Gallwn ni eich helpu os oes angen mwy o gymorth arnoch gyda threthi rydym ni’n eu rheoli yn Awdurdod Cyllid Cymru, megis Treth Trafodiadau Tir.
Cynnwys
Ar gyfer ymholiadau syml, gallwch ffonio ein tîm desg gymorth ar 03000 254 000.
Mae llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 3pm, ac eithrio gwyliau banc.
Dylech hefyd gysylltu â ni i roi gwybod i ni:
- os na allwch dalu ar amser
- os ydych chi’n anghytuno â phenderfyniad treth
- os ydych angen cymorth ychwanegol er mwyn cael mynediad at ein gwasanaethau, er enghraifft oherwydd anabledd
Ar gyfer ymholiadau cymhleth, efallai y byddwn yn gofyn i chi gwblhau ein ffurflen gyswllt ar-lein.
Os ydych chi’n ei chael hi'n anodd gwneud hyn, rhowch wybod i ni. Fe wnawn ni ddod o hyd i ffordd arall o'ch helpu.
Cymorth i lenwi ffurflenni
Gallwn eich helpu i lenwi ein ffurflenni os yw hyn yn anodd i chi. Dywedwch wrthym pa gymorth sydd ei angen arnoch i gwblhau ffurflen.
Gwybodaeth mewn fformat gwahanol
Gall ein desg gymorth helpu os oes angen rhywbeth mewn fformat gwahanol arnoch, fel ffurflen neu ein canllawiau, fel print bras.
Anawsterau ffeilio neu dalu ar amser
Os na allwch ffeilio neu dalu eich treth i ni ar amser oherwydd eich amgylchiadau, dywedwch wrthym cyn gynted â phosibl, a chyn i'r ffurflen dreth neu’r taliad fod yn daladwy.
Efallai y gallwn ystyried mwy o amser i dalu os oes gennych anawsterau eithriadol wrth dalu'ch bil treth yn brydlon.
Cael help gan deulu neu ffrindiau
Gallwch roi caniatâd i ffrind neu aelod o'r teulu ('helpwr dibynadwy') ddelio â ni ar eich rhan ar gyfer pethau fel:
- siarad â ni
- eich helpu i lenwi ffurflenni
Gallwch hefyd gael help gyda threth gan Cyngor ar Bopeth.
Gall busnesau gael gwybodaeth a chyngor gan Busnes Cymru hefyd.