Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rwy’n falch o allu cyhoeddi heddiw bod Prifysgol De Cymru yn cyhoeddi ei hadolygiad o’r tri Chynllun Peilot Nyrsio Ardal yn y Gymdogaeth.
Dechreuodd y cynlluniau peilot dwy flynedd hyn, a gafodd eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, ym mis Ebrill 2018. Mae’r adroddiad yn dangos yr hyn a ddysgir gan y prototeip o dimau Nyrsio Ardal yn y Gymdogaeth, a sut y mae eu gwaith yn cydweddu â’r cyfeiriad strategol a’r polisi i Gymru a ddisgrifir yn y cynllun Cymru Iachach.
Ym mis Mawrth 2019, cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ymchwiliad undydd i faes nyrsio ardal a chymunedol. Ar 21 Awst, cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad ar yr ymchwiliad hwnnw, ac ar 20 Medi 2019, derbyniais naw allan o’r deg o argymhellion a wnaed.
Roedd dau o’r argymhellion yn gysylltiedig â’r Cynlluniau Peilot Nyrsio Ardal yn y Gymdogaeth. Y cyntaf oedd y dylid cyflwyno’r hyn a ddysgwyd yn genedlaethol os oedd y gwerthusiad o’r peilot yn gadarnhaol. Yr ail argymhelliad oedd y dylid cyflwyno systemau ar-lein ar gyfer trefnu amserlen y llwyth achosion ar lefel genedlaethol, os oedd y gwerthusiad o’r rhain hefyd yn gadarnhaol.
Er mwyn hwyluso’r gwaith o gyflwyno’r hyn a ddysgwyd o’r cynlluniau peilot yn genedlaethol, rwyf wedi penderfynu penodi Nyrs Arweiniol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Sylfaenol a Chymunedol, fel rhan o’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol. Gallaf gadarnhau y bydd y swydd hon yn dechrau ddiwedd mis Tachwedd 2020.
Rwyf wedi penderfynu y dylai’r byrddau iechyd, nad oeddent yn rhan o’r cynlluniau peilot cychwynnol, gael cyllid i ddechrau ar y gwaith o gyflwyno dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer e-amserlennu’r llwyth achosion. Bydd Partneriaeth Cydwasanaethau Genedlaethol Cymru yn arwain y gwaith o ddatblygu contract ar gyfer Cymru gyfan. Bydd hynny’n sicrhau ein bod yn cael y manteision gorau o gaffael y systemau hyn yn genedlaethol.
Yn 2017, cynyddais nifer y lleoedd dwy flynedd rhan-amser ar gyfer hyfforddi fel nyrsys ardal, o 41 o leoliadau’r flwyddyn i 80 o leoliadau’r flwyddyn, ac rydym wedi parhau i gynnal y niferoedd comisiynu hyn. Roeddem wedi cynllunio ar gyfer hyfforddi 80 o nyrsys ardal ychwanegol. Oherwydd y cynnydd sylweddol yn y niferoedd sy’n hyfforddi, sef i 160 o fyfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn nyrsys ardal ar unrhyw adeg benodol, roedd yn anodd i sefydliadau ryddhau mwy o staff. Hyd at fis Medi 2020, ni fu ond yn bosibl hyfforddi 57 o nyrsys ardal yn ychwanegol at y niferoedd a gomisiynwyd. Gan fod pwysau eithriadol ar wasanaethau dros y gaeaf hwn oherwydd y pandemig COVID-19 a’r heriau sylweddol i wasanaethau cymunedol o ran rhyddhau staff yn ôl y niferoedd a gomisiynwyd, rwyf wedi penderfynu nad fyddai’n ddoeth bwrw ymlaen â’n cynlluniau mewn perthynas â’r 23 o nyrsys ardal eraill ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn parhau’n ymrwymedig i hyfforddi nyrsys ardal.
Rwyf wedi gofyn i’r Prif Swyddog Nyrsio fonitro cynnydd, a byddaf yn darparu gwybodaeth am unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol. Mae’r ddolen at yr adroddiad ar gael isod.
I gloi, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’n nyrsys ardal, a’r staff sy’n eu cefnogi, sydd wedi gweithio i sicrhau bod gwasanaethau wedi parhau i weithredu’n llawn yn ystod cyfnod y pandemig. Mae ein staff wedi cydweithio i ddarparu gofal nyrsio i bobl yn eu cartrefi eu hunain, a hynny o dan amgylchiadau hynod heriol. Mae hyn wrth gwrs wedi golygu bod angen defnyddio cyfarpar diogelu personol i gynnal diogelwch y claf. Mae ein timau nyrsys ardal yn arwyr sydd wedi bod yn gweithio’n ddyfal yn y cefndir i barhau i ofalu amdanom drwy gydol y cyfnod digynsail hwn. Diolch yn fawr iawn.
Gwerthusiad o'r Cynlluniau Peilot Nyrsio Ardal Gymdogaeth yng Nghymru | University of South Wales