N2K
  • y polisïau a’r cynigion ar gyfer Ardaloedd Basnau Afonydd cyfagos, a phan fo’n berthnasol, Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru ynghyd â chynlluniau morol eraill y DU pan fo’r rhain wedi’u llunio.

4.5    Dylai’r Cynllun Rheoli Basn Afon esbonio sut ystyriwyd ymaddasu i newid hinsawdd yn y broses gynllunio. Ymhellach, dylid ystyried lliniaru newid hinsawdd - er enghraifft, rhoi ystyriaeth i effeithiau allyriadau carbon wrth ystyried ffyrdd amgen o gyflawni amcanion.

5. Safonau amgylcheddol

Defnyddio safonau wrth gynllunio basnau afonydd

5.1    Rhaid i CNC gymhwyso’r safonau a’r meini prawf eraill sy’n diffinio statws cyrff dŵr. Caiff y rhain eu pennu yn y Cyfarwyddydau statudol: Cyfarwyddydau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr (Safonau a Dosbarthiad) (Cymru a Lloegr) 2015.  [4]

5.2    Gall yr Awdurdodau Priodol gyhoeddi Cyfarwyddydau diwygiedig er mwyn rhoi ystyriaeth i safonau newydd a diwygiedig. Dylai CNC ddefnyddio’r safonau hyn ar gyfer trydydd cylch y gwaith cynllunio rheoli basnau afonydd yn hytrach na’r rhai a nodir ym mharagraff 5.1.

5.3    Ar ôl i unrhyw safonau newydd neu safonau a ddiweddarwyd gael eu mabwysiadu’n ffurfiol, dylai CNC fynd ati mewn modd amserol i ymgorffori’r meini prawf a’r safonau newydd a diwygiedig mewn prosesau rheoleiddio presennol er mwyn cyflawni amcanion Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd.

5.4    Yn achos rhai safonau amgylcheddol lle mae’r cysylltiadau rhwng y safon a’r fioleg yn gymhleth (er enghraifft, safonau ar gyfer maethynnau), nid yw methiant i gyrraedd y safon mewn corff dŵr arbennig bob amser yn ddigon i benderfynu a effeithir mewn gwirionedd ar y fioleg y mae’r safon yn ei chynnal. Mewn achosion o’r fath, dylai CNC roi ystyriaeth i ganlyniadau biolegol ac unrhyw dystiolaeth ategol arall wrth ystyried yr achos dros gymryd camau gwella penodol drud.

[4] Mae’r Cyfarwyddydau hyn yn disodli’r Cyfarwyddiadau (Teipoleg Ardaloedd Basn Afon, Safonau a Gwerthoedd Trothwy Dŵr Daear) (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2010 a Chyfarwyddyd Dŵr Wyneb a Dosbarthiad Dŵr Daear (Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) Ardaloedd Basn Afon (Cymru a Lloegr) 2009. Hefyd, gyda Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017, maent yn trosi Cyfarwyddyd yr UE 2013/39/EC ar safonau ansawdd amgylcheddol ar gyfer sylweddau â blaenoriaeth.

6. Amcanion amgylcheddol

Amcanion cyrff dŵr

6.1    Mae Rhan 5 Rheoliadau 2017 yn pennu amcanion amgylcheddol ar gyfer yr amgylchedd dŵr. Rhaid i’r holl amcanion hyn gael eu cwrdd, oni bai y bydd un neu fwy o’r eithriadau a nodir yn rheoliadau 16, 17, 18 neu 19 Rheoliadau 2017 yn berthnasol (gweler Pennod 7).

6.2    Ar gyfer dŵr wyneb, bydd yn rhaid i CNC bennu amcanion ar gyfer pob corff dŵr mewn perthynas â’r canlynol:

  • atal dirywiad
  • sicrhau dosbarthiad statws arbennig (a ddiffinnir yn unol â’r meini prawf dosbarthu a nodir yn y Cyfarwyddydau Dosbarthu)
  • amcanion ardaloedd gwarchodedig, pan fônt yn berthnasol.

6.3    Ar gyfer dŵr daear, bydd yn rhaid i CNC bennu amcanion ar gyfer pob corff dŵr mewn perthynas â’r canlynol:

  • atal dirywiad
  • sicrhau dosbarthiad statws arbennig (a ddiffinnir yn unol â’r meini prawf dosbarthu a nodir yn y Cyfarwyddydau Dosbarthu)
  • atal neu gyfyngu ar fewnbwn llygryddion
  • gwrthdroi tueddiadau arwyddocaol mewn llygryddion yn unol â gofynion y Gyfarwyddeb Dŵr Daear
  • amcanion ardaloedd gwarchodedig, pan fônt yn berthnasol.

6.4    Yr amcanion rhagosodedig ar gyfer trydydd cylch y gwaith cynllunio basnau afonydd yw atal dirywiad mewn statws (neu botensial ecolegol ar gyfer cyrff dŵr artiffisial neu rai sydd wedi’u haddasu’n helaeth), a diogelu, cyfoethogi ac adfer pob corff dŵr gyda’r nod o sicrhau statws ‘da’ (neu ‘botensial’) ar gyfer yr holl gyrff dŵr nad ydynt eisoes â statws ‘da’ neu well erbyn 2027, pan na fo’r amcan hwn wedi’i gwrdd erbyn diwedd yr ail gylch yn 2021.

6.5    Gellir bod yn fwy sicr y bydd rhai o’r amcanion dan Reoliadau 2017 yn cael eu cwrdd nag eraill, a hynny oherwydd yr amrywio yn lefel yr hyder sy’n berthnasol i ddosbarthu cyrff dŵr penodol a’r sicrwydd ynghylch effeithiolrwydd y mesurau arfaethedig. Nid yw sicrwydd llwyr yn angenrheidiol wrth bennu amcanion, ond gellir cynnig rhyw syniad o lefel yr hyder mewn perthynas â chwrdd ag amcanion.

6.5(a)     Dylai CNC gynnig amcanion amgylcheddol hirdymor ar gyfer pob corff dŵr yn yr ardal basn afon, ynghyd â Rhaglen o Fesurau er mwyn cyflawni’r amcanion hynny. Ymhellach, dylai CNC amcangyfrif graddfa’r camau a’r gwelliannau y gellid eu cyflawni erbyn diwedd y trydydd cylch (2027). Dylai’r amcangyfrif hwn gael ei seilio ar lefel dybiedig cyllid cenedlaethol (hyd at 2027) yn ymwneud â’r rhaglenni mwyaf perthnasol a lefel dybiedig o ran gweithredu gwirfoddol ychwanegol trwy ymdrechion lleol.
Atal dirywiad

6.6    Mae atal dirywiad yn amcan allweddol dan Reoliadau 2017, a phrin a chyfyngedig yw’r eithriadau. Mae cyfraith achosion ddiweddar [5] wedi cadarnhau y gellir pennu dirywiad mewn statws corff dŵr cyn gynted ag y bydd statws o leiaf un o’r elfennau ansawdd, yn yr ystyr a nodir yn Atodiad V y Gyfarwyddeb, yn gostwng un dosbarthiad (yn cynnwys gostwng o statws ‘da’ i statws ‘gwael’), hyd yn oed os na fydd y gostyngiad hwnnw’n arwain at ostyngiad yn nosbarthiad y corff dŵr wyneb yn ei gyfanrwydd. Yn achos dyfroedd wyneb, caiff y gofyn i atal dirywiad ei gymhwyso at bob un o’r elfennau a ddefnyddir i bennu statws ecolegol a statws cemegol cyrff dŵr. Yn achos dŵr daear, caiff y gofynion ‘dim dirywiad’ eu cymhwyso at bob un o’r profion ar gyfer statws meintiol a chemegol.

6.7    Dylai’r llinell sylfaen ‘dim dirywiad’ ar gyfer cyrff dŵr gael ei phennu gan CNC ar gyfer trydydd cylch y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd.

6.8    Pan fo statws rhyw elfen eisoes yn y dosbarthiad statws isaf, yna caiff unrhyw ddirywiad pellach (oddi mewn i ddosbarthiad) ei ystyried fel dirywiad yn y corff dŵr. Mewn amgylchiadau o’r fath, rhaid i unrhyw newid negyddol fod yn fesuradwy ac yn ystyrlon ar raddfa’r corff dŵr er mwyn gallu ei ystyried fel dirywiad.

6.9    Ar gyfer dŵr daear, rhaid cymryd camau i wrthdroi unrhyw duedd amgylcheddol-arwyddocaol o ran dirywiad, pan un a fydd yn effeithio ar ei statws, ai peidio.

