Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Gwnes fynychu cyfarfod cyntaf Grŵp Gweinyddiaethau Datganoledig COP26 ar 6 Tachwedd.
Cafodd y cyfarfod ei gadeirio gan y Gwir Anrhydeddus Alok Sharma AS, Darpar Lywydd. Hefyd yn bresennol roedd Iain Stewart AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol yr Alban, Y Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Robin Walker AS, Gweinidog Gwladol Gogledd Iwerddon, Roseanna Cunningham ASA, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd, Newid Hinsawdd a Diwygio Tir, Paul Wheelhouse ASA, Gweinidog Ynni, Cysylltedd a’r Ynysoedd ac Edwin Poots MLA, y Gweinidog Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig.
Gwnaeth y cyfarfod ganolbwyntio ar amcanion llywyddiaeth y DU a chynllunio ar gyfer chweched ar hugain Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP26), a fydd yn cael ei chynnal yn Glasgow ym mis Tachwedd 2021. Gwnaethom drafod y dull o gydweithio â’r Gweinyddiaethau Datganoledig a hefyd dulliau o ymgysylltu â rhanddeiliaid.