Mae ein cynlluniau ar gyfer Dyfeisiau Adnabod Electronig Gwartheg (BEID) ar gyfer lloi newydd eu geni yn symyd ymlaen.
Mae hyn yn sgil cyhoeddi adroddiad Llywodraeth Cymru a DEFFRA. Astudiodd yr adroddiad berfformiad technoleg BEID ar ffermydd ac mewn marchnadoedd a lladd-dai yng Nghymru a Lloegr.
Rydyn ni’n bwriadu siarad â chynrychiolwyr y diwydiant yn yr hydref gyda’r gobaith o gytuno ar fanylebau’r tag BEID yn gynnar yn 2025.
Nid ydym yn disgwyl y bydd y tagiau EID Gwartheg swyddogol ar y farchnad tan 2025/2026 fan cynharaf.
Rydyn ni’n eich cynghori i archebu dim ond digon o dagiau confensiynol ar gyfer y lloi rydych yn eu disgwyl yn 2025.
Byddwn yn rhoi mwy o newyddion ichi am gyflwyno’r system EID Gwartheg tuag at ddiwedd 2025. Nid yw’n bosib rhoi amser pendant ichi ar hyn o bryd. Rydym wrthi’n diwygio’r ddeddf ac yn paratoi’r system a bydd y cynigion yn dibynnu ar sicrhau bod digon o dagiau ar gael.
Byddwn yn cyhoeddi diweddariadau yn Gwlad. Byddwn hefyd yn rhannu manylion gyda grwpiau diwydiant, wrth iddynt ymddangos.