Mae pum chwyn wedi eu henwi yn Neddf Chwyn 1959. Mae’r rhywogaethau hyn yn frodorol yn y DU ac yn cyfrannu at bioamrywiaeth. Fodd bynnag gallant hefyd:
- fod yn niweidiol i anifeiliaid pori megis gwartheg, defaid a cheffylau a
- gael effaith ar gnydau os ydynt yn lledaenu.
Y rhywogaethau sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Chwyn 1959 yw:
- llysiau’r gingroen (Senecio jacobaea)
- tafolen grech (Rumex crispus)
- dail tafol (Rumex obtusifolius)
- marchysgallen (Cirsium vulgare)
- ysgallen y maes (Cirsium arvense)
Gall Arolygiaeth Wledig Cymru (RIW) gyhoeddi hysbysiad os oes risg i:
- anifeiliaid sy'n pori, neu
- dir amaethyddol
Mae'r hysbysiad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i berchennog neu feddiannydd gymryd camau i atal y chwyn rhag lledaenu.
Os ydych yn poeni am bla o unrhyw un o'r chwyn hyn cewch wneud cwyn gan ddefnyddio'r Chwyn niweidiol: ffurflen gwyno.
Bydd RIW yn archwilio cwynion ble y mae perygl o’r chwyn yn lledaenu i dir sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer:
- ceffylau neu dda byw pori;
- cynhyrchu porthiant, megis silwair a gwair, neu
- i dyfu cnydau
O’r pum chwyn, rhoddir gwybod amlaf am lysiau’r gingroen. Mae’r cod ymarfer ar lysiau’r gingroen yn cynnwys cyngor i berchenogion a deiliaid tir.