Yn y canllaw hwn
1. Trosolwg
Mae 2 ffordd y gall rhywun weithredu ar ran rhywun arall gyda ni yn Awdurdod Cyllid Cymru:
- gallwch awdurdodi rhywun i weithredu ar eich rhan ynglŷn â’ch materion treth, fel gweithiwr treth proffesiynol, ffrind neu berthynas
- os oes gennych eisoes atwrniaeth ar gyfer rhywun arall gallwch roi gwybod i ni eich bod yn gweithredu ar eu rhan drwy ddarparu tystiolaeth
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Gweler ein polisi preifatrwydd ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni.