Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Gyda llai na mis bellach tan ddiwedd y cyfnod pontio, hoffwn ddiweddaru’r Aelodau ar ein cynlluniau rheoli traffig wrth gefn ar hyn o bryd yng Nghaergybi.
Rydym wedi bod yn glir o’r dechrau y byddai dull gweithredu Llywodraeth y DU o ran ein perthynas fasnachu â’r UE yn y dyfodol yn peri risg o broblemau mawr yng Nghymru. Mae hynny’n arbennig o wir ar y ffin. Mae’n rhaid aros o hyd i weld a fydd cytundeb masnach yn cael ei gytuno. Ond mae sefyllfa Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn glir pa un a yw hynny’n digwydd ai peidio bydd aelod-wladwriaethau’r UE yn gosod rheolau mewnforio ar draffig y DU o 1 Ionawr 2021.
Bydd gweithredwyr fferïau sy’n cludo nwyddau i Iwerddon yn ei gwneud yn ofynnol i’w cwsmeriaid gysylltu eu gwybodaeth tollau â’u harcheb deithio ac ni fyddant yn gallu mynd i mewn i’r porthladd os nad ydynt wedi gwneud hynny.
Mae’r senario waethaf sy’n rhesymol ei thybied sydd wedi’i chyhoeddi gan Lywodraeth y DU yn pwysleisio y gallai 40-70% o gerbydau nwyddau trwm sy’n cyrraedd porthladdoedd ar ôl diwedd y cyfnod pontio gael eu gwrthod am nad oes ganddynt y dogfennau cywir. Mae hyn yn golygu traffig sylweddol i Gaergybi. Bydd y traffig hwnnw’n chwilio am rywle i barcio wrth i gerbydau fynd ati i gael gafael ar y dogfennau cywir a chwblhau’r archeb neu benderfynu nad ydynt yn gallu cwblhau’r daith.
Ein prif nod yw sicrhau, gymaint ag y bo’n bosibl, bod unrhyw broblemau yn effeithio cyn lleied ag y bo modd ar borthladd Caergybi, trigolion y dref a’r ardal ehangach.
O ganlyniad, byddwn yn gweithredu gwrthlif dros dro rhwng cyffordd 2 a 3 o’r A55, gyda’r opsiwn i’w ymestyn i gyffordd 4, yn ôl y galw, o 1 Ionawr.
O dan yr amgylchiadau presennol, gweithredu gwrthlif dros dro ar yr A55 yw’r unig opsiwn penodol i sicrhau bod cerbydau nwyddau trwm nad ydynt yn barod yn gallu cael eu parcio mewn ffordd sy’n ddiogel o ran COVID-19 ac y gall traffig lleol barhau i lifo o amgylch Caergybi o 1 Ionawr.
Rydym yn cynllunio sicrhau mynediad i Roadking fel prif safle daliad. Ar yr un pryd rydym yn dechrau gwaith brys ym Mharc Cybi i sicrhau bod mwy o le ar gael yn ystod mis Ionawr.
Bydd cerbydau nwyddau trwm nad ydynt yn barod sy’n cyrraedd y porthladd yn cael eu cyfeirio yn ôl i ymuno â’r gerbytffordd tua’r gorllewin, lle y byddant yn cael eu cyfeirio i Roadking neu Barc Cybi os yw’n bosibl ac os oes lle. Neu bydd y cerbydau’n cael eu gosod mewn rhes ar yr A55 tan y byddant yn gallu parhau neu ganslo eu taith, fel cynllun wrth gefn. Byddwn yn cydweithio â Stena Line ac Irish Ferries er mwyn helpu i sicrhau bod eu cwsmeriaid yn deall lle y gallant fynd os nad ydynt yn gallu mynd ar y fferi.
Nid yw cyflwyno gwrthlif dros dro yn rhywbeth rydym yn dymuno ei wneud ond daeth yn rhywbeth sy’n angenrheidiol i’w wneud. Mae’r ansicrwydd rydym yn ei wynebu yn golygu bod yn rhaid inni gymryd pob cam i geisio atal problemau teithio ym mhorthladd a thref Caergybi.
Dyma sefyllfa nad ydym wedi ei hwynebu erioed o’r blaen ac mae’n rhaid inni ddiogelu cymunedau lleol, a’r rhwydwaith ffyrdd, yn erbyn y problemau teithio yn y model senario waethaf sy’n rhesymol ei thybied. Wrth inni weld i ba raddau y bydd hyn yn digwydd yn ymarferol, a cheisio sicrhau lle ychwanegol i lorïau ym Mharc Cybi, byddwn yn adolygu faint o le sydd ei angen. Byddwn yn ceisio dod â’r gwrthlif i ben cyn gynted ag y byddwn yn hyderus nad oes ei angen mwyach a’i fod yn ddiogel gwneud hynny.
Rydym wedi bod yn cydweithio â’n partneriaid ar draws Gogledd Cymru, gan gynnwys Cyngor Ynys Môn, i wneud popeth posibl i ddiogelu porthladd Caergybi, cynnal y llwybr hanfodol hwn a lleihau unrhyw broblemau i gymunedau. Byddwn yn parhau i wneud hynny wrth inni wynebu canlyniadau dull gweithredu Llywodraeth y DU o ran ymadael â’r UE.