Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg
Ar 29 Hydref, gwnes Orchymyn i gychwyn gwahanol bwerau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“Deddf 2018”), gan gynnwys y ddarpariaeth ar gyfer sefydlu rhestr o Sefydliadau ôl-16 Arbennig Annibynnol fel yr amlinellwyd yn Adran 56 o Ddeddf 2018. Bydd y rhestr o Sefydliadau ôl-16 Arbennig Annibynnol yn cychwyn ar 4 Ionawr 2021, ac mae’n dangos y bwriad, fel y nodir yn y Ddeddf, i’r dyletswyddau gael eu trosglwyddo i awdurdodau lleol yn y dyfodol.
Heddiw, rwyf wedi gosod gerbron y Senedd y ‘Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Rhestr o Sefydliadau ôl-16 Arbennig Annibynnol) (Cymru) 2020’ (“Rheoliadau ISPI”). Rhaid i Weinidogion Cymru sefydlu a chynnal rhestr o Sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru a Lloegr ac mae'r rheoliadau hyn ymhlith pethau eraill, yn nodi'r gofynion y mae'n rhaid eu bodloni i fod ar y rhestr. Dim ond mewn sefydliad sydd ar y rhestr y caniateir i awdurdodau lleol sicrhau darpariaeth addysg neu hyfforddiant i bobl ifanc ag ADY.
Bydd cychwyn y rhestr o Sefydliadau ôl-16 Arbennig Annibynnol yn rhoi amser i randdeiliaid ystyried eu hamgylchiadau a gwneud cais i gael eu cynnwys ar y rhestr; hefyd mae’n darparu amser i awdurdodau lleol a’u partneriaid ddechrau cynlunio ar gyfer derbyn y dysgwyr hyn yn y dyfodol. Bydd y Sefydliadau ôl-16 Arbennig Annibynnol a gafodd eu cymeradwyo a’u rhoi ar y rhestr ar gael i i awdurdodau lleol pan fyddant yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros sicrhau lleoliadau arbenigol ôl-16 ar gyfer pobl ifanc mewn Sefydliadau ôl-16 Arbennig Annibynnol yn y dyfodol.