Gwirfoddoli (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2019 i Fawrth 2020
Mae'r adroddiad yn edrych ar y rhai sy'n gwirfoddoli a'r sefydliadau y maent yn gwirfoddoli gyda ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn 2019-20, gofynnwyd i bobl yn ystod yr Arolwg Cenedlaethol a oeddent yn rhoi o’u hamser am ddim (hynny yw, yn 'gwirfoddoli') i unrhyw glybiau neu sefydliadau. Gofynnwyd cwestiynau am wirfoddoli yn ystod pandemig y coronafeirws yn 2020-21 hefyd, ac adroddir ar y cwestiynau hynny yma hefyd.
Canfyddiadau allweddol
Roedd 26% o bobl yn wirfoddolwyr yn 2019-20, i lawr o 28% yn 2016-17.
Mae cysylltiad annibynnol rhwng y ffactorau canlynol a phobl sy'n gwirfoddoli:
- oedran rhwng 65 a 74 oed
- meddu ar gymwysterau addysgol da
- bod yn berchen-feddianwr
- cymryd rhan mewn gweithgarwch chwaraeon rheolaidd
- defnyddio'r rhyngrwyd
- siarad Cymraeg bob dydd
- ffydd grefyddol
- mewn iechyd da yn gyffredinol
- teimlo bod pethau mewn bywyd yn werth chweil
- lle rydych yn byw (er enghraifft, byw yn Sir Ddinbych neu Sir Benfro yn hytrach nag ym Merthyr Tudful neu Flaenau Gwent)
Roedd pobl a oedd yn wirfoddolwyr cyn pandemig y coronafeirws yn fwy tebygol o wirfoddoli i helpu gyda’r sefyllfa yn sgil COVID-19 na phobl nad oeddent wedi gwirfoddoli o'r blaen.
Gwirfoddolwyr
Wrth reoli ffactorau eraill (adroddiad technegol atchweliad) roedd cysylltiad arwyddocaol rhwng y nodweddion canlynol a bod yn wirfoddolwr yn 2019-20.
Oedran
Gwirfoddolodd 30% o bobl rhwng 65 a 74 oed. Cynyddodd cyfran y bobl rhwng 16 a 24 oed a wirfoddolodd o 22% yn 2016-17 i 27% yn 2019-20.
Addysg
Mae’r tebygolrwydd y bydd unigolyn yn gwirfoddoli yn cynyddu gyda lefel y cymhwyster addysgol sydd ganddynt. (Siart 1)
Deiliadaeth
Roedd 29% o berchen-feddiannwyr yn wirfoddolwyr, o gymharu â 15% o bobl a oedd yn byw mewn tai cymdeithasol. Mae hyn yn adlewyrchu'r patrwm a welwyd yn 2016-17.
Gweithgarwch chwaraeon
Roedd 35% o bobl a oedd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos yn wirfoddolwyr, o gymharu â 22% o bobl nad oeddent yn cymryd rhan mewn chwaraeon mor aml â hyn. Roedd 12% o bobl a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd hefyd yn gwirfoddoli mewn clwb chwaraeon. Mae’r canlyniadau hyn yn debyg i'r rhai yn 2016-17. (Siart 2)
Defnydd o'r rhyngrwyd
Roedd 15% o'r rhai nad oeddent yn defnyddio'r rhyngrwyd gartref, yn y gwaith neu yn unrhyw le arall yn wirfoddolwyr, o gymharu â 27% o'r rhai a oedd yn defnyddio’r rhyngrwyd. (19% a 30% yn y drefn honno yn 2016-17).
Siarad Cymraeg bob dydd
Roedd 37% o bobl a oedd yn siarad Cymraeg bob dydd ac a oedd yn gallu siarad mwy nag ychydig o eiriau yn wirfoddolwyr o gymharu â 25% nad oeddent yn siarad Cymraeg yn rheolaidd. Unwaith eto, gwelwyd y gwahaniaeth hwn yn 2016-17.
Crefydd
Roedd pobl â ffydd grefyddol yn fwy tebygol o fod yn wirfoddolwyr na phobl heb ffyrdd grefyddol: 32% o gymharu â 21%. (33% a 24% yn 2016-17).
Iechyd cyffredinol
Roedd 28% o bobl a ddywedodd bod eu hiechyd yn dda yn gyffredinol yn wirfoddolwyr, o gymharu â 15% o'r rhai a ddywedodd bod eu hiechyd yn wael. Mae hon yn berthynas gymhleth gan y gallai iechyd gwael fod yn rhwystr i wirfoddoli tra gall gwirfoddoli fod o fudd i iechyd gwirfoddolwyr. (Siart 2)
Teimlo bod pethau mewn bywyd yn werth chweil
Roedd 26% o bobl a oedd yn teimlo bod pethau mewn bywyd yn werth chweil yn wirfoddolwyr o gymharu ag 11% o'r rhai nad oeddent yn teimlo i’r un graddau bod pethau mewn bywyd yn werth chweil. Yn yr un modd â statws iechyd, mae perthynas ddwy ffordd rhwng y ffactorau hyn: gall gwirfoddoli roi mwy o ymdeimlad i unigolyn bod pethau yn eu bywyd yn werth chweil tra gall person sy'n ystyried pethau'n werth chweil hefyd fod yn fwy tebygol o roi o’i amser i wirfoddoli. (Siart 2)
Ardal awdurdod lleol
Wrth gadw ffactorau eraill yn gyson, roedd cyfraddau gwirfoddoli yn amrywio o hyd rhwng awdurdodau lleol. Yn yr un modd â 2016-17, roedd y cyfraddau ar eu hisaf ym Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Rhondda Cynon Taf. Roedd y cyfraddau gwirfoddoli uchaf i'w gweld yn Sir Ddinbych a Sir Benfro.
