Bydd rhieni a gofalwyr ar incwm isel y mae eu plant yn gorfod hunanynysu yn gymwys i gael taliad cymorth o £500.
Lansiwyd y Cynllun Cymorth Hunanynysu fis diwethaf i roi cymorth ariannol i bobl ar incwm isel neu sy’n wynebu caledi ariannol wedi iddynt gael cyfarwyddyd i hunanynysu gan wasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru.
Bydd y cynllun yn awr yn cael ei ymestyn i helpu rhieni a gofalwyr i gymryd amser i ffwrdd i edrych ar ôl eu plant pan fydd angen iddynt hunanynysu oherwydd bod achosion o’r coronafeirws yn eu hysgol neu yn eu lleoliad gofal plant.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
Nid yw pawb yn gallu gweithio gartref felly pan fydd rhaid i blentyn hunanynysu, gall roi llawer o straen ar rieni a gofalwyr.
Mae nifer sylweddol o bobl yn colli incwm oherwydd nad ydynt yn gallu gweithio pan fyddant yn edrych ar ôl plant sydd ddim yn gallu mynd i’r ysgol neu i’w lleoliad gofal plant arferol oherwydd coronafeirws.
Bydd ymestyn y cynllun hwn yn helpu i liniaru’r caledi ariannol y mae rhai rhieni yn ei wynebu, gan eu helpu i ofalu am eu plant.
Bydd y Cynllun Cymorth Hunanynysu yn cael ei ymestyn i rieni a gofalwyr ar incwm isel sy’n bodloni meini prawf y prif gynllun. I fod yn gymwys, mae’n rhaid iddynt fod â phlentyn mewn ysgol neu leoliad gofal plant hyd at ac yn cynnwys blwyddyn wyth – neu hyd at 25 oed os oes gan y dysgwr anghenion ychwanegol lluosog a chymhleth – a bod y plentyn wedi cael hysbysiad ffurfiol i hunanynysu gan y Gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu neu gan eu lleoliad addysg neu ofal plant.
Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James:
Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth y gallwn i helpu pobl a diogelu eu hiechyd a’u llesiant.
Bydd y taliad hunanynysu o £500 yn ein helpu i roi’r sicrwydd ariannol angenrheidiol i bobl fedru aros gartref a thorri’r cylch trosglwyddo. Bydd hefyd yn cefnogi ymdrechion ehangach ysgolion a gwasanaethau eraill i reoli lledaeniad y feirws.
Mae awdurdodau lleol wedi bod yn gweithio’n galed drwy gydol y pandemig i gefnogi eu cymunedau ac rwy’n ddiolchgar iddynt am eu gwaith caled. Byddaf yn parhau i adolygu’r cynllun i sicrhau bod y bobl â’r angen mwyaf yn cael y cymorth angenrheidiol i hunanynysu a lleihau trosglwyddiad y feirws.
Gall rhieni neu ofalwyr nad ydynt yn cael budd-daliadau ond sy’n bodloni’r meini prawf eraill ac mewn perygl o wynebu caledi ariannol wneud cais i’r cynllun o dan yr elfen ddewisol.
Bydd pobl yn gallu gwneud cais am y taliad hunanynysu ar wefan eu hawdurdod lleol o 14 Rhagfyr a bydd taliadau yn cael eu hôl-ddyddio i 23 Hydref.