6.10    Yn achos gweithgareddau mae CNC o’r farn y gallant arwain at ddirywiad mewn statws corff dŵr, dim ond os caiff rheoliad 19 Rheoliadau 2017 eu cwrdd y bydd modd i CNC awdurdodi neu fynd i’r afael â gweithgareddau o’r fath.

6.11    Yn achos gweithgareddau sy’n debygol o arwain at ddirywiad mewn statws, gall CNC gynghori cyrff cyhoeddus eraill sy’n awdurdodi neu’n mynd i’r afael â gweithgareddau o’r fath ynglŷn â pha mor dderbyniol yw’r gweithgaredd arfaethedig. Fodd bynnag, y corff cyhoeddus arall a fydd yn gyfrifol am y penderfyniad terfynol.

6.12    Wrth ddefnyddio rheoliad 19 Rheoliadau 2017 i gyfiawnhau dirywiad mewn corff dŵr, rhaid i bob achos o’r fath gael ei gofnodi yn niweddariad nesaf y Cynllun Rheoli Basn Afon. Pe bai dosbarthiad corff dŵr yn newid o ganlyniad i gyflwyno safon ddiwygiedig, dylid cofnodi hyn fel dosbarthiad diwygiedig, nid fel dirywiad.

Amcanion ardaloedd gwarchodedig

6.13    Yn ychwanegol at bennu amcanion amgylcheddol ar gyfer cyrff dŵr, mae Rhan 3 Rheoliadau 2017 yn darparu ar gyfer ardaloedd gwarchodedig arbennig. Mae rheoliad 8 yn mynnu y dylid pennu cyrff dŵr lle caiff dŵr yfed ei dynnu, ac mae’n nodi mesurau penodol mae’n rhaid eu cynnwys mewn rhaglen o fesurau (gweler Rhan 5 Rheoliadau 2017) i ddiogelu ansawdd y dŵr. Mae rheoliad 9 yn nodi gweithdrefn ar gyfer dynodi ardaloedd o ddŵr yn ddyfroedd pysgod cregyn a ddiogelir, lle bydd amcanion ychwanegol yn berthnasol (gweler rheoliad 13). Mae rheoliad 10 yn mynnu bod yn rhaid cynnwys mathau gwahanol o ardaloedd a warchodir gan ddeddfwriaethau eraill yr UE (er enghraifft, cynefinoedd gwarchodedig a safleoedd adar), yn ogystal â’r ardaloedd dan reoliadau 8 a 9, mewn cofrestri o ardaloedd gwarchodedig.

Amcanion sy’n deillio o Gyfarwyddebau a ddiddymwyd gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr

6.14    Cafodd y Gyfarwyddeb Dyfroedd Pysgod Cregyn (SWD) ei diddymu ym mis Rhagfyr 2013.

6.15    Er mwyn sicrhau’r un lefel o warchodaeth ag a roddwyd gan y Gyfarwyddeb Dyfroedd Pysgod Cregyn, mae rheoliad 9 Rheoliadau 2017 yn nodi gweithdrefn ar gyfer dynodi ardaloedd o ddŵr yn ddyfroedd pysgod cregyn a ddiogelir ac mae’n mynnu y dylai Gweinidogion Cymru barhau i adolygu’r ardaloedd hynny sydd wedi’u dynodi ar gyfer diogelu pysgod cregyn. Gwneir hyn gan nad yw’r safon ficrobaidd ar gyfer pysgod cregyn, a bennwyd er mwyn diogelu iechyd pobl dan y Gyfarwyddeb Dyfroedd Pysgod Cregyn, yn berthnasol i asesu statws ecolegol cyrff dŵr y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, ac felly rhaid i’r elfen hon gael ei chynnal ar wahân ar gyfer dyfroedd pysgod cregyn. Mae rheoliad 10 yn ei gwneud hi’n ofynnol i CNC gynnwys dyfroedd pysgod cregyn a ddiogelir mewn cofrestri o ardaloedd gwarchodedig.

6.16    Caiff y safon ficrobaidd, a gymhwysir at ddyfroedd pysgod cregyn dynodedig yn unig, ei nodi yn y Cyfarwyddiadau i CNC. Dylai CNC anelu at sicrhau’r safon, cyn belled â’i bod yn ddichonadwy a chyn belled na fydd y gwaith yn arwain at gost anghymesur o ddrud.

Ardaloedd gwarchodedig Natura 2000 (N2K)

6.17    Mae’r adran hon yn cyfeirio at ardaloedd a ddynodir gan y Cyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd (BHD) er diogelu cynefinoedd neu rywogaethau, pan fo cynnal neu wella statws dŵr yn ffactor pwysig yn y dasg o’u gwarchod. Yn yr adran hon, yr “ymgynghorydd cadwraeth perthnasol” yw CNC.

6.18    Nod y Cyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd, ynghyd â Rheoliadau 2017, yw sicrhau ecosystemau dyfrol iach, gan sicrhau yr un pryd fod yna gydbwysedd rhwng diogelu dŵr/natur a defnyddio adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Yn achos y Cyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd, caiff hyn ei fynegi ar ffurf “statws cadwraethol ffafriol” (FCS). Nid yw statws cadwraethol ffafriol, o angenrheidrwydd, yn berthnasol ar lefel y safle [6].  Gall amcanion ar gyfer ardaloedd gwarchodedig unigol amrywio’n ôl y cyfraniad mae’n ofynnol iddynt ei wneud at statws cadwraethol ffafriol ar raddfa genedlaethol. Dylai CNC ddefnyddio’r broses cynllunio basnau afonydd i ystyried mewn modd cydlynol a thryloyw beth yw’r amodau amgylcheddol a’r amcanion priodol y dylid eu cyflawni ar gyfer cyrff dŵr unigol, safleoedd N2K eraill sy’n ddibynnol ar ddŵr ac a gofnodir yn y gofrestr o ardaloedd gwarchodedig, a basnau afonydd, fel y gellir bodloni gofynion y Cyfarwyddebau Adar a Dŵr, ynghyd â Rheoliadau 2017.

6.19    Efallai y bydd statws cemegol da (GCS), statws ecolegol da (GES) neu botensial ecolegol da (GEP) yn cyfrannu at statws cadwraethol ffafriol. Efallai y bydd rhai mathau o gynefinoedd neu rywogaethau angen safonau llymach na’i gilydd er mwyn sicrhau statws cadwraethol ffafriol, fel statws ecolegol uchel ar gyfer un neu fwy o elfennau ansawdd, neu statws uwch na statws uchel hyd yn oed. Mae’n bosibl y bydd Rheoliadau 2017 yn mynnu cael amodau llymach na’r Cyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd. Yn y naill achos a’r llall, dylai CNC gymhwyso’r safon fwyaf llym at y corff dŵr neu’r rhan o’r corff dŵr sy’n ardal warchodedig.

6.20    Yn achos Rheoliadau 2017 a’r Cyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd, un o’r gofynion allweddol yw atal y statws cyfredol rhag dirywio. Ni ddylid cymeradwyo unrhyw gynllun neu brosiect a allai effeithio ar safle N2K, oni bai y bydd CNC yn fodlon na fydd yn cael effaith niweidiol ar gyfanrwydd y safle. Nid yw hyn yn golygu y bydd yn rhaid osgoi’n awtomatig bob newid negyddol mewn paramedr monitro sengl mewn unrhyw ran o’r safle bob amser. Dylid ystyried unrhyw newid o’r fath yng nghyd-destun cyfanrwydd y safle yn gyffredinol.

6.21    Os yw elfennau ansawdd yn helpu i gyflawni targedau N2K, yna dylent fod wedi’u cyflawni erbyn 2021. Os na fyddant wedi’u cyflawni, dylai CNC anelu at gyflawni targedau’r elfennau hynny cyn gynted â phosibl yn y trydydd cylch, neu gymhwyso amcanion amgen at yr elfennau hynny os caniateir hyn dan ddeddfwriaeth N2K. Gellir defnyddio’r amcanion amgen a nodir ym Mhennod 7, cyn belled ag y bydd CNC yn sicrhau bod y modd y defnyddir unrhyw amcanion amgen yn cydymffurfio â gofynion yr holl ardaloedd gwarchodedig.

6.22    Gall defnyddio terfynau amser estynedig dan reoliad 16 Rheoliadau 2017 fod yn arbennig o berthnasol mewn achosion pan bennwyd mesurau yn, neu cyn, y Cynllun Rheoli Basn Afon cyntaf neu’r ail Gynllun Rheoli Basn Afon, ond nad ydynt eto wedi cyflawni’r canlyniadau disgwyliedig oherwydd amodau naturiol neu resymau technegol.

6.23    Pan fydd CNC yn cynnig targedau newydd neu ddiwygiedig ar gyfer unrhyw elfen ansawdd i ategu amcan cadwraethol corff dŵr sy’n ardal warchodedig, dylai CNC gyflwyno’i gynigion yn y Cynllun Rheoli Basn Afon drafft fel y gellir ymgynghori yn eu cylch. Dylid croesgyfeirio â’r dystiolaeth ynglŷn â’r safle.

6.24    Er mwyn cyfrannu at gyflawni amcanion dan Gonfensiwn Ramsar, dylai CNC weithredu’r un ystyriaethau ar gyfer safleoedd Ramsar ag a wna ar gyfer ardaloedd gwarchodedig sydd wedi’u dynodi dan reoliad 10 Rheoliadau 2017 – sef atal dirywiad, pennu amcanion dŵr, cymhwyso eithriadau a phennu mesurau’n ymwneud ag amcanion dŵr.

Ardaloedd gwarchodedig dŵr yfed

6.25    Fel y nodir yn rheoliad 8(2) Rheoliadau 2017, yn ychwanegol at amcanion statws cyrff dŵr, dylai CNC anelu at rwystro unrhyw ddirywiad sylweddol a pharhaus yn ansawdd y dŵr, fel y gellir osgoi’r angen i gynyddu lefel y driniaeth buro ac fel y gellir lleihau lefel y driniaeth dros amser. Dylid cyflawni hyn trwy nodi’r gofynion yn y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd a gweithio ar y cyd i gyflwyno’r mesurau. Efallai y bydd CNC yn gwahaniaethu rhwng ei ddull o ymdrin ag ardaloedd gwarchodedig dŵr yfed ar gyfer cyrff dŵr wyneb a chyrff dŵr daear. Dylai CNC sicrhau bod parthau diogelu ardaloedd gwarchodedig dŵr yfed yn cael eu rhoi ar waith, eu hasesu a’u cofnodi mewn adroddiadau – ar gyfer cyflenwadau dŵr yfed cyhoeddus, a phan fo’n berthnasol ar gyfer cyflenwadau dŵr yfed preifat.

Dyfroedd ymdrochi

6.26    Mae’r Gyfarwyddeb Dyfroedd Ymdrochi (2006/7/EC), a roddir ar waith mewn deddfwriaeth ddomestig gan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013, yn ei gwneud hi’n ofynnol i Aelod-wladwriaethau sicrhau bod yr holl ddyfroedd ymdrochi yn cyrraedd safon ‘ddigonol’ fan leiaf erbyn 2015, ac o 2015 ymlaen, eu bod yn cymryd camau realistig a chymesur i gynyddu nifer y dyfroedd ymdrochi a fydd yn cyrraedd dosbarthiadau ‘da’ neu ‘ragorol’.

[5] 1 Gorffennaf 2015, Bund für Umwelt und Naturschutz Deutschland eV v Bundesrepublik Deutschland

[6] Gweler papur y Comisiwn Ewropeaidd, ‘Links between the Water Framework Directive (WFD 2000/60/EC) and Nature Directives (Birds Directive 79/409/EEC and Habitats Directive 92/43/EEC)’ [3.4]

7. Amcanion amgen ac amddiffyniadau


7.1    Yn achos amcanion a gaiff eu gosod trwy ddefnyddio’r eithriadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 6.1 uchod, cyfeirir atynt hefyd fel amcanion amgen yn y canllawiau hyn ac mewn rhai canllawiau Ewropeaidd [7] .

7.2    Defnyddio amcanion amgen yw’r mecanwaith mae Rheoliadau 2017 yn ei ddarparu ar gyfer:

  • ystyried blaenoriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd, ymhlith pethau eraill, ochr yn ochr â blaenoriaethau rheoli dŵr
  • blaenoriaethu camau gweithredu dros gylchoedd cynllunio rheoli basnau afonydd olynol.

7.3    Dyma’r mathau o amcanion amgen sydd i’w cael:

  • terfyn amser estynedig (rheoliad 16)
  • amcan llai llym (rheoliad 17)

Mae Rheoliadau 2017 hefyd yn darparu ar gyfer gwahanol amcanion ecolegol yng nghyswllt cyrff dŵr artiffisial neu rai sydd wedi’u haddasu’n helaeth (rheoliad 15) [8]  ac maent yn darparu ar gyfer addasiadau newydd neu weithgareddau datblygu cynaliadwy newydd (rheoliad 19).

7.4    Ymhellach, gellir defnyddio’r darpariaethau yn rheoliad 18 fel amddiffyniad i gyfiawnhau achosion pan na fydd amcan mewn Cynllun Rheoli Basn Afon wedi’i gyflawni o ganlyniad i ddirywiad dros dro mewn statws oherwydd achosion naturiol neu force majeure a phan fo’r holl amodau a nodir yn rheoliad 18 wedi’u cwrdd.

7.5    Gellir defnyddio’r darpariaethau yn rheoliad 19 fel amddiffyniad:

  • pan fo methiant i gyflawni amcan statws neu atal dirywiad wedi digwydd oherwydd addasiadau newydd i nodweddion ffisegol y corff dŵr, neu
  • pan fo dirywiad o statws ‘uchel’ i statws ‘da’ wedi digwydd o ganlyniad i weithgareddau datblygu cynaliadwy newydd,
  • a phan fo’r holl amodau a nodir yn rheoliad 19 wedi’u cwrdd.

7.6    Dim ond mewn perthynas â’r safonau a’r amcanion a gyfyd o fecanweithiau Rheoliadau 2017 y gellir defnyddio amcanion amgen ac amddiffyniadau Rheoliadau 2017, ac ni ellir eu defnyddio mewn perthynas â safonau neu amcanion a gyfyd o ddeddfwriaethau eraill.

7.7    Bob tro y defnyddir amcan amgen neu amddiffyniad (yn cynnwys defnyddio rheoliad 19) yn sgil penderfyniad gan CNC neu unrhyw gorff cyhoeddus arall, rhaid cofnodi hyn yn y Cynllun Rheoli Basn Afon neu yn niweddariadau’r cynllun, fel y bo’n briodol.

7.8    Os caiff amcan llai llym ei osod, rhaid mynd ati i adolygu’r amcan a’r cyfiawnhad dros ei osod bob tro y caiff y Cynllun Rheoli Basn Afon ei ddiweddaru.

7.9    Wrth lunio cynigion ar gyfer amcanion a rhaglen o fesurau yn barod i Lywodraeth Cymru eu hystyried, dylai CNC argymell y dylid defnyddio amcanion amgen pan fo hynny’n briodol a phan fo’n cyd-fynd â nodau cyffredinol Rheoliadau 2017. Maent yn rhan hollbwysig o Reoliadau 2017 [9]  a dylai’r ffordd y cânt eu defnyddio fod yn rhan hanfodol o waith cynllunio basnau afonydd.

7.10    Fodd bynnag, amcanion amgen yw’r unig ystyriaethau y gellir eu defnyddio i gyfiawnhau ffordd o weithredu a fydd yn arwain at fethu â bodloni’r amcanion rhagosodedig.

Ymestyn terfynau amser a gosod amcanion llai llym

7.11    Dim ond ar sail rhesymau’n ymwneud ag amodau naturiol y tu hwnt i 2027 y gellir defnyddio rheoliad 16 (terfyn amser estynedig), oni chaniateir ei ddefnyddio ar gyfer cemegau newydd a nodir gan y Gyfarwyddeb Sylweddau â Blaenoriaeth (2013/39/EU).

7.12    Mae’r dewis i ddefnyddio amcan llai llym yn dal i fod ar gael. Dylid ystyried amcan llai llym os daw’n amlwg y bydd sicrhau statws ‘da’ erbyn 2027 naill ai’n annichonadwy neu’n anghymesur o ddrud. Rhaid adolygu’r amcanion llai llym, ynghyd â’r rhesymau dros eu defnyddio, bob 6 blynedd a rhaid eu hesbonio yn niweddariadau dilynol y Cynllun Rheoli Basn Afon.

Newid amcanion yn y trydydd cylch cynllunio [10]

7.13    Mewn ambell achos, efallai y bydd hi’n angenrheidiol ac yn briodol defnyddio eithriad newydd dan reoliadau 16 ac 17 ar gyfer diweddariadau’r Cynllun Rheoli Basn Afon. Er enghraifft, os na fydd corff dŵr yn cyflawni’r amcan a osodwyd ar ei gyfer gan fod y mesurau a roddwyd ar waith yn llai effeithiol na’r disgwyl. 
Pe bai mynd ati i gyflawni’r amcan yn annichonadwy neu’n anghymesur o ddrud, gellir defnyddio amcan llai llym, fel y bo’n briodol, yn unol â’r cyfyngiadau a nodir yn Rheoliadau 2017 mewn perthynas â’u defnyddio.

