Gwybodaeth am danau a fynychwyd, marwolaethau o ganlyniad i danau, galwadau ffug, digwyddiad gwasanaethau arbennig a thanau mewn anheddau o fewn rheolaeth ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Perfformiad awdurodau tân ac achub
Mae’r dadansoddiadau yn yr adroddiad yn cwmpasu cyfnod yn bennaf cyn pandemig y coronafeirws (COVID-19), a’r mesurau cyfyngiadau a gyflwynwyd ar 23 Mawrth 2020.
Prif bwyntiau
- Bod Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru wedi mynychu 10,584 o danau, sy’n cyfateb i 34 o danau fesul 10,000 o’r boblogaeth. Mae hyn yn ostyngiad o 18% o gymharu â 2018-19. Ers i gyfrifoldeb am wasanaethau tân ac achub gael ei ddatganoli i Gymru yn 2004-05, mae’r nifer a’r gyfradd wedi mwy na haneru.
- Cafwyd 14,758 o alwadau ffug a fynychwyd yn 2019-20, sy'n cyfateb i 47 fesul 10,000 o'r boblogaeth ac yn ostyngiad o 2% o gymharu â 2018-19.
- Roedd 182 o farwolaethau ac anafiadau o ganlyniad i danau yng Nghymru (6 i bob 100,000 o'r boblogaeth). Mae hyn yn gynnydd bychan i’r rhif, ond ni fu newid yn y ganran.
- Roedd 86% o danau mewn anheddau yng Nghymru wedi'u dal yn yr ystafell lle dechreuodd y tân.
Adroddiadau
Ystadegau perfformiad awdurodau tân ac achub, Ebrill 2019 i Fawrth 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 890 KB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.