Cabinet Ieuenctid – Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Merthyr Tudful
Enillydd
Mae'r Cabinet Ieuenctid yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar hawliau i ddarparu man diogel bob deufis i bobl ifanc siarad yn agored am eu profiadau. Byddant yn dysgu sgiliau i rymuso eu hunain a chodi hyder, yn ogystal â sut i ddefnyddio eu lleisiau i ddylanwadu ar eraill.
Fel rhan o'u gwaith, maent wedi lobïo'r cyngor lleol i wneud ymgyrchu democrataidd yn fwy cynhwysol. Mae hyn wedi arwain at roi cyfle i bobl ifanc rhwng 11 a 23 oed gynnig eu hunain fel Maer Ieuenctid a chael pleidlais. Maent hefyd wedi gwella'r gwasanaethau a ddarperir i bobl ifanc drwy weithio fel tîm i hyfforddi oedolion sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a'r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol.
Gwnaeth ymroddiad ac ymrwymiad y bobl ifanc argraff fawr ar y beirniaid; gan fynd gam ymhellach na’r disgwyl i wirfoddoli a sicrhau bod llais pobl ifanc yn cael ei glywed.