Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r canllaw hwn yn disodli pob canllaw blaenorol ar fenthyca gan Gynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru.

Mae’r canllaw hwn yn nodi’r meini prawf sy’n cael eu cymhwyso fel arfer gan Weinidogion Cymru wrth benderfynu a ddylid darparu cymeradwyaeth fenthyca a sut y gall Cynghorau Cymuned a Thref wneud cais am gymeradwyaeth fenthyca.

Wrth ystyried a ddylid gwneud cais am gymeradwyaeth fenthyca, dylai Cynghorau Cymuned a Thref fod yn gwbl agored a thryloyw gyda’u trigolion a’u trethdalwyr yn eu holl drafodion. Gallai hyn gynnwys trafod cynigion mewn cyfarfodydd agored, a sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd cyn ac ar ôl gwneud penderfyniad, er enghraifft ar wefan y Cyngor neu drwy ei chyhoeddi mewn cylchlythyrau lleol.

Beth yw Cymeradwyaeth Fenthyca?

Mae cymeradwyaeth fenthyca yn ganiatâd ffurfiol a roddir gan Weinidogion Cymru trwy bwerau o dan baragraff 2 atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i alluogi Cyngor Cymuned neu Dref i fenthyca arian at ddibenion cyfalaf. Heb y caniatâd hwn ni chaiff Cyngor Cymuned na Thref fenthyca arian oni chaiff ei fenthyca a’i ad-dalu yn ystod yr un flwyddyn ariannol.

Mae’r Ddeddf yn datgan y gall Cyngor Cymuned neu Dref fenthyca arian:

  • at unrhyw ddiben sy’n berthnasol i’w swyddogaethau o dan unrhyw ddeddfiad
  • at ddibenion rheoli ei drafodion ariannol yn ddarbodus.

Dylai ymgeiswyr, felly, sicrhau bod ganddynt yr awdurdod statudol angenrheidiol i gynnal y prosiect sy’n destun y cais y maent yn ei gyflwyno am gymeradwyaeth fenthyca.

Caniateir cymeradwyaeth fenthyca yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a bennir gan Weinidogion Cymru, a hynny ar ffurf llythyr a anfonir at Glerc y Cyngor. Mae’r llythyr cymeradwyo yn awdurdodi’r Cyngor i fenthyca arian gan ddatgan:

  • yr uchafswm y gellir ei fenthyca
  • at ba ddiben y dylid defnyddio’r arian
  • o fewn pa gyfnod y gellir benthyca’r arian
  • y cyfnod hwyaf a ganiateir ar gyfer ad-dalu’r benthyciad

Efallai y bydd angen tystiolaeth o'r gymeradwyaeth fenthyca pan gynhelir archwiliad.

Mae’n arfer gan Lywodraeth Cymru i roi cymeradwyaeth fenthyca yn ystod y flwyddyn ariannol y defnyddir y gymeradwyaeth yn unig.

Gall Cyngor fenthyca arian ar unrhyw adeg rhwng rhoi’r gymeradwyaeth fenthyca a diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r gymeradwyaeth fenthyca yn berthnasol iddi. Gellir cario unrhyw arian a fenthycwyd ond nas gwariwyd cyn diwedd y flwyddyn ariannol ymlaen i’r flwyddyn ariannol nesaf.

Gwneud cais am gymeradwyaeth fenthyca

Dylid ateb pob cwestiwn ar y ffurflen gais a rhaid i’r ffurflen gael ei llofnodi gan Glerc y Cyngor. Caiff unrhyw ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru ei chyfeirio a'i hanfon at Glerc y Cyngor.

Rhaid anfon, gyda’r ffurflen gais, gopi o’r ddogfen neu’r adroddiad a luniwyd gan y Cyngor pan benderfynwyd gwneud cais am gymeradwyaeth fenthyca (cofnodion y Cyngor).