7.14    Hefyd, efallai y bydd yn angenrheidiol ac yn briodol addasu neu ddisodli amcan llai llym neu derfyn amser estynedig, a hynny ar sail dealltwriaeth a gwybodaeth newydd am y corff dŵr. Byddai hyn, er enghraifft, yn ei gwneud hi’n bosibl gosod yr amcan rhagosodedig ‘statws da’ yn niweddariad y Cynllun Rheoli Basn Afon, er mwyn disodli’r amcan llai llym a geir ar hyn o bryd.

[7] Canllawiau CIS 20

[8] Mae cyrff dŵr artiffisial a rhai sydd wedi’u haddasu’n helaeth yn gategori cyrff dŵr ar wahân y disgwylir iddynt gyrraedd yr un safonau â’r corff dŵr naturiol cyfatebol agosaf, ac eithrio pan fydd effeithiau uniongyrchol nodweddion artiffisial neu nodweddion addasedig y corff dŵr yn rhwystro hyn rhag digwydd, fel y nodir ym mharagraff 4, Rhan 2 y Cyfarwyddydau ar ddosbarthu cyrff dŵr.

[9] Gweler Canllawiau CIS 20, paragraff 3.1

[10] Gweler Canllawiau CIS 20, paragraff 3.3.4

8. Cyfiawnhau defnyddio amcanion amgen

8.1    Mae amodau naturiol, annichonolrwydd technegol, annichonolrwydd a chostau anghymesur yn feini prawf allweddol wrth gyfiawnhau’r arfer o ddefnyddio amcanion amgen.

8.2    Mae’r cysyniadau’n perthyn i’w gilydd, ac i ryw raddau mae hi’n angenrheidiol eu hystyried ochr yn ochr â’i gilydd. Fodd bynnag, mae’n bwysig i CNC fod yn glir ynglŷn ag ystyr y termau hyn a’r defnydd a wneir ohonynt wrth gyfiawnhau amcanion amgen.

8.3    Mae trefn resymegol i’w chael wrth ystyried y ffactorau hyn:

  • amodau naturiol, annichonolrwydd technegol neu annichonolrwydd o fath arall o ran cyflawni’r amcan (a ellir cwrdd â’r amcan?)
  • costau anghymesur (a yw’n gymesur - hynny yw, yn effeithlon ac yn gyfiawn - cwrdd â’r amcan trwy gymryd y camau mwyaf cost-effeithiol?).

O’r herwydd, caiff y cysyniadau eu hystyried yn y drefn hon yn y paragraffau a ganlyn.

Amodau naturiol

8.4    Mae Rheoliadau 2017 yn cyfeirio at “amodau naturiol” yn:

  • rheoliad 16(3)(c): un cyfiawnhad dros ymestyn y terfyn amser yw’r ffaith nad yw’r amodau naturiol yn arwain at welliant amserol yn statws y corff dŵr,
  • rheoliad 17(1)(a): un cyfiawnhad dros osod amcan llai llym yw’r ffaith fod cyflwr naturiol y corff dŵr yn golygu y byddai cyflawni’r amcanion rhagosodedig yn annichonadwy neu’n anghymesur o ddrud.

8.4(a)     Mae’r ddarpariaeth hon yn mynnu y dylai’r mesurau sy’n angenrheidiol i sicrhau statws da gael eu rhoi ar waith erbyn 2027 fan hwyraf, ond bod nodweddion y basn afon neu’r corff dŵr yn golygu y disgwylir i’r gwaith o adfer statws da gymryd mwy o amser na hynny. Felly, ar ôl degawdau weithiau o arferion anghynaliadwy, cydnabyddir y gall y basn afon neu’r corff dŵr gymryd llawer o amser i adfer statws da, er bod y mesurau cywirol angenrheidiol wedi’u rhoi ar waith.

8.5    Efallai y bydd amodau naturiol yn gyfiawnhad dros osod amcan amgen, yn cynnwys:

  • pan gymerir amser, ar ôl i weithgaredd niweidiol neu lygrol ddod i ben, i’r amodau angenrheidiol a all ategu statws ecolegol da gael eu hadfer ac i’r planhigion a’r anifeiliaid ail-gytrefu ac ymsefydlu;
  • oherwydd amodau naturiol hydroddaearegol, efallai y bydd cyrff dŵr daear yn cymryd amser i gyrraedd statws cemegol da;
  • cemegau etifeddol sydd â ffynhonnell wasgaredig barhaus y disgwylir iddi leihau i lefel lle gellid cyflawni’r Safonau Ansawdd Amgylcheddol o ganlyniad i fesurau parhaus.

8.5(a)     Sylwer: nid yw defnyddio rheoliad 16 - ymestyn terfynau amser ar sail ‘amodau naturiol’ - yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r pwysau gael eu dileu yn gyfan gwbl, ond dylai’r Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd gynnwys y mesurau y rhagwelir y byddant yn angenrheidiol i gyflawni statws da, a cheir tystiolaeth y bydd y dasg o gyflawni’r amcanion, er hyn oll, angen mwy o amser oherwydd amodau naturiol.

Annichonolrwydd technegol

8.6    Mae Rheoliadau 2017 yn cynnwys cyfeiriadau at annichonolrwydd technegol yn:

  • rheoliad 15(1)(b) mewn perthynas â dynodi Cyrff Dŵr Artiffisial neu Rai a Addaswyd yn Helaeth
  • rheoliad 16(3)(a) mewn perthynas â’r cyfiawnhad sy’n ofynnol i ymestyn terfynau amser 
  • rheoliad 19(5) mewn perthynas â chyfiawnhau addasiadau newydd a gweithgareddau datblygu cynaliadwy newydd gan bobl.

8.7    Dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y dylai CNC ystyried ei bod hi’n dechnegol annichonadwy cyflawni amcan:

  • nid oes ateb technegol ar gael, neu
  • nid oes gwybodaeth ddigonol ar gael ynglŷn ag achos y broblem er mwyn gallu pennu ateb, neu
  • ceir cyfyngiadau ymarferol o natur dechnegol (er enghraifft, os bydd comisiynu safle neu broses ddiwydiannol newydd yn atal y mesurau rhag cael eu rhoi ar waith o fewn terfyn amser cynharach).

8.8    Mewn egwyddor, dim ond â materion o natur dechnegol y mae a wnelo annichonolrwydd technegol yng nghyswllt cyflawni amcanion, ac nid oes a wnelo â materion cost. Yn ymarferol, po fwyaf yr ymdrech wrth geisio goresgyn materion o natur dechnegol, po fwyaf tebygol yw hi y deuir o hyd i ffyrdd o gyflwyno gwelliannau. Pan fo’r buddion a fydd yn deillio o gyflawni amcan yn sylweddol, mae’n debygol y bydd hi’n briodol gwneud ymdrech fwy o lawer i ddod o hyd i opsiwn sy’n dechnegol ddichonadwy na phe disgwylid i’r buddion fod yn fach.

Os na fydd ateb technegol ar gael

8.9    Efallai fod yna nifer o resymau pam bydd CNC yn awgrymu nad oes “unrhyw ateb technegol ar gael” i gwrdd ag amcan, yn arbennig:

  • Os yw’r safonau islaw’r terfyn darganfod neu’r terfyn monitro

    Efallai y bydd hi’n dechnegol annichonadwy cwrdd â’r Safonau Ansawdd Amgylcheddol sydd wedi’u gosod ar gyfer rhai sylweddau â blaenoriaeth a llygryddion penodol os yw’r lefelau islaw’r terfynau darganfod a monitro presennol. Os yw Safon Ansawdd Amgylcheddol islaw terfynau meintioli dadansoddol, dylai CNC ddefnyddio’r technegau gorau sydd ar gael, a rhai na fyddant yn golygu costau eithafol, yn unol â Chyfarwyddeb 2009/90/EC, lle nodir manylebau technegol ar gyfer dadansoddiadau cemegol a monitro statws dŵr [11]. 

    Ni ddylid cynnig “annichonolrwydd technegol” fel sail i eithriad:
    • os yw hi’n bosibl ac yn briodol defnyddio dulliau dadansoddi mewn matricsau ac eithrio dŵr, fel biota neu waddodion yn unol â’r meini prawf a nodir yng nghyfarwyddebau 2008/105/EC, 2009/90/EC a 2013/39/EU, neu
    • mewn achosion pan fydd y lefelau halogi yn ddigon uchel i allu mesur y crynodiadau’n drylwyr, hyd yn oed os yw’r crynodiadau ar y Safon Ansawdd Amgylcheddol islaw’r terfyn meintioli.

Yn y ddau achos, dylid ystyried mesurau i fynd i’r afael â llygredd.

  • Os na fydd mesur ar gael i ddelio â’r broblem

    Er y gellid cymryd amrywiaeth eang iawn o gamau i helpu i gyflawni amcanion Rheoliadau 2017, yn achos rhai problemau efallai na fydd unrhyw fesur ar gael y gellir ei roi ar waith yn ymarferol. Er enghraifft, efallai y bydd hi’n amhosibl cael gwared â phoblogaeth rhywogaeth estron ar ôl iddi ymsefydlu mewn cynefin arbennig. Neu efallai y bydd techneg newydd i’w chael ar gyfer delio â phroblem – techneg y profwyd ei bod yn gweithio mewn amodau dan reolaeth yn y labordy, ond nad yw wedi’i datblygu’n ddigonol eto i weithio’n effeithiol yn ymarferol.
     
  • Os ceir methiannau yng nghyswllt safonau sylweddau â blaenoriaeth, nad oes mesurau dichonadwy nac ymarferol pellach i’w cael ar eu cyfer

    Mae hyn yn fwyaf cyffredin gyda sylweddau gwenwynig, biogronnol, parhaus a hollbresennol (uPBT). Efallai y bydd mesurau a gymerir ar lefel genedlaethol neu ryngwladol – fel rheoli wrth darddiad dŵr trwy gyfrwng REACH – yn cael eu rhoi ar waith, ond efallai y bydd yna gryn oedi rhwng yr adeg y caiff y mesurau hyn eu rhoi ar waith a’r adeg y gwelir gwelliannau yn yr amgylchedd, a hynny gan fod llawer iawn o’r sylweddau dan sylw yn cael eu rhyddhau’n barhaus, er enghraifft o ffynonellau domestig. Mewn amgylchiadau o’r fath, yn aml ni fydd mesurau lleol yn ymarferol a/neu bydd graddfa ac effaith bosibl yr ymyriad gofynnol (er enghraifft, cael gwared â nwyddau cartref i atal cemegau rhag cyrraedd yr amgylchedd) yn dechnegol annichonadwy.

Os na cheir gwybodaeth ddigonol ynglŷn ag achos y broblem; ac os na ellir dod o hyd i ateb o’r herwydd

8.10    Gall hyn ddigwydd gan fod bylchau i’w cael yn yr wybodaeth wyddonol ynglŷn ag effeithiau rhai mathau o bwysau ar statws ecolegol – er enghraifft pwysau o du newidiadau morffolegol, tynnu dŵr, rhywogaethau estron neu waddodion.

8.11    Pan fo ansicrwydd gwyddonol i’w gael, wrth fynd ati i bennu amcanion ac amcanion amgen dylai CNC roi dull rhagofalus ar waith mewn perthynas ag atal dirywiad. Mater o farn yw’r lefel briodol o ragofalon ar ôl i hyd a difrifoldeb unrhyw ganlyniadau yn sgil penderfyniad anghywir gael eu hystyried.

Dichonolrwydd

8.12    Mae rheoliad 17, sy’n ymwneud â gosod amcanion llai llym, yn defnyddio’r term “annichonadwy” yn hytrach na “thechnegol annichonadwy”.

8.13    Dylai CNC ddehongli’r term “annichonadwy” fel pe bai’n ehangach ei ystyr na’r term “technegol annichonadwy”, yn gymaint â bod “annichonadwy” hefyd yn cynnwys sefyllfaoedd lle mae ymdrin â phroblem y tu hwnt i reolaeth Aelod-wladwriaeth (gweler Canllawiau CIS 20, paragraff 3.2.4).

Cost anghymesur

8.14    Mae Rheoliadau 2017 yn cynnwys cyfeiriadau at “gost anghymesur” neu “anghymesur o ddrud” yn:

  • rheoliad 15(1)(b) mewn perthynas â dynodi Cyrff Dŵr Artiffisial neu Rai a Addaswyd yn Helaeth
  • rheoliad 16(3)(b) mewn perthynas â’r cyfiawnhad sy’n ofynnol ar gyfer ymestyn terfynau amser
  • rheoliad 17(10)(a) mewn perthynas â’r cyfiawnhad sy’n ofynnol ar gyfer amcanion llai llym
  • rheoliad 19(5) mewn perthynas â chyfiawnhau addasiadau newydd a gweithgareddau datblygu cynaliadwy newydd gan bobl.

8.15    Mae Rheoliadau 2017 yn cyfeirio at “gostau anghymesur” a chyfeirir hefyd at welliannau ac amcanion a all fod yn “anghymesur o ddrud”. Mae Gweinidogion Cymru o’r farn nad oes gwahaniaeth pwysig rhwng y termau. Dylid ystyried bod cyfeiriadau at “gostau anghymesur” yn y canllawiau hyn yn cynnwys y ddau derm.

8.16    Dylai amcanion amgen a gynigir am resymau’n ymwneud â chost anghymesur gael eu seilio ar y cyfuniad mwyaf costeffeithiol o fesurau (gweler Pennod 9: Dadansoddiad economaidd), gan ystyried yr egwyddor ‘y llygrwr sy’n talu’.

8.17    Dylai CNC ystyried yr ystod lawn o fecanweithiau sydd ar gael, yn cynnwys defnyddio mesurau rheoleiddio, cytundebau gwirfoddol ac offerynnau economaidd fel gwasanaethau ecosystemau y telir amdanynt, cyn cynnig amcan amgen am resymau’n ymwneud â chost anghymesur.

8.18    Pan fo cost anghymesur wedi cael ei defnyddio fel sail i eithriadau, rhaid i CNC sicrhau bod y rhesymau dros wneud hynny’n cael eu nodi’n glir yn y Cynllun Rheoli Basn Afon. Pan fo modd, rhaid i asesiadau a data sylfaenol a ddefnyddiwyd i lywio’r penderfyniad fod ar gael i’r cyhoedd.

[11] Gweler Cyfarwyddeb 2013/39/EU lle caiff y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a Chyfarwyddeb 2008 eu diwygio mewn perthynas â sylweddau â blaenoriaeth.

9. Dadansoddiad economaidd

Egwyddorion cyffredinol

9.1    Dylai lefel a chwmpas y dadansoddiad economaidd fod yn briodol i’r penderfyniad a gaiff ei lywio ganddo.

9.2    Mae cynnwys rhanddeiliaid yn y dasg o ddatblygu rhaglen o fesurau yn rhan hanfodol o weithredu Rheoliadau 2017. Efallai y bydd modd i’r partneriaid hyn wneud cyfraniad defnyddiol at y broses arfarnu economaidd, a dylent gael cyfleoedd i wneud hynny.

9.3    Mewn nifer o achosion, ni fydd modd darparu gwerthoedd ariannol ar gyfer costau a buddion cyflawn rhyw fesur neu raglen o fesurau. Dylai CNC ddefnyddio dulliau amgen ar gyfer pennu, disgrifio ac, os oes modd, feintioli’r gost neu’r budd, gan gynnwys yr wybodaeth hon mewn adroddiad gyda’r gwerthoedd ariannol sydd ar gael.

Asesu pa mor gosteffeithiol yw mesurau

9.4    Mae rheoliad 7 Rheoliadau 2017 yn gweithredu’r angen i gynnal dadansoddiad economaidd yn unol ag Atodiad III y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Mae’n mynnu y dylai Gweinidogion Cymru wneud penderfyniadau ynglŷn â’r cyfuniad mwyaf costeffeithiol o fesurau a gynhwysir yn y rhaglen o fesurau mewn perthynas â’r defnydd o ddŵr.

9.5    Wrth asesu pa mor gosteffeithiol yw mesurau, dylai CNC gyfeirio at y dogfennau a’r canllawiau CIS Ewropeaidd perthnasol.

9.6    Er mwyn gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r cyfuniad mwyaf costeffeithiol o fesurau ar gyfer cyflawni amcanion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, dylai CNC wneud y canlynol:

  • ystyried yr ystod lawn o fesurau sydd ar gael a’r cydberthnasau rhwng y mesurau
  • ystyried yr holl effeithiau y gallai mesur helpu i fynd i’r afael â nhw
  • ystyried yr holl gostau, yn cynnwys costau ariannol, costau adnoddau a chostau amgylcheddol
  • defnyddio’r dystiolaeth wyddonol a thechnegol orau sydd ar gael i asesu effaith y rhaglen o fesurau ar yr amgylchedd dŵr
  • mabwysiadu dull rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, lle bydd gwytnwch, amryfal fuddion, camau ataliol, cyfranogiad rhanddeiliaid ac ati, cyn bwysiced â’i gilydd.

