Jeremy Miles AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Pontio Ewropeaidd
Cafodd Cytundeb Partneriaeth Economaidd Cynhwysfawr y DU a Siapan (CEPA) ei lofnodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol a Gweinidog Tramor Siapan yn Tokyo ar 23 Hydref. Y cytundeb yw yr un cyntaf i gael ei gwblhau gan y DU fel gwlad fasanachu annibynnol.
Heddiw, rwy’n cyhoeddi ein hasesiad o’r CEPA ar ein tudalennau Polisi Masnach ar y we:
Mae’r adroddiad yn cynnig sylwadau a dadansoddiad o effaith bosibl CEPA yn y tymor byr a hir ar economi Cymru. Rwy’n gobeithio y bydd y dadansoddi a’r wybodaeth sy’n canolbwyntio ar Gymru yn yr adroddiad o gymorth i Aelodau’r Senedd, busnesau a dinasyddion graffu ar y cytundeb.