Rhaid cyflwyno adroddiad llawn i'r Cyngor ar yr achos busnes. Dylai hwn gynnwys y canlynol:

  • dadansoddiad o'r gwaith arfaethedig
  • y costau amcangyfrifedig
  • cynlluniau ariannol ar gyfer ad-dalu'r benthyciad
  • y camau y mae'r Cyngor yn eu cymryd neu'r opsiynau sydd ganddo i liniaru'r risg na fydd yn gallu fforddio ad-dalu'r benthyciad
  • gwerth am arian (os bydd yn prynu eiddo, a fydd y Cyngor yn arbed arian drwy ei brynu yn lle ei brydlesu neu ei rentu neu a gafwyd cyngor proffesiynol wrth gyd i drafod pris prynu'r eiddo, deunyddiau, gwasanaethau)
  • y manteision i'r gymuned
  • fforddiadwyedd (yr incwm y gallai'r Cyngor ei gael ar ôl cwblhau'r prosiect drwy logi ystafelloedd cyfarfod, rhent o eiddo preswyl neu eiddo masnachol)

Dim ond at y diben a nodir yn y cais am Gymeradwyaeth Fenthyca a'r llythyr Cymeradwyaeth Fenthyca y gellir defnyddio'r arian.

Os yw'r cyngor yn bwriadu rhoi grant i gorff arall, mae'r cyfeiriadau at "brosiect" yn y canllaw hwn ac yn y ffurflen gais yn gymwys i'r cymorth a ddarperir gan y cyngor, nid y prosiect y mae'r cymorth yn cael ei roi tuag ato. Er enghraifft, os bydd cyngor am fenthyca £50,000 er mwyn ariannu'n rhannol grant o £100,000 tuag at gost adeiladu canolfan gyhoeddus gan yr awdurdod lleol, sef £250,000, dylai'r ffurflen gais ddangos £100,000 fel cyfanswm cost y prosiect a £50,000 fel y swm sydd i'w fenthyca, ac esbonio sut y caiff y £50,000 sy'n weddill ei ariannu gan y cyngor. 

Os bydd angen penderfyniad ar frys, bydd yn ofynnol i Gynghorau ofyn am i’w cais gael ei ystyried y tu allan i’r amserlenni arferol ac egluro pam mae’r cais yn un brys.  Ar ôl i Lywodraeth Cymru dderbyn y cais, bydd pa mor gyflym y mae'n ymateb iddo yn dibynnu ar bwysau llwythi gwaith presennol ac a yw'r holl ddogfennau wedi'u cyflwyno i safon foddhaol.

Dylid anfon y ffurflen gais ac unrhyw ddogfennau ategol i: LGFPmail@gov.wales

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn asesu'r cais am gymeradwyaeth fenthyca a ddylai gymryd tua 25 diwrnod gwaith fel arfer o'r dyddiad y'i derbyniwyd gan Lywodraeth Cymru.

Byddwch yn ymwybodol y gallai’r cyfnod hwn gael ei ymestyn, er enghraifft, pan na fydd Gweinidogion Cymru ar gael yn ystod toriad y Cynulliad neu adeg etholiadau neu os bydd angen gwybodaeth ychwanegol ar swyddogion i ategu'r cais.

Un Llais Cymru yw'r sefydliad sy’n cynrychioli Cynghorau Cymuned a Thref. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi copi o bob cais am gymeradwyaeth fenthyca i Un Llais Cymru er mwyn cael ei farn ddiduedd ynghylch a fydd y gymuned leol yn cael budd o'r prosiect. Mae Llywodraeth Cymru yn sylweddoli nad yw pob Cyngor yn aelod o Un Llais Cymru ond gwneir hyn er mwyn sicrhau bod pob cais yn cael ei ystyried yn unol â meini prawf cyson. Er bod barn Un Llais Cymru yn cael ei hystyried, Gweinidogion Cymru fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.

Meini prawf ar gyfer asesu cais am gymeradwyaeth fenthyca

 Pryd y dylai Cyngor Cymuned neu Dref wneud cais? 

Ni ddylai Cyngor wneud cais am gymeradwyaeth fenthyca nes y bydd wedi gwneud y canlynol:

  • ymgynghori â thrigolion ar gam cynnar er mwyn darparu manylion prosiectau a chynlluniau ar gyfer benthyca ac ad-dalu'r benthyciad drwy gyfarfodydd agored a gwefan y cyngor. Os bydd yn cynyddu'r praesept i ariannu benthyciad, bydd angen tystiolaeth o gefnogaeth y cyhoedd i gynyddu'r praesept cysylltiedig i ategu'r cais am fenthyciad
  • cwblhau’r holl drafodaethau, neu nes y bydd yn hyderus y bydd yn cwblhau unrhyw drafodaethau perthnasol
  • cael pob caniatâd arall sydd ei angen, caniatâd cynllunio
  • amcangyfrif cost y prosiect yn llawn fel rhan o gyllideb wariant ffurfiol
  • darparu ar gyfer rheoli’r ddyled o fewn ei gyllideb ffurfiol
  • dod yn hyderus y gellir defnyddio’r gymeradwyaeth fenthyca, os ceir cymeradwyaeth o’r fath, o fewn y flwyddyn ariannol y'i rhoddir

Ar gyfer pa fath o brosiect y gall Cyngor Cymuned neu Dref fenthyca arian?

Gall unrhyw Gyngor Cymuned neu Dref yng Nghymru wneud cais am gymeradwyaeth fenthyca at ddibenion caffael buddsoddiad cyfalaf, fel y'i diffinnir yn Adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. 

At y dibenion hyn, ystyr ‘gwariant cyfalaf’ yw gwariant sy’n cael ei gyfalafu yn unol ag arferion priodol. Ar hyn o bryd, ystyr ‘arferion priodol’ yw Cod y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA).

Mae enghreifftiau o geisiadau sydd wedi'u cymeradwyo'n flaenorol yn cynnwys:

  • prynu tir
  • prynu adeilad
  • prynu cyfarpar ar gyfer parc
  • adeiladu llwybr troed
  • gwaith adnewyddu, gwaith strwythurol, gosod systemau gwresogi newydd, ceginau newydd, toiled newydd, to newydd

Ni roddir cymeradwyaethau benthyca i gwmpasu gwariant refeniw na gwariant cyfredol. Er enghraifft:

  • costau atgyweirio cyffredinol
  • costau cynnal a chadw

Faint o arian y gall Cyngor Cymuned neu Dref ei fenthyca?

Isafswm

Ni fyddwn yn ystyried cynlluniau sy’n costio llai na’r ffigur a geir drwy luosi £5.00 â nifer y bobl sydd wedi'u cofnodi ar gofrestr etholwyr y gymuned, heblaw o dan amgylchiadau eithriadol. Os yw'r cynllun yr ydych yn ei ystyried yn disgyn o dan yr isafswm, anfonwch e-bost at LGFPmail@gov.wales yn nodi eich amgylchiadau unigol cyn mynd ymhellach.

Uchafswm

Nid oes unrhyw derfyn uchaf penodol i'r swm y gall Cyngor wneud cais i’w fenthyca.

Ceisiadau i gronfa benthyciad Salix

Nid oes angen cymeradwyaeth benthyca unigol ar gynllun sy'n gymwys ar gyfer benthyciad o dan gynllun Salix. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch a oes angen cymeradwyaeth fenthyca arnoch, e-bostiwch LGFPmail@gov.wales er mwyn i ni allu rhoi eglurhad.

Dros ba gyfnod o amser y gellir ad-dalu'r benthyciad?

Y cyfnod hwyaf o amser sydd ar gael i Gynghorau Cymuned a Thref ad-dalu benthyciad yw 50 mlynedd. Gall Cyngor ddewis ad-dalu’r benthyciad dros unrhyw gyfnod o amser ar yr amod nad yw'n fwy na'r cyfnod hwyaf a nodwyd, sef 50 mlynedd. Fodd bynnag, ar gyfer benthyciadau sy'n para am fwy na 26 blynedd, bydd ystyriaethau ychwanegol yn gymwys.

