Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud darpariaeth yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) i sicrhau bod teithwyr sy'n cyrraedd Cymru o wledydd a thiriogaethau tramor yn gorfod hunanynysu a darparu gwybodaeth amdanynt eu hunain fel teithwyr, er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach. Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ar 8 Mehefin 2020.
Ar 10 Gorffennaf, diwygiodd Llywodraeth Cymru'r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i gyflwyno eithriadau i’r gofyniad i hunanynysu ar gyfer rhestr o wledydd a thiriogaethau, ac ystod gyfyngedig o bobl mewn sectorau neu gyflogaeth arbenigol a allai fod wedi'u heithrio rhag y gofyniad i hunanynysu neu rhag rhai o ddarpariaethau’r gofynion ynghylch gwybodaeth am deithwyr.
Ers hynny, mae’r Rheoliadau hyn wedi’u hadolygu’n gyson ac mae nifer o newidiadau wedi’u gwneud i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio.
Heddiw, adolygais asesiadau diweddaraf y Gyd-ganolfan Bioddiogelwch ac rwyf wedi penderfynu y bydd yr Ynysoedd Dedwydd yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio. Bydd gofyn i bobl sy’n teithio o’r tiriogaethau hyn hynanynysu ar ôl cyrraedd Cymru. Rwyf hefyd wedi penderfynu y bydd Botswana a Saudi Arabia yn cael eu hychwanegu at y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio. Ni fydd angen i bobl sy’n teithio o’r gwledydd a’r tiriogaethau hynny hunanynysu ar ôl cyrraedd Cymru, felly.
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn darparu y gellir rhoi hysbysiad cosb benodedig mewn rhai amgylchiadau, gan gynnwys lle nad yw unigolion wedi cydymffurfio â’r gofyniad i hunanynysu. Bydd swm y gosb benodedig sy’n daladwy yn yr amgylchiadau hynny’n cael ei ddiwygio fel bod y swm sefydlog o £1000 yn cael ei ddisodli gyda graddfa sy’n dechrau ar £500 ar gyfer trosedd gyntaf.
Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd
Mae’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (“Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd”) yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr gwasanaethau teithwyr aer neu fôr masnachol sy’n cyrraedd Cymru o’r tu allan i’r ardal teithio gyffredin i ddarparu gwybodaeth benodol i deithwyr. Mae’r wybodaeth yn ymwneud â mesurau yn y Deyrnas Unedig mewn ymateb i coronafeirws, gan gynnwys mesurau sy’n ofynnol gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd yn darparu y gellir rhoi hysbysiadau cosb benodedig mewn rhai amgylchiadau. Bydd swm y gosb benodedig sy’n daladwy yn yr amgylchiadau hynny’n cael ei ddiwygio fel bod y swm sefydlog o £4000 yn cael ei ddisodli gyda graddfa sy’n dechrau ar £1000 ar gyfer trosedd gyntaf.
Bydd yr Atodlen i’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd hefyd yn cael ei diwygio i adlewyrchu’r newidiadau a wnaed gan y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i leihau’r cyfnod hunanynysu gofynnol ar gyfer person o 14 diwrnod i 10 diwrnod.
Yfory, byddaf yn gosod y rheoliadau angenrheidiol a ddaw i rym am 04:00 ddydd Sadwrn 12 Rhagfyr.