Grŵp Cynghori ar Faterion Moesol a Moesegol COVID-19 Cymru: 5 Tachwedd 2020
Cofnodion cyfarfod Grŵp Cynghori ar Faterion Moesol a Moesegol COVID-19 Cymru a gynhaliwyd ar 05 Tachwedd 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau gweithredu
Cam gweithredu | Cyfrifol |
---|---|
Y Cadeirydd i ddatblygu ymhellach papur Datblygu Pwyllgorau Moesegol Clinigol a'i rannu gyda'r cymunedau iechyd perthnasol. | Heather Payne |
Iechyd Gwledig – Aled Edwards i lunio papur. | Aled Edwards |
Adolygu penderfyniadau yn ystod y pandemig a sut y defnyddiwyd egwyddorion moesegol yn y penderfyniadau hynny. | Idris Baker |
Papur ar ddyfarniadau gwerth a rhagfarnau mewn gofal iechyd. | Kevin Francis a Liz Davies |
Yn bresennol
Heather Payne (Chair), Aled Roberts, Aled Edwards, Martyn Jones, Alison Mawhinney, Helena Herklots, Kevin Francis, Alison Parken, Ben Thomas, Rhian Davies, Viv Harpwood, Carol Wardman, Kathy Riddick , Liz Davies, Idris Baker, Valerie Billingham.
Nodyn o’r cyfarfod
1. Croeso, ymddiheuriadau a chyflwyniadau
Gwnaeth y Cadeirydd gyflwyniadau a nododd ymddiheuriadau.
2. Cofnodion blaenorol
Gofynnodd y Cadeirydd i aelodau'r grŵp roi unrhyw sylwadau/diwygiadau ynghylch nodyn y cyfarfod diwethaf i'r Ysgrifenyddiaeth.
Camau gweithredu
Pob eitem ar yr agenda.
Seminar ar iechyd gwledig ar y 10 a 11 Tachwedd.
3. Ystyriaethau clinigol
Dywedodd y Cadeirydd fod y cyfarfod i gwmpasu pwyllgorau moeseg clinigol a gynhaliwyd ar 23 Hydref wedi mynd yn dda ac iddo gael derbyniad da. Y casgliad oedd bod angen i CMEAG fod yn rhagweithiol ac yn adweithiol.
Cyn y cyfarfod heddiw, gofynnwyd i'r aelodau ystyried meysydd y gallai pwyllgor cenedlaethol newydd eu hystyried. Roedd yr ymatebion yn cynnwys:
- offer digidol
- ymweld â chartrefi gofal
- tystysgrifau imiwnedd a brechiadau
- yfraith hawliau dynol mewn lleoliadau iechyd
- iechyd gwledig
Codwyd nifer o adroddiadau perthnasol hefyd, sydd wedi'u cynnwys isod:
Adroddiad Cumberlege – First do no harm
Valuing voices: Protecting rights through the pandemic and beyond’
Mae cyfraith achosion yn bodoli mewn llawer o'r meysydd hyn a gallai'r pwyllgor adlewyrchu'r sefyllfa gyfreithiol yn erbyn y dulliau presennol a ddefnyddir.
Codwyd brechiadau fel maes sy'n peri pryder. Cytunodd y Parch Carol Wardman a Viv Harpwood i weithio gyda'i gilydd a dod â phapur i'r cyfarfod nesaf mewn perthynas â hyn.
Dogfen Valuing Voices – Mae angen i'r Llywodraeth werthfawrogi arbenigedd pobl. Mae llais y dinesydd yn hanfodol a hefyd rannu adnoddau.
Codwyd cwestiwn ynghylch i ba raddau y mae protocol moesegol cenedlaethol ar gyfer pennu blaenoriaethau wrth ddarparu gofal iechyd yng nghyd-destun pandemig? O safbwynt hawliau dynol, mae hyn yn hanfodol er mwyn bodloni safonau hawliau dynol ynghylch penderfyniadau blaenoriaethu.
Bydd adolygiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn archwilio pa mor effeithiol y cynhelir Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb. Mae ymgysylltu ac ymgynghori â grwpiau gwarchodedig yn ganolog i'w llwyddiant.
Mae'r BMJ wedi ysgrifennu'n ddiweddar am wneud penderfyniadau eithriadol mewn cyfnod eithriadol. Gellir ei ddarllen yn y ddolen amgaeedig: https://www.bmj.com/content/370/bmj.m3268.full.print
Mae brysbennu lle nad oes digon o welyau ar gael yn fater nad ydym wedi gorfod ei wynebu eto. Y gwir amdani yw bod COVID wedi cael ei flaenoriaethu ac wedi cael effaith ar gyflyrau eraill yn sgil hynny. Mae angen pwyso a mesur y don gyntaf a meddwl am yr hyn y mae angen i ni ei ddysgu. Bydd adolygiad allanol yn digwydd yn y dyfodol. Idris Baker i arwain ar bapur mewn perthynas â hyn.
O ran defnyddio Sgôr Eiddilwch Rockwood - yn niffyg fframwaith blaenoriaethu, gofynnwyd y dylid gofyn i'r Prif Swyddog Meddygol/Prif Swyddog Rheoli ailgyhoeddi'r llythyr lle maent yn datgan nad ydym yn defnyddio'r Sgôr honno yng Nghymru. Cadarnhawyd nad ydym yn ei defnyddio ac y byddwn yn ei hystyried.
4. Datblygu pwyllgorau moesegol clinigol
Cafwyd derbyniad da iawn i'r cyfarfod ar 23 Hydref a darparwyd papur amlinellol i'r grŵp i sbarduno trafodaeth.
Codwyd cwestiwn ynglŷn â chwmpas pwyllgorau moeseg glinigol - a fyddai lle i’r cwmpas fod yn ehangach nag iechyd a gofal cymdeithasol? Daw hyn gyda materion awdurdodaeth ond mae iechyd yn eang iawn a gellir ei ystyried ochr yn ochr â meysydd eraill megis addysg a thai. Gallai pwyso a mesur canlyniadau iechyd ac anghydraddoldebau ddarparu dull gwell.
Bydd gan y cwricwlwm newydd elfen iechyd a llesiant ac awgrymwyd y gallai’r ffordd y mae iechyd yn gweithio gael ei chynnwys ynddo. Ffordd o ddatrys hyn fyddai ystyried hyn o safbwynt canlyniadau iechyd a gweithio'n ôl.
Cytunodd Ben Thomas ac Idris Baker i gyfarfod i ystyried y canfyddiad o beth yw ansawdd bywyd, gan sicrhau nad yw'n cymylu'r broses o wneud penderfyniadau.
Diolchodd y Cadeirydd i'r grŵp a chytunodd i ddatblygu'r papur a’i rannu gyda'r cymunedau iechyd perthnasol.
5. Iechyd gwledig
Datblygodd Dr Eilir Hughes o Wynedd waith awyriach.cymru. Mae angen i'r rhai mewn ardaloedd gwledig ystyried agweddau cadarnhaol a negyddol byw yn yr ardaloedd hyn wrth ystyried gofal iechyd.
Gallai WAST roi barn fel dull cenedlaethol.
Cam gweithredu – Aled Edwards i ddatblygu gwaith ymhellach.
6. Caethiwed a rhagfarn wrth wneud penderfyniadau rhagfarn
Mae caethiwed yn effeithio ar bob cymuned. Mae ymarferwyr yn dilyn canllawiau ond gallant ffurfio barn ar sail gwerthoedd. Mae awgrym bod caethiwed o'r fath yn ffordd o fyw a ddewisir ac mae hynny'n llesteirio’r gwaith o gynnig gwasanaethau neu gymorth i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed o ganlyniad i'w caethiwed sydd, yn ei dro, yn deillio yn aml i'w trawma personol. Dylid cynnal asesiad ffurfiol o gapasiti ond mae ymarferwyr yn rhy aml yn barnu bod y defnydd o alcohol yn ddewis yn hytrach na rhywbeth sydd y tu hwnt i reolaeth yr unigolyn.
Learning from tragedies: an analysis of alcohol-related Safeguarding Adult Reviews
Mae'n debyg ar gyfer cyflyrau hirdymor. Yn aml, ystyrir mai mater meddylio yn hytrach na chorfforol yw ME/CFS a ffibromyalgia Mae angen i glinigwyr ddarparu triniaeth ac, yn bwysicach, gefnogi a pheidio â diystyru pryderon dilys pobl yn seiliedig ar eu barn bersonol.
Yng Nghymru rydym yn ceisio datblygu model cymdeithasol o ofal, lle mae ffordd o fyw, tai, addysg, lles meddyliol, cyllid a llu o bethau eraill yn cael eu hystyried ochr yn ochr â'u hanghenion corfforol i ddarparu triniaeth a chymorth a fydd yn cael effaith wirioneddol ar berson.
Dogfen drafod fer – Kevin Francis a Dr Liz Davies i ddrafftio papur ar farn ar sail gwerth a rhagfarnau mewn gofal iechyd.
7. Unrhyw fater arall
Dim
Y cyfarfod nesaf
Mewn pythefnos yn unol â’r bwriad (19 Tachwedd).