Jane Hutt, Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
Eleni, dathlodd Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 bum mlynedd ers iddi ddod i rym. Mae'r Cynghorwyr Cenedlaethol wedi cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru yn llawn o ran dileu pob math o drais ar sail rhywedd, ac mae eu trydydd cynllun blynyddol yn parhau i oresgyn rhwystrau ac ymgorffori arferion da.
Mae adran 22 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynghorwyr Cenedlaethol, sef Yasmin Khan a Nazir Afzal OBE, baratoi cynllun blynyddol sy'n nodi eu huchelgeisiau ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod.
Rwyf wedi bwrw golwg dros y cynllun blynyddol ac wedi cytuno i'w gyhoeddi.
Unwaith eto, rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y cyngor a'r arbenigedd y mae'r Cynghorwyr Cenedlaethol yn eu rhoi i Lywodraeth Cymru. Ni allai neb fod wedi rhagweld yr hyn a fyddai'n digwydd eleni ac rwy'n gwerthfawrogi'n arbennig y cymorth a'r cyngor y mae'r Cynghorwyr Cenedlaethol wedi eu rhoi i'm swyddogion ers dechrau pandemig y coronafeirws. Gwn y bydd y gwersi a ddysgwyd wrth ymateb i'r argyfwng hwn yn llywio eu gwaith dros y misoedd nesaf.
Am gopi o'r cynllun blynyddol, cliciwch ar y ddolen isod: