Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Hoffwn roi gwybod i'r Aelodau am ein cynlluniau i drefnu mai bwrdeistref Merthyr Tudful fydd yr ardal gyfan gyntaf yng Nghymru i gael profion COVID-19 a hynny o dan gynllun peilot. Bydd pawb sy'n byw neu'n gweithio ym Merthyr Tudful yn cael cynnig prawf COVID-19.
Ein nodau wrth gyflawni'r cynllun peilot i brofi ardal yw:
- diogelu Merthyr a thrigolion sy'n wynebu'r risg fwyaf;
- profi cymaint o drigolion Merthyr Tudful â phosibl er mwyn nodi'r feirws, ble bynnag y bo, a grymuso'r gymuned leol i atal a lleihau’r lledaeniad cymunedol er mwyn achub bywydau ac achub bywoliaeth;
- rhoi gwell dealltwriaeth byth inni o nifer yr achosion yn y gymuned a faint o bobl sy'n asymptomatig.
Er mwyn cyflawni'r nodau hyn rydym yn ceisio gweithio gyda'r cymunedau a'r bobl sy'n byw ym Merthyr i’w hannog i fanteisio ar y profion sy'n cael eu cynnig a helpu i gadw Merthyr yn ddiogel.
Mae hyn yn cael ei roi ar waith trwy bartneriaeth gydweithredol rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg a'r Weinyddiaeth Amddiffyn, gyda chymorth logistaidd gan bersonél y Lluoedd Arfog. Mae’r holl bartneriaid o dan sylw wedi dangos menter a chreadigrwydd wrth ddatblygu atebion ar gyfer cyflawni ac mae eu hagwedd bositif wedi creu argraff fawr arnom.
Bydd pob preswylydd yn cael cynnig profion COVID-19 ailadroddus o ddydd Sadwrn 21 Tachwedd hyd yn oed os ydynt yn asymptomatig, i helpu i ddod o hyd i ragor o achosion positif ac i dorri'r cadwyni trosglwyddo. Bydd y safle cyntaf ar gyfer profion asymptomatig yn agor yng nghanolfan hamdden Merthyr Tudful ddydd Sadwrn 21 Tachwedd a bydd ragor o safleoedd yn agor ar draws y fwrdeistref yn nes ymlaen y mis hwn.
Bydd y rhaglen profi torfol yn defnyddio Dyfeisiau Llif Unffordd am y tro cyntaf ar y raddfa hon yng Nghymru. Bydd pawb sy'n mynychu unrhyw un o'r safleoedd ym Merthyr yn cael prawf gan ddefnyddio'r dyfeisiau, sy'n gallu dangos canlyniad o fewn tua 20-30 munud. Os bydd unigolyn yn cael canlyniad positif drwy brawf llif unffordd, bydd wedyn yn cael prawf swab traddodiadol a gofynnir iddo ddychwelyd adref a hunanynysu ar unwaith.
Gan adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o'r cynllun peilot profi torfol cyntaf yn Lerpwl, bydd Merthyr yn darparu gwybodaeth hanfodol bellach i helpu i lywio'r gwaith o gyflwyno profion torfol yng Nghymru yn y dyfodol.