Daeth yr ymgynghoriad i ben 26 Chwefror 2021.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r crynodeb o'r ymatebion bellach ar gael yn gov.uk.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Dweud eich dweud ar y ‘Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Defnyddio Plaladdwyr yn Gynaliadwy’.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Defra, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon yn holi barn ar y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Defnyddio Plaladdwyr yn Gynaliadwy.
Nod y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol diwygiedig yw lleihau risgiau ac effaith plaladdwyr i iechyd dynol a’r amgylchedd, tra’n sicrhau bod gallu plâu a phla-laddwyr i wrthsefyll sefyllfaoedd yn cael eu rheoli’n effeithiol.
Ei brif amcanion yw:
- rheoleiddio i warchod ein hiechyd a’n hamgylchedd.
- Cefnogi y datblygiad a’r defnydd o IPM.
- Defnyddio plaladdwyr yn ddiogel ac yn gynaliadwy.
- Cefnogi’r gostyngiad yn y risgiau sy’n gysylltiedig â defnyddio plaladdwyr trwy wella metrigau a dangosyddion.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar gov.uk