Cylch Gorchwyl
Cylch Gorchwyl y Grŵp Gorchwyl a Gorffen
Cynnwys
Cefndir
Mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cael ei sefydlu ar gais y Prif Weinidog sydd wedi gofyn am archwiliad o henebion a chofebion, enwau strydoedd ac enwau adeiladau ledled Cymru sydd â chysylltiad ag agweddau ar hanes pobl dduon. Mae hefyd wedi gofyn i’r grŵp sy’n goruchwylio’r archwiliad nodi ac ystyried materion sy’n codi o’r archwiliad a allai fod yn sail i ail gam y prosiect.
Cylch Gwaith ac Amcanion
Bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn goruchwylio’r archwiliad hwn drwy ddarparu cyngor arbenigol ar:
- gerfluniau, cofebion a strwythurau coffa eraill mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru sy’n gysylltiedig â hanes pobl dduon, yn cynnwys casglu gwybodaeth am eu hanes, eu perchnogaeth a’r cyrff sy’n gyfrifol amdanynt ac a ydynt wedi’u dynodi ai peidio
- enwau strydoedd ac adeiladau sy’n gysylltiedig â hanes pobl dduon
- nodi materion a godir gan y safleoedd, enwau ac adeiladau hyn a datblygu syniadau cychwynnol ar gyfer gwaith pellach.
Er bod llawer o’r cofnodion yn yr archwiliad yn debygol o fod yn ddadleuol, cydnabyddir hefyd bod nifer o weithiau celf cyhoeddus yn dathlu cyfraniad hanesyddol y gymuned pobl dduon i fywyd Cymru. Bydd yr archwiliad yn cael ei gynnal gan swyddog prosiect arbenigol gyda chymorth tîm prosiect bychan, yn cynnwys staff o Cadw a chyrff perthnasol eraill, a fydd yn adrodd i’r grŵp gorchwyl a gorffen. Bydd y swyddog yn ymgynghori ag Awdurdodau Lleol a sefydliadau eraill sy’n cynnal arolygon tebyg.
Cyfansoddiad
Prif amcan cam archwilio’r prosiect yw casglu ac adolygu’r dystiolaeth ar gyfer agweddau ar ein hamgylchedd hanesyddol sy’n gysylltiedig â hanes pobl dduon, yn enwedig rôl yr Ymerodraeth Brydeinig a’r fasnach mewn caethweision fel mae’n berthnasol i Gymru. Felly, bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn cynnwys unigolion a ddewiswyd am eu gwybodaeth arbenigol am y Fasnach mewn Caethweision ar draws yr Iwerydd a phresenoldeb hanesyddol pobl dduon yng Nghymru.
Bydd yr aelodaeth yn cynnwys saith unigolyn ac yn cynnwys cynrychiolaeth o blith:
- Academyddion sy’n arbenigo mewn hanes y fasnach mewn caethweision a choloneiddio
- Partneriaeth Cymru Hanesyddol
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Bydd y Grŵp yn cael ei gadeirio gan Gaynor Legall.
Er mwyn ehangu’r ymgynghoriad ar yr archwiliad, bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn rhannu drafft cyntaf gyda grŵp cyfeirio allanol, i’w sefydlu mewn ymgynghoriad â’r Is-adran Cydraddoldeb, ac i gynnwys cynrychiolaeth eang o blith rhanddeiliaid yn cynnwys pobl ifanc, awdurdodau lleol a Sefydliad Bevan.
Ffyrdd o weithio/trefniadau gweithredu
Bydd y grŵp yn cyfarfod bedair gwaith:
- Cyfarfod 1: i gytuno ar y cylch gwaith a phennu rhaglen waith - yn cynnwys cytuno ar friff ar gyfer yr archwiliad
- Cyfarfod 2: i ystyried drafft cyntaf yr archwiliad a chyfansoddiad y grŵp cyfeirio allanol a’r ymgynghoriad yn Llywodraeth Cymru, Cynghorwyr Arbennig a Gweinidogion
- Cyfarfod 3: i ystyried sylwadau yn dilyn yr ymgynghoriad
- Cyfarfod 4: i gytuno ar yr adroddiad terfynol a gwneud argymhellion ar gyfer ail gam y gwaith i’w gyflwyno i Weinidogion
Efallai y gofynnir am gyngor gan aelodau unigol y grŵp ar adegau eraill pan mae ymholiadau penodol yn codi wrth gynnal yr archwiliad.
Allbwn
Bydd y Grŵp yn cyflwyno’r archwiliad a’r adroddiad naratif sy’n cyd-fynd ag ef i’r Prif Weinidog erbyn diwedd Hydref 2020.
Bydd yr adroddiad yn cael ei ddefnyddio fel sail i ail gam y prosiect a fydd yn nodi ymatebion priodol i’r wybodaeth a gasglwyd gan yr archwiliad.