Jeremy Miles AS, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
Ddydd Iau 3 Rhagfyr, cyfarfu Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) am y pumed tro eleni. Cynhaliwyd y cyfarfod drwy drefniadau rhithwir a gellir gweld yr hysbysiad a gyhoeddwyd yn:
Diweddariad ynghylch negodiadau’r UE oedd yr eitem gyntaf ar yr agenda. Rhoddodd hyn y cyfle imi alw unwaith yn rhagor ar Lywodraeth y DU i ddwysáu ei hymdrechion i sicrhau cytundeb masnach cynhwysfawr ac i fynegi ein siom unwaith eto nad yw’r Gweinyddiaethau Datganoledig wedi cael cymryd unrhyw ran ystyrlon yn y negodiadau hyn – roedd hawl gennym ddisgwyl i gael gwneud hynny. Pwysais hefyd ar Lywodraeth y DU i rannu â’r Gweinyddiaethau Datganoledig, a hynny ar y cyfle cyntaf posibl, fersiwn ddrafft o unrhyw ddeddfwriaeth y byddai ei hangen i ddod â Chytundeb i effaith.
Cafwyd datganiad wedi hynny ar faterion yn ymwneud â pharodrwydd pan bwysais am ragor o sicrwydd ynghylch materion fel cyflenwi nwyddau hanfodol, a pha mor debygol ydoedd y deuir i gytundeb mewn perthynas â digonolrwydd data yn ogystal â’r mesurau macro-economaidd y byddai eu hangen, pe na fyddai cytundeb.
Y gwaith parhaus ar yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol a’r rhaglen Fframweithiau Cyffredin oedd y drydedd eitem ar yr agenda. Pwysleisiais unwaith yn rhagor fod Llywodraeth Cymru yn gwbl ymroddedig i’r gwaith hwn a chytunwyd y dylid cynyddu’r ymdrechion i gwblhau’r Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol.
Pwysleisiais unwaith yn rhagor hefyd yr effaith niweidiol ar y Fframweithiau Cyffredin a Bil Marchnad Fewnol y DU, sydd gerbron Senedd y DU ac anogais Lywodraeth y DU i ystyried o ddifri y diwygiadau sylweddol a oedd wedi cael eu gwneud yn Nhŷ’r Arglwyddi i’r Bil. Tynnais sylw hefyd at ein pryderon ynglŷn â nifer o Fframweithiau penodol, gan gynnwys y rheini ar Gydnabyddiaeth Gilyddol o Gymwysterau Proffesiynol, Gwasanaethau a’r Cynllun Masnachu Allyriadau.
Yn olaf, pwysleisiais pa mor bwysig ydoedd i Gyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) barhau i gyfarfod hyd nes i’r Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol ddirwyn i ben. Mae’n debygol y bydd Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) yn ymgynnull eto cyn y Nadolig a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y datblygiadau hynny.