9.7    Pan fo modd, dylai CNC ddefnyddio dadansoddiad costeffeithiolrwydd i bennu’r cyfuniad o fesurau a fydd yn cyflawni amcanion dan Reoliadau 2017. Gall CNC wneud defnydd o ddadansoddiadau costeffeithiolrwydd a ddefnyddiwyd o’r blaen neu rai a ddiweddarwyd yn briodol, neu gall ddefnyddio dadansoddiad newydd.

Asesu cost anghymesur

9.8    Penderfyniad gwleidyddol a gaiff ei lywio gan wybodaeth economaidd yw’r cyflwr o fod yn anghymesur.

9.9    Yn gyffredinol, gellir ystyried bod costau (canlyniadau negyddol) yn anghymesur pan fyddant yn fwy na’r buddion (canlyniadau cadarnhaol). Fodd bynnag, nid digon yw dangos bod yr amcangyfrif gorau o werth ariannol costau yn fwy na’r amcangyfrif gorau o werth ariannol buddion, oherwydd gall fod yn anos meintioli a phennu gwerth ariannol buddion na chostau. Rhaid i CNC ystyried yr agweddau hyn wrth asesu cost anghymesur, gan roi ystyriaeth i ddadansoddiad o sensitifrwydd a gwybodaeth ansoddol pan fo hynny’n berthnasol.

9.10    Yn achos costau’r mesurau hynny sydd eisoes yn ofynnol gan Gyfarwyddebau eraill, ni ddylid eu hasesu i weld a ydynt yn anghymesur ai peidio. Fodd bynnag, efallai y byddai’n berthnasol mynd ati i gynnwys mesurau o’r fath yn y rhaglen o fesurau a llunio adroddiad ar eu heffeithiau, yn cynnwys pryd gallai’r rhain effeithio ar fforddiadwyedd costau eraill yn y rhaglen o fesurau.

9.11    Er mwyn asesu gwerth y buddion, dylai CNC ddefnyddio’r gwerthoedd ariannol sy’n deillio o’r dadansoddiad diweddaraf o’r Arolwg Manteision Amgylchedd Dŵr Cenedlaethol (NWEBS) ar lefel ddadgyfuno ddibynadwy.

9.12    Pan fo’n briodol, dylai CNC ystyried unrhyw brisiadau amgen a all fod ar gael ar gyfer y buddion a nodir yn NWEBS. Pan fo’n briodol, dylai CNC ddefnyddio dadansoddiad o sensitifrwydd i ddangos sut byddai defnyddio prisiad amgen yn effeithio ar ganlyniadau’r arfarniad.

9.13    Pan fo’n briodol, dylai CNC ddefnyddio’r amcangyfrifon gorau sydd ar gael ar gyfer buddion y mesurau na chânt eu nodi yn NWEBS. Dylai CNC asesu a allai unrhyw fuddion na chânt eu nodi yn NWEBS fod yn sylweddol neu’n berthnasol i benderfyniadau’r Gweinidogion, a dylai anelu at sicrhau bod unrhyw fuddion o’r fath yn cael eu cynnwys yn ei arfarniad o’r rhaglen o fesurau.

9.14    Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd rhywfaint o ansicrwydd i’w gael wrth amcangyfrif costau neu fuddion. Dylai CNC adlewyrchu hyn trwy gofnodi ystod ddichonadwy, gan nodi gwerthoedd uchel ac isel ar gyfer brig a gwaelod yr ystod, yn ogystal â nodi’r gwerth a gaiff ei ystyried fel y gwerth mwyaf tebygol.

9.15    Pan na ellir bod yn sicr y bydd mesur neu raglen o fesurau yn esgor ar y canlyniad amgylcheddol arfaethedig, dylid nodi hyn a rhoi ystyriaeth iddo wrth fynd ati i ystyried y costau a’r buddion.

9.16    Dylid mynegi’r costau a’r buddion i gyd yn y gwerth presennol trwy ddisgowntio, fel y nodir yn Llyfr Gwyrdd y Trysorlys.

9.17    Efallai y bydd hi’n briodol dadansoddi rhai o’r costau a’r buddion ar lefel genedlaethol. Fodd bynnag, rhaid i CNC osgoi cyfrif y buddion ddwywaith ar y lefel leol a’r lefel genedlaethol. Yn gyffredinol, mae’n debygol y byddai ystyried unrhyw fuddion cenedlaethol yn fan cychwyn addas. Yna, gellir ychwanegu gwybodaeth leol at y rhain, pan fo hynny’n briodol ac yn gymesur â’r penderfyniad.

9.18    Ymhellach, dylai CNC gyfeirio at ganllawiau CIS yr UE ynglŷn â defnyddio Eithriadau a chostau Anghymesur. [12]

Fforddiadwyedd

9.19    Efallai y bydd fforddiadwyedd yn cael ei ystyried wrth asesu cost anghymesur. Yn y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd drafft a gaiff eu diweddaru, dylai CNC gofnodi asesiad o effeithiau dosbarthiadol y rhaglen o fesurau a gynigir, ynghyd ag unrhyw ddewisiadau amgen.

9.20    Mae fforddiadwyedd y gwelliant i’r rhai a fyddai’n gorfod talu yn ffactor i’w ystyried wrth asesu costau anghymesur o safbwynt dosbarthiadol, a gallai fod yn ffactor wrth gynnig amcan llai llym yn unol ag Erthygl 4.5.

9.21    Dylid ystyried fforddiadwyedd yng nghyd-destun nodweddion y cwmni a’r sector mae’n gweithredu ynddo. Nid amddiffyn cwmnïau gwael eu perfformiad rhag safon y diwydiant yw pwrpas y dasg o ystyried fforddiadwyedd. Felly, fel arfer caiff dadansoddiad o fforddiadwyedd ei gynnal ar lefel y diwydiant neu’r grŵp o gwmnïau, yn hytrach nag ar lefel cwmnïau unigol. Fodd bynnag, yn achos cwmnïau dŵr a charthffosiaeth, pan fo modd dylai CNC gyflwyno gwybodaeth am gostau a buddion y rhaglen o fesurau ar lefel cwmnïau unigol.

9.22    Efallai y bydd modd datrys materion yn ymwneud â fforddiadwyedd dros amser os gellir gwasgaru’r costau neu ddod o hyd i ffyrdd amgen o dalu am y buddion. Dylid ystyried hyn yn 2027 wrth adolygu amcanion llai llym a bennwyd ar gyfer fforddiadwyedd.

Adrodd gwybodaeth am gost anghymesur

9.23    Dylai’r wybodaeth a adroddir i’r Gweinidogion fod yn ddigonol i benderfynu a yw eithriadau wedi’u rhoi ar waith yn briodol, a phan fo modd dylai’r wybodaeth gynnwys y canlynol:

  • costau’r rhaglen o fesurau, heb eu disgowntio ac mewn termau real, er mwyn cyflawni amcanion ardaloedd gwarchodedig ac osgoi dirywiad
  • costau’r rhaglen o fesurau, heb eu disgowntio ac mewn termau real, er mwyn cyflawni statws ecolegol da/potensial ecolegol da erbyn 2027 neu unrhyw amcan amgen a gynigir yn y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd drafft
  • buddion y rhaglen o fesurau, mewn termau real, er mwyn cyflawni statws ecolegol da/potensial ecolegol da erbyn 2027 neu unrhyw amcan amgen a gynigir yn y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd drafft
  • yr holl gostau, yr holl fuddion a’r holl effeithiau net fesul sector diwydiannol ac yn ôl y flwyddyn y digwyddant
  • yr holl gostau, yr holl fuddion a’r holl effeithiau net fesul cwmni unigol pan fydd y sector yr effeithir arno yn cynnwys cwmnïau dŵr neu garthffosiaeth
  • pan fo modd, gwybodaeth i ddangos a yw’r unigolyn, y busnes neu’r sector y bydd pob mesur yn effeithio arnynt naill ai yn llygrwr (yn gyfrifol am yr effaith amgylcheddol mae’r mesur yn ymdrin â hi), yn fuddiolwr, yn barti arall neu’n gyfuniad o’r rhain.

[12] Canllawiau CIS 20 Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yr UE

10. Y rhaglen o fesurau (PoM)

10.1     Mae Rheoliadau 2017 yn defnyddio ‘mesurau’ wrth sôn am gamau gweithredu a mecanweithiau cyflawni. Fodd bynnag, yn y canllawiau hyn defnyddir y termau fel a ganlyn:

  • Mae ‘mesur’ yn golygu unrhyw gamau a gymerir ar lawr gwlad i helpu i gyflawni’r amcanion dan Reoliadau 2017.
  • Mae ‘mecanwaith’ yn golygu’r polisi, yr offer cyfreithiol a’r offer ariannol a ddefnyddir i esgor ar y camau gweithredu hynny. Mae mecanweithiau’n cynnwys, er enghraifft: deddfwriaeth, offerynnau economaidd (a all gynnwys trethi, trwyddedau masnachadwy a thaliadau am wasanaethau ecosystemau); codau ymarfer da; cytundebau a drafodwyd; hyrwyddo effeithlonrwydd dŵr; prosiectau addysgol; prosiectau ymchwil, datblygu ac arddangos.

10.2     Mae CNC yn gyfrifol am gyfuno’r mesurau sydd ar gael i lunio rhaglen o fesurau er mwyn cyflawni’r amcanion dan Reoliadau 2017 ym mhob ardal basn afon. Felly, rhaid i CNC ystyried y mesurau a fydd yn angenrheidiol a’r mecanweithiau a ddefnyddir i gyflawni’r mesurau hyn.

Cwmpas y rhaglen o fesurau: amcanion dan Reoliadau 2017 yn unig

10.3     Rhaid i raglen o fesurau gynnwys yr holl fesurau sy’n angenrheidiol i fodloni’r holl amcanion dan Reoliadau 2017 ar gyfer yr ardal basn afon honno, yn cynnwys amcanion a mesurau’r ardal warchodedig, gyda’r nod o leihau llygredd yn raddol o du sylweddau â blaenoriaeth, ynghyd â dileu neu graddol ddileu allyriadau, gollyngiadau ac achosion o ryddhau sylweddau peryglus â blaenoriaeth. Ni ddylai’r rhaglen o fesurau gynnwys mesurau sy’n ymwneud yn gyfan gwbl â bodloni amcanion eraill nad ydynt yn amcanion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (er enghraifft, targedau cynllun corfforaethol CNC).

10.4     Pan fydd mesurau’n cyfrannu at amcanion Rheoliadau 2017 a hefyd at amcanion eraill, dylid eu cynnwys yn y rhaglen o fesurau i’r graddau eu bod yn ofynnol i gyflawni’r amcanion hynny. Bwriad y diffiniad hwn o gwmpas y rhaglen o fesurau yw helpu i egluro’r hyn y dylai CNC ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo. Nid llesteirio integreiddio a symleiddio rhwng y broses cynllunio basnau afonydd a phrosesau cynllunio eraill, fel cynlluniau ar gyfer cyflawni canlyniadau bioamrywiaeth, yw’r bwriad.

Ystyried effaith polisïau a gweithgareddau eraill ar statws llinell sylfaen

10.5     Efallai y bydd camau a gymerir o ganlyniad i bolisïau eraill yn effeithio ar faint o gamau y bydd angen eu cymryd i fodloni amcanion dan Reoliadau 2017. Mae’n bwysig ystyried dylanwad yr effeithiau hyn mewn perthynas â datblygiadau a pholisïau cyfredol ac arfaethedig, i’r graddau eu bod yn hysbys, fel y gellir pennu’r llinell sylfaen briodol ar gyfer penderfyniadau.

Ystyried effeithiau newid hinsawdd

10.6     Disgwylir y bydd newid hinsawdd yn arwain at newidiadau mawr o ran gwlybaniaeth a llif dŵr, perygl llifogydd ac erydu arfordirol, ansawdd dŵr, a dosbarthiad rhywogaethau ac ecosystemau. Gweler Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd y DU i gael mwy o wybodaeth.

10.7     Mae Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 yn pennu fframwaith ar gyfer Gweinidogion Cymru lle mae’n rhaid iddynt adrodd o dro i dro ar eu hamcanion, eu camau gweithredu a’u blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol mewn perthynas ag ymaddasu i effeithiau newid hinsawdd. Mae cynllun ymaddasu i newid hinsawdd Llywodraeth Cymru, sef Ffyniant i bawb: Cymru sy’n effro i’r hinsawdd, yn nodi pa mor bwysig yw rhoi Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd ar waith er mwyn lleihau perygl llifogydd a gwella ansawdd dŵr a swm y dŵr.

10.8     Dylai CNC geisio integreiddio’r gwaith o ymaddasu i newid hinsawdd yng nghamau’r broses cynllunio rheoli basnau afonydd dan Reoliadau 2017, yn enwedig trwy nodi sut cafodd newid hinsawdd ei ystyried wrth fonitro, asesu pwysau a dewis mesurau. Dylid rhoi blaenoriaeth i fesurau sy’n cynnig llawer iawn o hyblygrwydd neu gyfleoedd mawr i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd, a dylid annog mesurau ychwanegol i ddelio â risgiau yn sgil yr hinsawdd pan fo angen. Ymhellach, dylai Datganiadau Ardal CNC hwyluso gweithredu ar lawr gwlad trwy arwain gweithredu ar y cyd yng nghyswllt ystod o gyfleoedd ar gyfer atebion seiliedig ar natur mewn dalgylchoedd.

10.9     Dylai CNC bennu’n glir yn y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd a’r dogfennau cysylltiedig sut mae’n ymateb i newid hinsawdd. Yn ‘CIS Guidance number 24, River basin management in a changing climate’ ceir mwy o wybodaeth a all helpu gyda’r gwaith o integreiddio elfennau’n ymwneud ag ymaddasu i newid hinsawdd.

Dewis mesurau a mecanweithiau priodol

10.10     Wrth ystyried pa fesurau i’w defnyddio, dylai CNC gadw mewn cof y mecanweithiau a ddefnyddir i gyflawni’r mesurau hyn, ynghyd ag egwyddorion rheoleiddio gwell. Hanfod rheoleiddio gwell yw anelu at reoleiddio dim ond pan fo hynny’n angenrheidiol, mewn ffordd a fydd yn gymesur â’r risg yr ymdrinnir â hi, gan ddadreoleiddio a symleiddio pa bryd bynnag y bo modd.

10.11     Efallai y bydd CNC yn dymuno ystyried mesurau anrheoleiddiol, fel cytundebau gwirfoddol (er enghraifft, cytundebau gwirfoddol gydag un neu fwy o ffermwyr mewn dalgylch er mwyn gweithredu arferion rheoli tir sydd uwchlaw’r arfer da sylfaenol disgwyliedig).

10.12     Ymhellach, gallai mesurau anrheoleiddiol gynnwys cynlluniau talu am wasanaethau ecosystemau. Er enghraifft, Ymddiriedolaeth Afon yn gweithio gyda’r diwydiant amaethyddiaeth i ffensio cynefin glan afon.

10.13     Wrth roi ystyriaeth i fesurau anrheoleiddiol o’r fath, yn ystod ei broses benderfynu dylai CNC asesu ac ystyried a fydd y trefniadau’n cyflawni’r canlyniadau gofynnol gyda sicrwydd a pherfformiad digonol. Er enghraifft, yn achos trefniadau rhwng cwmni dŵr a rheolwyr tir, byddai’n rhaid i’r trefniadau hyn gael eu monitro ac, yn amodol ar drefniadau contractiol, byddai’n rhaid iddynt allu cynnig sicrwydd digonol ynglŷn â’r canlyniad.

10.14     Wrth fabwysiadu mesurau anrheoleiddiol, dylai CNC sicrhau na chaiff y mesurau hyn eu defnyddio i danseilio’r egwyddor ‘y llygrwr sy’n talu’, sef egwyddor sylfaenol a phwysig sy’n perthyn i weithredu’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Er enghraifft, egwyddor hollbwysig yn ymwneud â thalu am wasanaethau ecosystemau yw bod y cynllun yn rhoi gwobr am gyflawni gwasanaethau ychwanegol a aiff y tu hwnt i ofynion rheoleiddio.

10.15     Er mai CNC sy’n gyfrifol am lunio rhaglenni o fesurau, fe fydd nifer o’r mesurau y gellir eu cynnwys yn y rhaglen yn fesurau na fydd CNC yn eu rheoleiddio nac yn eu cyflawni. O gofio graddfa’r camau sy’n ofynnol, mae hi’n bwysig defnyddio’r holl offer a’r holl ffynonellau cyllido posibl sydd ar gael. Yn ystod y broses cynllunio basnau afonydd, dylai CNC weithio gydag ystod o reoleiddwyr a chyflawnwyr posibl wrth benderfynu pa amcanion i’w cynnwys yn y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd a gyflwynir i gael eu cymeradwyo, pa fesurau y dylid eu cynnwys yn y rhaglen o fesuriadau, a pha drefniadau y dylid eu defnyddio wrth weithredu’r mesurau hynny a monitro’r modd y’u rhoddir ar waith.

