Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae'r pandemig COVID-19 wedi tanlinellu'r angen parhaus am gynnydd yn nifer y gweithwyr iechyd proffesiynol hanfodol. Dyna pam y bydd cyllid i gefnogi addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru yn cynyddu, a hynny am y seithfed flwyddyn yn olynol. Caiff £227.901m ei fuddsoddi yn 2021/22, sef cynnydd o 8.3% ers 20/21. Mae hyn yn £9.124m yn ychwanegol ar gyfer rhaglenni addysg a hyfforddiant i weithwyr proffesiynol yng Nghymru, £2.315m yn ychwanegol ar gyfer lleoedd hyfforddiant meddygol, £5.312m yn ychwanegol i hybu’r niferoedd craidd ar gyfer hyfforddiant meddygol teulu a chynnydd net o £0.762m ar gyfer hyfforddiant fferyllol ledled Cymru.
Mae hyn yn lefel uwch nag erioed o gyllid, ac fe fydd yn cael ei ddefnyddio i gynnal y nifer mwyaf erioed o gyfleoedd hyfforddi yng Nghymru.
Rwyf yn hynod o falch o fuddsoddiad y llywodraeth hon mewn addysg a hyfforddiant i gynnal y gweithlu iechyd ar draws Cymru. Mae mwy o bobl yn gweithio i'r GIG heddiw nag a fu ar unrhyw adeg yn ei hanes, gyda phob un ohonynt yn ceisio atal problemau a gofalu am aelodau o'r gymdeithas ar draws pob cymuned yng Nghymru. Nid yw pwysigrwydd ein gwasanaethau iechyd a gofal erioed wedi bod mor amlwg ag yn ystod y naw mis diwethaf.
Mae’n hanfodol bod gweithlu’r GIG wedi’i hyfforddi’n dda ac sy'n meddu ar y sgiliau cywir er mwyn darparu gofal cynaliadwy o’r radd flaenaf i bobl ledled Cymru a gwella safonau yn ein gwasanaeth iechyd. Er gwaethaf yr heriau sy’n ein hwynebu heddiw, yn enwedig eleni gyda'r pandemig, rydym wedi parhau i fuddsoddi yn addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol Cymru.
Dros y pum mlynedd diwethaf mae lleoedd hyfforddi nyrsys wedi cynyddu 72% a bydwragedd wedi cynyddu 97%. Mae tablau yn dangos y cynnydd mewn lleoedd hyfforddi ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol a hyfforddiant meddygol ar gyfer 2021/22 i'w gweld yn Atodiad A.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi i’r GIG y gweithlu y mae arno ei angen ac i sicrhau system iechyd a gofal cymdeithasol gynaliadwy fel y nodir yn Cymru Iachach.
Bydd y lleoedd hyfforddi ychwanegol hyn yn cynyddu gallu’r gweithlu i helpu’r GIG i ymateb i’r heriau sy’n ei wynebu yn awr ac yn y dyfodol.
Atodiad A
Cynllun Hyfforddi a Chomisiynu Addysg GIG Cymru ar gyfer 2021/22
Mae’r tablau canlynol yn dangos y cynnydd yn nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol ac ar gyfer hyfforddiant meddygol yn 2021/22.
Staff iechyd proffesiynol
Arbenigedd |
O |
I |
% Cynnydd |
Nyrsio Oedolion |
1,400 |
1,540 |
10% |
Nyrsio Iechyd Meddwl |
356 |
410 |
15% |
Nyrsio Plant |
159 |
175 |
10% |
Bydwreigiaeth |
161 |
185 |
15% |
Radiotherapi ac Oncoleg |
22 |
26 |
18% |
Deieteg |
52 |
60 |
15% |
Ffisiotherapi |
164 |
174 |
6% |
Therapi Galwedigaethol |
163 |
179 |
10% |
Podiatreg |
24 |
27 |
12% |
Parafeddygaeth |
52 |
75 |
44% |
Lleoedd ar gyfer Doethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol |
29 |
32 |
10% |
Gwyddor Gofal Iechyd: rhaglen Hyfforddiant Gwyddonol |
32 |
37 |
17% |
Rhaglen Hyfforddiant Gwyddonol Arbenigol Uwch |
5 |
8 |
60% |
Gwyddor Gofal Iechyd: Rhaglen Hyfforddi Ymarferwyr / Gwyddoniaeth Fiomeddygol |
24 |
25 |
4% |
Argymhellion ar gyfer Cynllunio’r Gweithlu Meddygol
Ymarfer Meddygol |
Parhau i hysbysebu 160 gydag opsiwn i recriwtio mwy os ceir digon o ymgeiswyr addas. |
|
Meddygaeth Frys
|
5 swydd Hyfforddiant Uwch newydd (ST3) a 2 swydd Hyfforddiant Craidd ar y Rhaglen Llwybr Craidd Gofal Acíwt. |
|
Anestheteg |
3 swydd Hyfforddiant Uwch newydd. |
|
Meddygaeth Gofal Dwys |
4 swydd Hyfforddiant Uwch newydd sydd wedi’u categoreiddio yn swyddi gofynnol yn ystod pandemig y Coronafeirws. |
|
Llawdriniaeth Blastig |
2 swydd Hyfforddiant Uwch newydd i gefnogi’r Ganolfan Trawma Mawr. |
|
Llawdriniaeth Gyffredinol |
4 swydd Hyfforddiant Uwch newydd i gefnogi model y gweithlu ar gyfer y Ganolfan Trawma Mawr a’r galw cynyddol i gefnogi triniaethau canser. |
|
Wroleg |
4 swydd Hyfforddiant Uwch newydd i gefnogi’r agenda Canser. |
|
Pediatreg |
6 swydd newydd sy’n cynnwys 2 gymrodoriaeth Hyfforddiant Uwch. |
|
Obstetreg a Gynaecoleg |
2 swydd newydd mewn ymateb i ddogfen ‘Gofal mamolaeth yng Nghymru, gweledigaeth 5 mlynedd ar gyfer y dyfodol’. |
|
Meddygaeth Fewnol |
15 swydd Hyfforddiant Craidd newydd. |
|
Meddygaeth Acíwt |
4 swydd Hyfforddiant Uwch newydd. |
|
Meddygaeth Anadlol |
2 swydd Hyfforddiant Uwch newydd. Mae pandemig y coronafeirws wedi dangos bod angen mwy o feddygon yn y maes meddygaeth anadlol. |
|
Gastroenteroleg |
2 swydd Hyfforddiant Uwch newydd i gwaith y llwybr canser unigol. |
|
Oncoloeg Feddygol
|
3 swydd Hyfforddiant Uwch newydd y flwyddyn am 5 mlynedd i gefnogi’r agenda canser. |
|
Oncoloeg Glinigol |
4 swydd Hyfforddiant Uwch newydd y flwyddyn am 5 mlynedd i gefnogi’r agenda canser. |
|
Microbioleg Feddygol / Hyfforddiant Heintiau Cyfunol |
Parhau â’r argymhelliad o gynllun y llynedd o gael 3 swydd newydd am 5 mlynedd. |
|
Radioleg Glinigol |
Cadw at gael 20 o hyfforddeion y flwyddyn. |