Cyngor a gyflwynwyd i'r Prif Weinidog ar gyfyngiadau ar ôl y cyfnod atal byr.
Rwyf wedi adolygu’r cynigion i gadw’r cyfyngiadau presennol yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, gyda rhai newidiadau i’r darpariaethau gorfodi yn dilyn adolygu’r drefn hysbysiadau cosb benodedig a rhai diwygiadau technegol cyffredinol.
Mae fy nghyngor wedi’i hysbysu o hyd gan farn Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau (SAGE) a Chell Cyngor Technegol Cymru (TAC), a thrwy drafodaethau gyda Phrif Swyddogion Meddygol y pedair gwlad a’r Prif Gynghorydd Economaidd yng Nghymru.
Mae tystiolaeth dda i awgrymu bod y cyfnod atal byr yng Nghymru wedi cael yr effaith a fwriadwyd ar gyfradd drosglwyddo COVID-19. Mae’r gyfradd achosion wedi bod yn gostwng, mae arwydd bod nifer y bobl sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty yn sefydlogi ac amcangyfrifir bod gwerth R yng Nghymru rhwng 0.9 a 1.2 ar hyn o bryd. Gall llawer o ffactorau ddylanwadu ar y ffigurau hyn felly dylid monitro’r cynnydd yn ofalus, ochr yn ochr â’r data o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig ac o wledydd eraill rhyngwladol, lle mae gwahanol drefniadau ac amserlenni wedi’u rhoi ar waith. Nid yw’r gwelliannau rydym yn eu gweld ar hyn o bryd yn gadarn iawn ac rwy’n llawn ddisgwyl gweld cynnydd eto yn nifer yr achosion dros y pythefnos nesaf (yn wir, mae arwyddion bod hyn yn digwydd yn barod yn rhai o’n hardaloedd awdurdodau lleol). Nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth eto bod y newid sydd ei angen o ran ymddygiad y cyhoedd i gadw cyfradd drosglwyddo’r feirws o fewn ffiniau y gellir eu rheoli wedi’i gyflawni yng Nghymru nac yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig. Rwyf, felly, yn cytuno â’r cynigion i gadw’r cyfyngiadau presennol ar waith gan fod hyn yn sicrhau bod y neges ynglŷn â’r perygl o gymdeithasu yn gyson. Dylai cosbi am amrywiaeth o faterion yn ymwneud â gwrthod cydymffurfio, gan gynnwys gwrthod hunanynysu, helpu i wneud ein hamgylchedd bob dydd yn fwy diogel.
Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn ein dealltwriaeth o’r modd y caiff COVID-19 ei drosglwyddo drwy ddefnynnau, gronynnau aerosol bach ac ar arwynebau, gyda'r risgiau mwyaf sylweddol yn codi dan do, mewn lleoliadau gorlawn heb ddigon o awyr iach. Wrth i dymor yr ŵyl agosáu, dylai pawb fod yn ymwybodol o’r risgiau hyn a gwybod beth i’w wneud i’w hatal neu eu hosgoi. Croesewir ymgyrch genedlaethol ar y cyd, gan ganolbwyntio ar ein cyfrifoldeb ar y cyd i roi mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith, gwisgo gorchuddion wyneb pan fo angen, golchi ein dwylo yn rheolaidd ac aros y tu allan pan fo hynny’n bosibl.
Ein her dros yr wythnosau nesaf yw cadw nifer yr achosion o’r haint COVID-19 mor isel â phosibl wrth inni symud tuag at dymor yr ŵyl.
Dr Frank Atherton
Y Prif Swyddog Meddygol
19 Tachwedd 2020