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'r cyfnod ar gyfer ad-dalu'r benthyciad adlewyrchu oes yr ased a ddarperir. Er enghraifft, gallai tir, ffyrdd neu adeiladau sylweddol gael eu hystyried yn ‘asedau hirhoedlog’ y mae cyfnod ad-dalu estynedig yn gymwys iddynt.

Dylai cynghorau ystyried yn ofalus a yw’n ddoeth ad-dalu’r benthyciad dros y cyfnod hwyaf a ganiateir. Yn yr achosion hynny, os bwriedir ad-dalu'r benthyciad dros gyfnod estynedig, hynny yw mwy na 26 blynedd, craffir ar geisiadau i weld a ellir cyfiawnhau’r estyniad.

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i Gynghorau lunio cyllideb realistig ar gyfer talu llog ar y ddyled a'i had-dalu a bydd yn ceisio cadarnhad bod cyllideb o'r fath wedi'i llunio.

Gan bwy y gall Cyngor Cymuned neu Dref fenthyca arian?

Gall Cynghorau Cymuned a Thref fenthyca arian drwy wneud cais i'r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus neu unrhyw sefydliadau priodol eraill. Bydd angen i'r Bwrdd weld y gymeradwyaeth fenthyca wreiddiol cyn y gellir cymeradwyo benthyciad.

Dylid gwneud pob ymdrech i fenthyca'r arian ar y telerau mwyaf ffafriol sydd ar gael a gall benthycwyr gynnig amrywiaeth o drefniadau benthyca. Felly, argymhellwn y dylai'r Cyngor gael ac ystyried sawl dyfynbris ar gyfer ad-dalu'r benthyciad.

Nid yw benthyciadau ar gael gan Lywodraeth Cymru.

Ar ôl rhoi cymeradwyaeth fenthyca

Bydd pob cymeradwyaeth fenthyca a roddir yn ddilys tan 31 Mawrth yn y flwyddyn ariannol y mae’r llythyr cymeradwyo yn berthnasol iddi.

Monitro cymeradwyaeth fenthyca

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cysylltu â’r cynghorau hynny sydd wedi derbyn cymeradwyaeth fenthyca yn ystod y flwyddyn ariannol i weld pa gynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â'r prosiect. Gofynnir i gynghorau ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf a chadarnhau bod y gymeradwyaeth fenthyca wedi’i defnyddio neu y bydd yn cael ei defnyddio o fewn yr amserlen ofynnol.

Os bydd swm y benthyciad a awdurdodir yn fwy na £50,000, bydd yn rhaid cyflwyno adroddiad monitro byr o fewn deufis i gwblhau'r prosiect.

Beth os na fydd angen cymeradwyaeth fenthyca mwyach?

Os bydd Cyngor Cymuned neu Dref yn penderfynu nad yw am fenthyca’r swm cyfan a awdurdodwyd mwyach, neu na all wneud hynny mwyach, bydd yn rhaid i Glerc y Cyngor roi gwybod i Lywodraeth Cymru pa swm y mae'n bwriadu ei fenthyca. Rhaid i’r hysbysiad hwn gael ei e-bostio cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol i LGFPmail@gov.wales.  Wedyn, ystyrir bod swm y benthyciad a awdurdodwyd wedi'i leihau i'r swm y rhoddwyd gwybod amdano. Fodd bynnag, bydd yr isafswm a nodir ym mharagraff 24 yn gymwys o hyd.

Os na chaiff yr arian ei fenthyca erbyn 31 Mawrth yn y flwyddyn ariannol y mae'r llythyr cymeradwyo yn berthnasol iddi, bydd yn rhaid i'r Clerc roi gwybod i Lywodraeth Cymru.

Cysylltiadau defnyddiol

Un Llais Cymru

24 Stryd y Coleg, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, SA18 3AF

E-bost: admin@onevoicewales.org.uk
Ffôn: 01269 595400
Gwefan  

Public Works Loan Board

UK Debt Management Office, Eastcheap Court, 11 Philpot Lane, London, EC3M 8UD

E-bost: pwlb@dmo.gov.uk
Ffôn: 020 7862 6610
Gwefan