Jonathan Gunter - Gweinidogaeth Bywyd (MOL)
Teilyngwyr
Jonathan Gunter yw sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr MOL, sy'n darparu gwaith ieuenctid drwy gyfrwng cerddoriaeth i bobl ifanc ddifreintiedig. Mae MOL yn defnyddio cerddoriaeth a'r celfyddydau i ymgysylltu â phobl ifanc a'u grymuso, herio materion cymdeithasol, chwalu rhwystrau, a meithrin talent artistig.
Drwy gyfrwng cerddoriaeth, mae pobl ifanc yn datblygu hyder ac yn agored i sgyrsiau am osgoi troseddau cyllyll a throseddau difrifol eraill. Mae'n gweithio gyda chyn-aelodau’r sefydliad i ddarparu modelau rôl a mentoriaid cadarnhaol i bobl ifanc i'w helpu i osgoi bywyd o droseddu. Mae hefyd yn darparu achrediadau lefel mynediad (dros 350 hyd yma) ac yn cysylltu pobl ifanc â chyrsiau coleg, profiad gwaith a chyfleoedd pellach.
Dywedodd un person ifanc: "Rwy'n dod o ddim, rwy'n dod o'r strydoedd, ond o fynychu MOL, dwi oddi ar y strydoedd ac edrychwch lle ydw i nawr.. Dwi byth mewn trwbl nawr ac rwy'n falch ohonof fy hun".
Nododd y beirniaid fod Jonathan yn amlwg yn weithiwr ysbrydoledig sydd wedi rhoi achubiaeth i lawer o bobl ifanc sydd o dan anfantais sylweddol, gan fynd y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir yn rôl gweithiwr ieuenctid.