Math o wirfoddoli
Rhoddodd pobl o'u hamser am ddim i lawer o wahanol sefydliadau (Siart 3). Gwelwyd dosbarthiad tebyg yn 2016-17. Er nad oedd rhyw yn ffactor sylweddol yn y cyfraddau gwirfoddoli cyffredinol, mae'n ymddangos bod gwahaniaethau rhwng y rhywiau o ran y math o sefydliadau yr oedd pobl yn dewis gwirfoddoli ynddynt. Merched oedd y rhan fwyaf o’r gwirfoddolwyr mewn ysgolion ac mewn rolau a oedd yn golygu gweithio gyda phobl ifanc, tra bod cyfran llawer uwch o ddynion na merched wedi gwirfoddoli mewn clybiau chwaraeon.
Gwirfoddoli a COVID-19
Ar ôl dechrau pandemig y coronafeirws, ni ellid cynnal yr Arolwg Cenedlaethol wyneb yn wyneb mwyach. O fis Mai 2020, newidiodd yr Arolwg Cenedlaethol yn arolwg byrrach dros y ffôn bob mis. Rhwng mis Mehefin a mis Medi, gofynnwyd i bobl a oeddent wedi gwirfoddoli i helpu gyda’r sefyllfa yn sgil COVID-19.
- Ym mis Mehefin, dywedodd 10% o bobl eu bod wedi gwirfoddoli i helpu yn ystod y 4 wythnos diwethaf. Roedd y ffigur hwn wedi gostwng i 5% ym mis Medi.
- Ym mis Medi, o'r rhai a oedd wedi gwirfoddoli, dywedodd dros dri chwarter eu bod yn disgwyl parhau i wirfoddoli am o leiaf 6 mis neu am gyhyd ag y bo angen.
Gan fod yr unigolion a gymerodd ran yn yr arolwg ffôn hefyd wedi cymryd rhan yn yr Arolwg Cenedlaethol wyneb yn wyneb yn y gorffennol, roedd modd inni gymharu eu hatebion â'r rhai a roesant cyn pandemig y coronafeirws.
- O'u cysylltu â'u hymatebion blwyddyn lawn, roedd 62% o'r bobl a oedd yn gwirfoddoli (ym mis Mehefin) i helpu gyda’r sefyllfa yn sgil COVID-19 wedi dweud yn yr arolwg blwyddyn lawn yn y gorffennol eu bod wedi gwirfoddoli gyda chlybiau a sefydliadau eraill.
Cyd-destun polisi
Mae Cynllun y Trydydd Sector Llywodraeth Cymru yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo buddiannau sefydliadau gwirfoddol. Mae hefyd yn nodi pedair thema drawsbynciol sy'n sail i weithgarwch yn y sector, sef: datblygu cynaliadwy, yr iaith Gymraeg, cydraddoldeb ac amrywiaeth, a mynd i'r afael â thlodi.
Yn deillio o'r cynllun mae Polisi gwirfoddoli: cefnogi cymunedau, newid bywydau, sy’n nodi tri diben allweddol: gwella cyfleoedd gwirfoddoli i bobl o bob oed ac o bob rhan o gymdeithas; helpu gwirfoddolwyr i gymryd rhan yn fwy effeithiol, gan gynnwys cymorth drwy hyfforddiant priodol; codi statws gwirfoddoli a gwella ei ddelwedd. Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector yn cydnabod bod gwirfoddoli yn rhan bwysig o gymunedau cryf, ac yn rhywbeth y dylid ei hyrwyddo a’i gefnogi.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Arolwg wyneb yn wyneb oedd Arolwg Cenedlaethol 2019-20 a oedd yn cynnwys hapsampl o dros 12,000 o oedolion o bob rhan o Gymru. Cynhaliwyd yr arolwg hwnnw rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020.
Yn sgil pandemig y coronafeirws, bu’n rhaid newid i gynnal arolwg byrrach dros y ffôn bob mis. O fis Mai 2020 ymlaen, cynhaliwyd cyfweliadau dros y ffôn gyda hapsampl o bobl a oedd wedi cymryd rhan mewn Arolwg Cenedlaethol blwyddyn lawn, wyneb yn wyneb.
Mae siartiau manwl a thablau canlyniadau ar gael yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. I gael gwybodaeth ynglŷn â chasglu’r data a’r fethodoleg gweler yr adroddiad ansawdd a'r adroddiad technegol atchweliad.
Statws Ystadegau Gwladol
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy'n dangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.
Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.
Cadarnhawyd y byddai’r ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi’n Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2020 yn dilyn gwiriad cydymffurfiaeth gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (llythyr cadarnhau). Cafodd yr ystadegau hyn eu hasesu’n llawn (adroddiad llawn) yn erbyn y Cod Ymarfer ddiwethaf yn 2013.
Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:
- darparu dadansoddiadau manylach yn y dangosydd canlyniadau a'i gwneud yn haws i ddefnyddwyr gymharu canlyniadau ar draws blynyddoedd
- diweddaru pynciau'r arolwg yn flynyddol i sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion polisi sy'n newid
- gwneud dadansoddiad atchweliad yn rhan safonol o'n hallbynnau i helpu defnyddwyr i ddeall cyfraniad ffactorau penodol at ganlyniadau diddordeb
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu defnyddio i fesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Senedd. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym mis Mawrth 2016. Mae’r Arolwg Cenedlaethol yn casglu gwybodaeth ar gyfer 15 o'r 46 dangosydd.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Siobhan Evans
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: arolygon@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SB 39/2020