11. Cymeradwyo, diwygio ac adolygu

Cymeradwyo Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd sydd wedi’u diweddaru

11.1    Rhaid i CNC baratoi’r canlynol ar gyfer ardal basn afon: [13]

  • Cynllun Rheoli Basn Afon wedi’i ddiweddaru (yn cynnwys amcanion a chrynodeb o’r rhaglen o fesurau)
  • gwybodaeth am gyfranogiad y cyhoedd, fel sy’n ofynnol dan reoliad 29 Rheoliadau 2017.

11.2    Ni fydd angen dogfennau ar wahân ar gyfer y rhain i gyd.

11.3    Erbyn 22 Hydref 2021, rhaid i CNC gyflwyno diweddariad o’r Cynllun Rheoli Basn Afon i’r Awdurdod Priodol ar gyfer pob ardal basn afon. Yn y ddogfen honno, dylid cynnwys cynigion ar gyfer amcanion amgylcheddol, ynghyd â rhaglen o fesurau y dylid ei rhoi ar waith er mwyn cyflawni’r amcanion hynny.

11.4    Yn gyffredinol, bydd y meini prawf a gaiff eu hystyried gan Lywodraeth Cymru wrth wneud penderfyniadau ynghylch cymeradwyo Cynllun Rheoli Basn Afon yn cynnwys y rhai a nodir yn Nhabl 1 isod.

Tabl 1: Meini prawf cymeradwyo Llywodraeth Cymru
  Meini prawf cymeradwyo
i Cafodd y Cynllun Rheoli Basn Afon ei lunio’n unol â Rheoliadau 2017, ac mae CNC wedi ystyried yr egwyddorion a’r cyngor a nodir yn y canllawiau hyn (neu mewn unrhyw ganllawiau ychwanegol)
ii Mae’r Cynllun Rheoli Basn Afon yn realistig, yn cynnwys bod yn realistig ynglŷn ag argaeledd adnoddau
iii     Mae’r polisïau, yr amcanion a’r mesurau o fewn y Cynllun Rheoli Basn Afon yn gyson â’i gilydd
iv Mae’r Cynllun Rheoli Basn Afon yn gyson â Chynlluniau Rheoli Basnau Afonydd ar gyfer ardaloedd basnau afonydd eraill yn y DU
Mae CNC wedi cyflwyno addasiadau a oedd yn angenrheidiol i gydymffurfio ag unrhyw Gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r Cynllun Rheoli Basn Afon (oni chaiff y Cyfarwyddyd ei dynnu’n ôl)


11.5    Wrth gyflwyno’r Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd i’w cymeradwyo yn ystod y trydydd cylch, dylai CNC nodi’r prif newidiadau a wnaed ers i’r cynlluniau blaenorol gael eu cyflwyno, fel nifer y cyrff dŵr y disgwylir iddynt gyrraedd statws ‘da’ ac unrhyw fesurau ychwanegol. 

11.6    Os bydd Gweinidogion Cymru yn fodlon â Chynllun Rheoli Basn Afon a ddiweddarwyd, byddant yn ei gymeradwyo ac wedyn bydd yn rhaid i CNC ei gyhoeddi erbyn 22 Rhagfyr 2021.

11.7    Os na fydd Gweinidogion Cymru yn fodlon â Chynllun Rheoli Basn Afon a ddiweddarwyd, efallai y byddant yn ei wrthod, yn ei addasu, neu’n gofyn i CNC ei addasu a’i ailgyflwyno o fewn terfyn amser penodedig. Penderfynir fesul achos ar yr amser a ganiateir i gyflwyno’r addasiadau, gan ystyried natur a chwmpas yr addasiadau; ond, fel arfer, bydd yn rhaid eu cyflwyno o fewn 6-8 wythnos. Os caiff CNC gyfarwyddyd i gymryd camau pellach cyn i’r Cynllun Rheoli Basn Afon gael ei gyhoeddi, bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi rheswm am hyn. (Mae hyn yn berthnasol i’r Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd a gyflwynwyd i’w cymeradwyo’n wreiddiol, yn ogystal ag unrhyw fersiynau diwygiedig a ailgyflwynwyd.)

Newidiadau o fewn y cylch cynllunio 6 blynedd

11.8    Yn gyffredinol, ni ddylid newid hanfodion y Cynllun Rheoli Basn Afon ei hun yn ystod y cylch cynllunio 6 blynedd. Diben y Cynllun Rheoli Basn Afon yw cynnig rhywfaint o sicrwydd ynglŷn â’r modd y bydd yr amgylchedd dŵr yn cael ei reoli a sut bydd penderfyniadau rheoleiddio’n cael eu gwneud yn yr ardal basn afon honno – a gwneir hyn trwy gyfrwng datganiad polisi strategol, amcanion a chrynodeb o’r rhaglen o fesurau. Byddai newid yr agweddau hyn ar y Cynllun Rheoli Basn Afon yn ystod y cylch cynllunio yn tanseilio’r rôl hon.

11.9    Fodd bynnag, mae rheoli’r amgylchedd dŵr yn broses barhaus. Er ei bod hi’n annhebygol y bydd angen newid y Cynllun Rheoli Basn Afon ei hun yn ystod y cylch cynllunio 6 blynedd, wrth fynd i’r afael â’u swyddogaethau fe fydd CNC, cyrff cyhoeddus eraill a chyflawnwyr yn cyflwyno newidiadau i fanylion y rhaglen o fesurau drwy gydol y cyfnod hwn. (Wrth ddweud ‘manylion’, cyfeirir at bortffolio mawr o ddogfennau technegol, cyfreithiol a gweinyddol.)

11.10    O dro i dro yn ystod y cylch cynllunio basnau afonydd, efallai y daw’n amlwg bod y rhaglen arfaethedig o fesurau yn annhebygol o gwrdd ag un neu fwy o’r amcanion a nodir yn y Cynllun Rheoli Basn Afon. Mewn achosion o’r fath, dylai CNC benderfynu pa gamau y dylid eu cymryd, os o gwbl, yn ystod cylch presennol y broses cynllunio basnau afonydd, a mynd i’r afael â’r camau a nodir yn rheoliad 25 Rheoliadau 2017, gan sicrhau:

  • y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i achosion y methiant posibl
  • y bydd awdurdodiadau a thrwyddedau perthnasol yn cael eu harchwilio a’u hadolygu fel y bo’n briodol
  • y bydd y rhaglenni monitro yn cael eu hadolygu a’u haddasu fel y bo’n briodol
  • y bydd mesurau ychwanegol, sy’n angenrheidiol i gyflawni’r amcanion hynny, yn cael eu pennu, yn amodol ar gymhwyso rheoliadau 15 i 19 Rheoliadau 2017.

11.11    Wrth roi ystyriaeth i gamau gweithredu, dylai CNC ystyried y rhagdybiaeth na fydd yna unrhyw wyro oddi wrth y Cynllun Rheoli Basn Afon. Er enghraifft, dylai CNC adolygu’r pecyn cyfan o fesurau a mecanweithiau sy’n angenrheidiol i fodloni’r amcan, yn hytrach nag un mesur yn unig. Dylai asesu costau a buddion unrhyw becyn newydd o fesurau, a ble y byddant yn digwydd. Hefyd, dylai CNC sicrhau bod y cyrff hynny o fewn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, y mae’r newid yn debygol o effeithio arnynt, yn cael eu cynnwys wrth drafod unrhyw newidiadau.

11.12    Os na ddilynir y dull a nodir yn y Cynllun Rheoli Basn Afon, rhaid esbonio a chyfiawnhau’r gwyro hwn yn y Cynllun Rheoli Basn Afon dilynol.

11.13    Rhaid i Gynllun Rheoli Basn Afon a ddiweddarwyd gynnwys yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 27 Rheoliadau 2017.

Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys:

  • crynodeb o unrhyw newidiadau neu ddiweddariadau ers i’r Cynllun Rheoli Basn Afon blaenorol gael ei gyhoeddi
  • asesiad o’r cynnydd tuag at gyflawni’r amcanion amgylcheddol
  • crynodeb o unrhyw fesurau a ragwelwyd yn y Cynllun Rheoli Basn Afon blaenorol ond na chawsant eu rhoi ar waith, ynghyd ag esboniad am hyn
  • crynodeb o unrhyw fecanweithiau a mesurau interim ychwanegol a fabwysiadwyd dan reoliad 25 ers i’r Cynllun Rheoli Basn Afon blaenorol gael ei gyhoeddi.

[13] Rheoliad 28 Rheoliadau 2017

Atodiad 1: Map o ardaloedd basnau afonydd yng Nghymru

 

Image
Atodiad 1: Map o ardaloedd basnau afonydd yng Nghymru